Newid y drefn: Nia Jones (Environmental Geography 2016-) a Douglas Lewns (Environmental Geography 2017-) – The No Straw Stand
20 Rhagfyr 2018Mae Nia Jones (Daearyddiaeth Amgylcheddol 2016-) a Douglas Lewns (Daearyddiaeth Amgylcheddol 2017-yn fyfyrwyr yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn sylfaenwyr yr Ymgyrch Gwellt Plastig – ymgyrch i gael cwmnïau i roi’r gorau i ddefnyddio gwellt plastig. Eleni, bydd Nia yn gwasanaethu fel swyddog Moesegol ac Amgylcheddol yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd.
Defnyddir gwellt plastig, ar gyfartaledd, am 20 munud yn unig. O’u taflu, gallant lygru’r amgylchedd am gannoedd o flynyddoedd. Mae’n fater byd-eang.
Bob dydd, mae dros 8 miliwn darn o blastig yn glanio yng nghefnforoedd y byd. Mae bywyd gwyllt yn eu bwyta, a byddant yn torri’n ddarnau bach o ficroblastigau. Yn ôl amcangyfrifon presennol, erbyn 2050 bydd mwy o blastig na physgod yn ein cefnforoedd. Mae gwellt plastig ymhlith 10 prif ffynhonnell ysbwriel morol; bob blwyddyn, caiff dros 36.4 biliwn ohonynt eu taflu ymaith yn yr Undeb Ewropeaidd yn unig.
Wrth astudio Daearyddiaeth Amgylcheddol, rydym wedi dod i werthfawrogi hyd a lled y broblem hon i raddau helaeth, a pha mor gyflym sy’n rhaid mynd ati i gymryd camau. Fodd bynnag, mae materion amgylcheddol o’r fath yn aml yn teimlo’n rhy fawr i gael eu hunioni gan gamau unigol.
Dyma’r hyn â’n hysbrydolodd i sefydlu’r Ymgyrch Gwellt Plastig. Mae’n fenter sy’n annog busnesau a sefydliadau i ymwrthod â gwellt plastig, a’u disodli gan bethau diwastraff a chynaliadwy eraill. Mae canolbwyntio ar fusnesau yn lleddfu’r pwysau ar unigolion, a thrwy helpu i berswadio busnesau i gael mwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol, gall unigolion a chymunedau deimlo eu bod yn gwneud gwahaniaeth.
Un o’n llwyddiannau mwyaf hyd yma yw argyhoeddi’r gadwyn o fwytai, Wahaca, i roi’r gorau i wellt plastig – ac mae 30 o fusnesau eraill wedi gwneud yr un peth. Ein nod yw argyhoeddi hyd yn oed yn fwy!
Yn sgîl ein llwyddiant, rydym hefyd wedi glanio yng nghanol nifer o brosiectau gwahanol, gan gynnwys Rhiwbina Against Plastic a Plastic Free Penarth. Rydym bellach yn ymgysylltu â Chyngor Caerdydd er mwyn cyflwyno cyfres o lyfrau’r gwyddonydd amgylcheddol ac awdur plant, Ellie Jackson, Wild Tribe Heroes, mewn ysgolion lleol. Os gallwn annog plant ysgol i dyfu i fod y genhedlaeth nesaf o lysgenhadon amgylcheddol, byddwn yn dechrau gweld gwahaniaeth go iawn.
Darllenwch yr erthygl nesaf am Newid y Drefn:
Philip Evans QC (LLB 1993) – Prosiect Dieuogrwydd Caerdydd
Hefyd yn y gyfres:
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018