Rhedeg er lles dros y gaeaf hwn
18 Rhagfyr 2020Gall misoedd y gaeaf fod yn anodd i unrhyw un sy’n cael trafferth â’u hiechyd meddwl, ac eleni yn fwy nag erioed.
Ond mae ymarfer corff fel rhedeg yn ffordd effeithiol o ofalu ar ôl eich iechyd meddwl. Mae bod y tu allan yn y golau naturiol ac aros yn egnïol yn helpu lles cyffredinol. Gall yr hwb serotonin a gawn o’r haul ac ymarfer corff roi hwb i hwyliau, gwella cwsg a bod o fudd i’ch iechyd meddwl.
Fodd bynnag, gall cyfuniad o dywydd gwael, nosweithiau tywyll, a phwysau ychwanegol i ymdopi ag ymrwymiadau teuluol ochr yn ochr â gwaith ei gwneud hi’n anhygoel o anodd dod o hyd i’r amser a’r cymhelliant.
Mae ymchwil yn dangos bod menywod yn rhedeg ar gyfer iechyd meddwl
Edrychodd astudiaeth a gynhaliwyd yn 2019 gan ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â threfnwyr Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd, Run 4 Wales, yn benodol ar pam mae menywod yn rhedeg, a’r ffactorau sy’n eu rhwystro.
Dywedodd menywod a ymatebodd i’r astudiaeth fod rhedeg yn hybu eu hiechyd corfforol a meddyliol, yn lleddfu gorbryder ac yn gwella eu lles. Mewn gwirionedd, dywedodd 74% o fenywod mai buddion iechyd meddwl oedd un o’r rhesymau eu bod yn rhedeg.
Ond canfu’r astudiaeth hefyd fod pwysau gwaith a theulu yn effeithio ar yr amser sydd ganddynt i redeg. Gydag effaith ychwanegol COVID-19, nid yw’n syndod bod llawer o fenywod yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i amser i wneud ymarfer corff, ar adeg y mae ei hangen fwyaf mewn gwirionedd.
Cael ffocws
Er nad oes ffon hud i greu mwy o oriau yn ystod y dydd, gall trin ymarfer corff fel rhan bwysig o’ch trefn hunanofal corfforol a meddyliol helpu wrth flaenoriaethu’r hyn sydd gennych i’w wneud. Gall ymrwymo i her fod yn allweddol i gadw ffocws eich hun, a sicrhau eich bod yn cadw at eich targedau ymarfer corff.
Mae Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd bellach wedi’i drefnu ar gyfer 3 Hydref 2021 sy’n golygu bod tua naw mis tan ddiwrnod y ras. Cofrestrwch i redeg gyda #TîmCaerdydd a byddwn yn helpu i gadw’ch cymhelliant gydag awgrymiadau a chyngor rheolaidd i’ch helpu i aros ar y trywydd iawn.
Rhedeg i gefnogi ein hymchwil o safon fyd-eang
Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd rhad ac am ddim sydd gennym ar gyfer ein codwyr arian – dewiswch eich achos a chofrestrwch i gymryd rhan. Gallech ddewis cefnogi’r ymchwil iechyd meddwl a niwrowyddoniaeth sy’n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd i helpu i wella diagnosis a thriniaeth ar gyfer ystod eang o gyflyrau gan gynnwys iselder ysbryd, sgitsoffrenia, ac anhwylder deubegynol.
Mynegwch eich diddordeb gyda ni a byddwn yn cysylltu i roi rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r broses gofrestru a hawlio eich lle am ddim ar #TîmCaerdydd.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018