Gwirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol
29 Awst 2019Gwirfoddolodd Rhys Fletcher (BA 2015) i gefnogi Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst. Fe holon ni Rhys sut oedd ei brofiad, a pham ei fod wedi dewis cymryd rhan.
Pam wnes di ddewis dod yn Llysgennad Cynfyfyrwyr?
Fe wnes i astudio am dair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd a chael amser gwych – nid yn unig yn academaidd ond hefyd drwy wirfoddoli a chwaraeon. Fe gyfunodd y cyfan i greu profiad cofiadwy yng Nghaerdydd.
Felly i mi, mae’n gyfle i roi yn ôl i’r Brifysgol, ac mae’n ffordd dda i gwrdd â chynfyfyrwyr eraill. Rydych chi’n cwrdd â llawer o wahanol bobl a phobl ddiddorol.
Felly, sut brofiad oedd e’?
Ro’n i’n gwisgo’r crys t glas gyda logo Prifysgol Caerdydd ac, er mod i yng Ngogledd Cymru yn yr Eisteddfod, roedd pobl yn gweld y crys t ac yn dechrau sgyrsiau gyda mi fel petaem ni’n adnabod ein gilydd fel ffrindiau gan fod y ddau ohonom ni wedi mynd i Brifysgol Caerdydd. Dwi’n meddwl mai dyna uchafbwynt fy amser yn yr Eisteddfod.
Rydw i’n hoffi siarad gyda phobl ac mae bod yn Llysgennad Cynfyfyrwyr yn rhoi’r cyfle i mi glywed llawer o wahanol straeon, gan bob math o wahanol bobl. Fe ges i un o fy sgyrsiau mwyaf diddorol gydag athro o Brifysgol Caerdydd a oedd wedi bod yn addysgu hanes ers y 1960au – roedd ganddo lawer o straeon difyr am y Brifysgol a sut y mae hi wedi newid dros amser.
Beth wnaeth i ti fod eisiau gwirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol?
Mae’r Eisteddfod yn ddathliad o ddiwylliant Cymreig. Mae pobl wedi gofyn i mi pam wnes i ddewis Prifysgol Caerdydd yn lle mynd i Loegr; dwi’n meddwl bod aros yng Nghymru a dathlu’r diwylliant yn rhan o’r hunaniaeth Gymreig.
Dwi’n meddwl ei bod yn bwysig iawn i gynfyfyrwyr ymuno mewn digwyddiadau fel hyn a fydd yn helpu i godi proffil y Brifysgol.
Beth oedd dy rôl yn yr Eisteddfod?
Ro’n i ar stondin Prifysgol Caerdydd lle maen nhw’n cynnal digwyddiadau a sgyrsiau. Ar brynhawn dydd Gwener roedd digwyddiad cymdeithasol arbennig ar gyfer cynfyfyrwyr – cyfle gwych i mi roi help llaw! Fe wnes i weithio gyda thîm y Brifysgol i baratoi ar gyfer y digwyddiad a chroesawu pobl. Mae’n dda siarad ag eraill am eu profiad o’r Brifysgol a chreu cysylltiadau newydd.
Dwi’n meddwl mai un o’r pethau pwysicaf y gall pobl ei wneud yma yw rhannu eu straeon gan fod hynny’n gallu ysbrydoli pobl sy’n meddwl am fynd i’r Brifysgol i ddewis Caerdydd.
Un peth yw gweld y lle mewn prosbectws, ond mae’n well clywed amdano gan rywun sydd wedi bod yno.
A yw profiad Rhys wedi eich ysbrydoli chi? Gallwch un ai rannu eich stori eich hun neu gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018