Myfyrio ar Fywyd: Dr Darren Freebury-Jones (BA 2010, MA 2012, PhD 2016)
16 Ebrill 2021Mae Dr Darren Freebury-Jones (BA 2010, MA 2012, PhD 2016) yn gyn-fyfyriwr sydd wedi cael tri gradd yng Nghaerdydd ac yn ddarlithydd Shakespeare poblogaidd yn Stratford-upon-Avon. Mae ei angerdd wedi arwain at ddarganfyddiadau rhyfeddol am fyd llenyddiaeth. Mae’n egluro pam y dewisodd ymroi ei hun i’r Bardd, a’r gwersi y mae wedi’u dysgu ar y ffordd.
Cefais ran y Blaidd Mawr Drwg mewn cynhyrchiad ysgol o Hugan Fach Goch pan yn ddeg neu un ar ddeg oed a dylanwadodd hyn ar nifer o fy newisiadau gyrfa. Dyna oedd fy nghyflwyniad cyntaf i theatr ac mewn ennyn diddordeb y gynulleidfa, ac mae perfformio dal yn rhan annatod ohona i. Cefais fy nylanwadu’n fawr gan athrawon gwych. Roedd yr athrawon yn cynnwys Jamie Beynon, a gyflwynodd fi i King Lear Shakespeare yn y coleg, a darlithwyr fel yr Athro Martin Coyle a’r Athro Richard Wilson ym Mhrifysgol Caerdydd; roedd eu hangerdd am y pwnc wedi fy ysbrydoli i geisio dod yn athro gorau y gallaf fod.
Roedd rhai o fy atgofion hapusaf ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn teimlo fel oes aur. Rwy’n cofio gwylio golau’r haul yn adlewyrchu oddi ar y cerfluniau yng Ngerddi’r Gorsedd yn ystod misoedd yr haf ac ymlwybro trwy’r dail crin ger yr amgueddfa yn y gaeaf. Fe wnes i fy BA, MA, a PhD yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, felly roedd y Brifysgol yn rhan gynhenid o dyfu i fyny i mi.
Roedd yn teimlo’n rhyfedd pan ddechreuais ddysgu seminarau llenyddiaeth Saesneg yn ystod fy PhD ar Shakespeare, yr un seminarau yr oeddwn i wedi cael fy nysgu ynddynt. Roedd yn teimlo fy mod yn gwylio ysbrydion fy ngorffennol yn crwydro ymysg gwefr myfyrwyr ifanc ar Heol Colum. Roeddwn i’n teimlo empathi go iawn gyda’r myfyrwyr hynny, ond roeddwn hefyd yn cydnabod bod gan bob unigolyn wahanol ddewisiadau ac arddulliau dysgu. Profiad anhygoel oedd clywed fy ngoruchwyliwr blaenllaw, yr Athro Martin Coyle, yn dweud ei fod yn dal i ddysgu bob dydd. Felly es ati i ddysgu o’r persbectif fy mod i, yn union fel fy myfyrwyr, yn dysgu’n barhaus.
Ces i fy llethu ag emosiwn yn ystod fy seminar olaf. Des i ar draws grwpiau gwahanol iawn o fyfyrwyr dros y dair blynedd; Cefais y fraint o wylio unigolion yn tyfu a datblygu, lleisiau a oedd unwaith yn ddistaw neu’n betrus bellach yn cynnig cyfraniadau gwerthfawr i drafodaethau grŵp. Ychydig o amser a gefais i fyfyrio ar y sesiwn olaf honno, fodd bynnag, gan i mi orfod mynd yn syth i’m car a gyrru i gyfweliad swydd. Cefais y swydd. Roedd ar gyfer cwmni e-ddysgu, yn arbenigo i raddau helaeth mewn cyrsiau meddygol ar-lein. Fel ysgolhaig Shakespeare, treuliais ddwy flynedd yn pendroni beth roeddwn yn ei wneud yn y cwmni hwnnw. Nid oedd yn ymddangos ei fod yn gwneud synnwyr. Sut oedd hwn yn cyd-fynd â’m datblygiad?
Wrth gwrs, mae popeth yn gwneud synnwyr o edrych yn ôl: unwaith roedd y darnau’n bigog ac yn anghydnaws, mae’r jig-so bellach yn ffitio yn berffaith. Dysgais gymaint yn gweithio i’r cwmni hwnnw am realiti bywyd swyddfa a manteision cydweithredu. Dysgais lawer am wahanol fathau o addysg, a dysgais lawer amdanaf fy hun. Fe wnes i neilltuo fy nosweithiau yn bennaf i hybu fy rhestr cyhoeddiadau a gweithio tuag at fy ngyrfa. Roeddwn yn ymddiried yn yr ymadrodd o’r Tempest, ‘Os ceir rhywbeth yn rhy hawdd, yna gellir tanamcangyfrif ei werth.’
Roedd gwersi ar addysgeg ddigidol yn amhrisiadwy o ran cael fy swydd ddelfrydol fel darlithydd Shakespeare yn Stratford-upon-Avon. Rydw i wedi bod yn ffodus iawn o gael cyfleoedd i gwrdd â myfyrwyr ac athrawon o bob cwr o’r byd sy’n ymweld â thref enedigol Shakespeare, ac rydw i wedi gallu teithio’r byd a siarad am fy nghariad at Shakespeare. Rwy’n cael gweld y wreichionen honno’n tanio mewn myfyrwyr, gwreichionen rwy’n ei hadnabod ynof fy hun o’r adeg y cyflwynodd darlithwyr prifysgol fi i ddramâu, cymeriadau neu syniadau newydd Shakespeare.
Rwy’n falch iawn o’r cyfraniadau yr wyf wedi’u gwneud i faes astudiaethau priodoli awduraeth fodern gynnar. Yn ddiweddar, rwyf wedi darganfod bod trasiedi Locrine, sydd wedi’i phriodoli i Shakespeare, wedi’i ysgrifennu mewn gwirionedd gan ei wrthwynebydd, Robert Greene! Mae’r math hwn o ddadansoddiad testunol yn hynod o llafurus ac yn anodd, ond rwy’n mwynhau ymroi iddo ac mae’n werth chweil pan fyddwch chi’n cael eich cydnabod yn gyhoeddus. Rwyf wedi bod mewn sawl cyfnodolyn academaidd a adolygwyd gan gymheiriaid ond hefyd mewn papurau newydd fel The Guardian, The Telegraph, The Times, a The Independent, am gyfrannu at ein dealltwriaeth o ddramodwyr oedd yn gweithio yn ystod cyfnod aur llenyddiaeth. Mae’n wych dod â’r darganfyddiadau hyn i sylw darllenwyr academaidd a chyffredinol.
O edrych ar y pethau cadarnhaol yn y sefyllfa fyd-eang bresennol, rwy’n credu ei bod yn gyfnod anhygoel o gyffrous o ran addysgeg ddigidol. Rwy’n darganfod llwyfannau newydd ar gyfer addysg o ansawdd uchel ac yn sicr yn dysgu llawer am y ffyrdd y gallaf addasu fy narpariaeth ar gyfer gwahanol gyfryngau. Mae’r pandemig wedi rhoi mwy o amser i mi fyfyrio ar ba fath o ddarlithydd ydw i. Rydw i hefyd wedi gallu treulio mwy o amser gyda’r teulu, gyda fy mhartner Emma, ac arsylwi ar y ffyrdd y mae fy machgen bach Oliver yn dysgu bob dydd.
Gobeithio y byddaf yn parhau i ddatblygu fel addysgwr a gwneud cyfraniadau mawr i’n dealltwriaeth o lenyddiaeth fodern gynnar. Pob tro rwy’n mynd i mewn i ddarlithfa, rwy’n cofio’r holl wersi a ddysgodd Prifysgol Caerdydd i mi, yn enwedig y gallu i gydnabod ein bod yn dal i ddysgu bob dydd.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018