Daniel Swygart (BScEcon 2017)
14 Chwefror 2019Mae ysbryd entrepreneuraidd yn briodwedd y mae Ysgol Busnes Caerdydd yn annog ei holl fyfyrwyr i’w meithrin. Mae Daniel Swygart (BScEcon 2017) a fu’n astudio BScEcon Economeg yn yr Ysgol yn ymgorffori’r ethos hwn ac yn disgrifio Caerdydd fel y lle y gwnaeth ei “weledigaeth busnes a’i ymerodraeth ddechrau.”
Mae Caerdydd yn brifysgol wych mewn dinas fywiog i fyfyrwyr. Yn ogystal â’r ffaith mai prifddinas yw hi, mae hi hefyd yn agos at gefn gwlad os ydych yn mwynhau chwaraeon awyr agored eithafol.
Rhoddodd fy mhrofiad fel myfyriwr Economeg ym Mhrifysgol Caerdydd yr hyder a’r feddylfryd addas i mi ar gyfer entrepreneuriaeth.
Mae Menter a Dechrau Busnes yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i helpu myfyrwyr i wireddu eu potensial llawn ym myd busnes ac entrepreneuriaeth ac roedden nhw’n help mawr i mi gyda’r camau cyntaf i fod yn entrepreneur.
Ar ôl y Brifysgol, dechreuais fy nghwmni technoleg fy hun o dan yr enw Alpacr. Mae Alpacr yn llwyfan cymdeithasol sy’n cysylltu’r byd trwy deithio ac anturio.
Lansiwyd y llwyfan yn 2018 ar draws 12 o ddinasoedd Ewrop, gan godi dros $0.5m o arian buddsoddi, ac mae ganddo dîm anhygoel o 12. Mae’n werth nodi mai Cyfarwyddwr Anweithredol Alpacr yw Tyler Droll, cyn aelod Forbes 30 o dan 30, Prif Weithredwr YikYak, ap gwerth $400m, a chodi $74m mewn buddsoddiadau.
Yr uchafbwynt i mi ers gadael y Brifysgol oedd pan enillodd Alpacr gystadleuaeth cyflwyno Virgin Voom a gynhaliwyd gan Syr Richard Branson. Yn y gystadleuaeth, roedd busnesau o ledled y DU yn cyflwyno eu syniadau i ennill cyfran o £1m mewn gwobrau.
Fy nghyngor i fyfyrwyr presennol sydd eisiau rhedeg eu busnes eu hunain yw’r tri pheth canlynol: Gweledigaeth, Natur Benderfynol, a’r Gallu i fod yn Hyblyg. Byddwch yn uchelgeisiol gyda’ch gweledigaeth – gallwch gyflawni llawer gyda gwaith caled ac ymroddiad. Peidiwch â rhoi’r gorau iddi, a defnyddiwch eich gallu i addasu ac arloesi er mwyn llwyddo.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018