Traddodiadau Cymreig gyda dylanwadau rhyngwladol
23 Tachwedd 2018I Beca Lyne-Pirkis (BMus 2004), ysgrifennwr, darlledwr a hefyd, cystadleuydd yn rownd derfynol y Great British Bake Off, amrywiaeth yw sail llwyddiant Caerdydd.
“Dysgais gryn dipyn am goginio gan fy rhieni a fy neiniau, felly pan oeddwn i’n fyfyriwr, byddwn i’n coginio a phobi ar gyfer fy nghydletywyr. Yna, yn ystod gwyliau’r haf, teithiais i wlad Thai, Malaysia a’r Eidal, ac fe ddylanwadodd y profiadau hynny ar arddull fy nghoginio yn fawr. Mae’r ffefrynnau fel Cyri Thai Gwyrdd a risoto yn dal i blesio – heb anghofio’r pethau melys, fel fflapjacs, cacen llus a lemwn, a chrempogau! Roedd pawb yn edrych ymlaen at ddydd Mawrth Ynyd yn ein tŷ ni.
Roedd fy amser yma ym Mhrifysgol Caerdydd yn sicr wedi helpu datblygiad fy arddull coginio, a rhoi’r hyder imi wneud cais ar gyfer y rhaglen boblogaidd.
Dywedodd Beca fod cyrraedd rownd derfynol y Great British Bake Off yn 2013 wedi “newid fy mywyd”. “Ers hynny, dwi wedi cael pedair cyfres goginio ar y teledu ac rwy’n dechrau ysgrifennu fy ail lyfr.”
Yn dal i fyw yng Nghaerdydd, mae hi wedi ei chyffroi gan y newidiadau sydd yn digwydd i’r diwydiant bwyd yn y ddinas. “Dwi ddim yn credu bod yna amser gwell wedi bod er mwyn gwneud fy swydd yma!”
Rhowch gynnig ar rysait wych Beca ar gyfer Pice ar y maen siocled gwyn, mafon a cardamom:
Cynhwysion:
- 225g Blawd Codi
- 30g Lard neu Fraster Llysiau, oer ac wedi ciwbio
- 70g Menyn Hallt, oer ac wedi ciwbio
- 110g Siwgr Castr
- 100g Darnau Mân o Siocled Gwyn
- 1 Tiwb o Fafon wedi’u rhewi’n sych
- 10-12 Codau Cardamom, tynnwch y plisgyn allanol a malwch y codau du
- 1 Wy mawr, wedi’i guro gydag ychydig o laeth
- 1/2 llwy fwrdd o Surop Euraidd
Dull
- Hidlwch y blawd a’r sbeisys i mewn i fowlen fawr a rhwbiwch y lard a’r menyn i mewn i’r blawd nes bod y gymysgedd yn edrych fel briwsion bara mawr.
- Ychwanegwch y siwgr, ffrwythau a’r darnau o siocled a chymysgwch y cyfan yna ychwanegwch yr wy wedi’i guro a’r surop euraidd. (Cofiwch: Bydd cynhesu’r surop ychydig yn help i’w gymysgu gyda’r cynhwysion eraill)
- Ffurfiwch y gymysgedd yn does.Dewch â’r gymysgedd at ei fowlen nes ei fod yn ffurfio toes – byddwch yn ofalus i beidio cymysgu’r gymysgedd ormod. (Cofiwch: Dwi’n defnyddio cyllell fenyn nes bod y gymysgedd yn dechrau dod at ei gilydd ac yna dwi’n defnyddio fy nwylo yn ofalus i ddod a’r cyfan yn belen.)
- Ar fwrdd â blawd arno, rholiwch neu wasgwch y toes nes ei fod tua 1cm o drwch. Dwi’n gwneud hyn mewn 2 ran fel ei fod yn haws i drin y toes.
- Gosodwch eich carreg bobi neu badell ffrio drom dros dymheredd isel.
- Torrwch y toes yn gylchoedd 2 fodfedd, irwch y garreg bobi neu badell ffrio a choginiwch eich Pice ar y maen nes eu bod yn ‘frown fel cneuen.’
- Peidiwch â choginio gormod ar yr un pryd a gwnewch yn siŵr eich bod yn iro’r badell rhwng pob llwyth.
- Ar ôl eu coginio, gorchuddiwch nhw yn ysgafn mewn siwgr cyn eu gweini. Blasus yn dwym neu’n oer!
Darllen fwy am Cardiff Connect
A wnaethoch chi fwynhau’r erthygl? Beth yw eich barn?
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018