Athro Ffisioleg Arloesol Caerdydd
19 Rhagfyr 2019Nid yw Subodh Chandra Mahalanobis yn enw cyfarwydd i lawer, ond roedd y cyn-academydd o Brifysgol Caerdydd yn arloeswr yn ei gyfnod. Yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy (a ddaeth yn ddiweddarach yn Brifysgol Caerdydd), fe dorrodd dir newydd nid yn unig yn y byd gwyddonol ond hefyd drwy ei waith yn hyrwyddo annibyniaeth India.
Ganwyd Mahalanobis yn Kolkata ym 1868. Datblygodd frwdfrydedd dros ymchwiliad gwyddonol yn ifanc ac ymrestrodd yn Ysgol Meddygaeth Calcutta yn 1883. O fanno, fe wnaeth ei ffordd i Brydain, yn astudio ym Mhrifysgol Caeredin, cyn teithio i’r de yn 1897 i Gaerdydd, a dod yn ddarlithydd cynorthwyol ac yn arddangoswr mewn ffisioleg. Yn ôl The Cardiff Times yn 1897, hwn oedd y tro cyntaf i Indiad gael ei benodi’n arholwr ar gyfer gradd wyddonol mewn prifysgol Brydeinig.
Yn wir, roedd hwn yn gyfnod arloesol yn hanes Prifysgol Caerdydd. Ychydig dros ddegawd ar ôl i Mahalanobis weithio yng Nghaerdydd, ymunodd Millicent Mackenzie, un o benseiri mudiad y swffragetiaid â’r Brifysgol gan ddod yn athro benywaidd cyntaf mewn prifysgol siartredig lawn yn y DU .
Roedd Mahalanobis ei hun hefyd wedi bod yn weithgar yn wleidyddol ym maes hawliau a chenedlaetholdeb Indiaidd. Roedd yn aelod o Gyngres Genedlaethol India ac yn llywydd cymdeithas Indiaidd Caeredin. Roedd hefyd yn aelod sefydlol o Gymdeithas Foesegol Caeredin yn trafod pynciau megis hawliau Indiaid a’u haddysg.
Credai ymchwilydd modern ym Mhrifysgol Caeredin ei fod yn bosibl y cafodd Mahalanobis drafferth datblygu ei yrfa ym Mhrydain. Gall hyn fod wedi ei ysgogi i ddychwelyd i India, lle daeth yn athro yn Kolkata yn 1900. Yno, fe sefydlodd ffisioleg fel pwnc academaidd annibynnol yn y wlad: cafodd ei waith effaith ddwys ar addysg Indiaidd. Yn 1934, daeth yn llywydd sefydlol Cymdeithas Ffisiolegol India – sefydliad sy’n parhau heddiw. Er cyflawniadau a gallu diamheuol Mahalanobis, ychydig iawn a ysgrifennwyd amdano, a dim ond ychydig o gydnabyddiaethau sydd o’i gyfraniadau arloesol i fywyd Prifysgol yng Nghaeredin a Chaerdydd.
Wedi’ch ysbrydoli gan hanes Subodh Chandra Mahalanobis? Dywedwch wrthym am enwau nodedig eraill sydd â chysylltiadau â Chaerdydd a Phrifysgol Caerdydd: rydym eisiau eich awgrymiadau am ffigurau hanesyddol sy’n haeddu cael eu dathlu mewn enwau adeiladau, gwaith celf a phortreadau ar y campws.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018