Skip to main content

Arts, Humanities & Social SciencesBusinessEin Cyn-fyfyrwyr

Daniel Swygart (BScEcon 2017)

14 Chwefror 2019
Daniel Swygart
Daniel Swygart

Mae ysbryd entrepreneuraidd yn briodwedd y mae Ysgol Busnes Caerdydd yn annog ei holl fyfyrwyr i’w meithrin. Mae Daniel Swygart (BScEcon 2017) a fu’n astudio BScEcon Economeg yn yr Ysgol yn ymgorffori’r ethos hwn ac yn disgrifio Caerdydd fel y lle y gwnaeth ei “weledigaeth busnes a’i ymerodraeth ddechrau.”

Mae Caerdydd yn brifysgol wych mewn dinas fywiog i fyfyrwyr. Yn ogystal â’r ffaith mai prifddinas yw hi, mae hi hefyd yn agos at gefn gwlad os ydych yn mwynhau chwaraeon awyr agored eithafol.

Rhoddodd fy mhrofiad fel myfyriwr Economeg ym Mhrifysgol Caerdydd yr hyder a’r feddylfryd addas i mi ar gyfer entrepreneuriaeth.

Mae Menter a Dechrau Busnes yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial llawn ym myd busnes ac entrepreneuriaeth ac roedden nhw’n help mawr i mi gyda’r camau cyntaf i fod yn entrepreneur.

Ar ôl y Brifysgol, dechreuais fy nghwmni technoleg fy hun o dan yr enw Alpacr. Mae Alpacr yn llwyfan cymdeithasol sy’n cysylltu’r byd trwy deithio ac anturio.

Lansiwyd y llwyfan yn 2018 ar draws 12 o ddinasoedd Ewrop, gan godi dros $0.5m o arian buddsoddi, ac mae ganddo dîm anhygoel o 12. Mae’n werth nodi mai Cyfarwyddwr Anweithredol Alpacr yw Tyler Droll, cyn aelod Forbes 30 o dan 30, Prif Weithredwr YikYak, ap gwerth $400m, a chodi $74m mewn buddsoddiadau.

Yr uchafbwynt i mi ers gadael y Brifysgol oedd pan enillodd Alpacr gystadleuaeth cyflwyno Virgin Voom a gynhaliwyd gan Syr Richard Branson. Yn y gystadleuaeth, roedd busnesau o ledled y DU yn cyflwyno eu syniadau i ennill cyfran o £1m mewn gwobrau.

Fy nghyngor i fyfyrwyr presennol sydd eisiau rhedeg eu busnes eu hunain yw’r tri pheth canlynol: Gweledigaeth, Natur Benderfynol, a’r Gallu i fod yn Hyblyg. Byddwch yn uchelgeisiol gyda’ch gweledigaeth – gallwch gyflawni llawer gyda gwaith caled ac ymroddiad. Peidiwch â rhoi’r gorau iddi, a defnyddiwch eich gallu i addasu ac arloesi er mwyn llwyddo.