Sut i fod yn y cyflwr gorau posibl ar ddiwrnod y ras – pum awgrym defnyddiol #TîmCaerdydd
21 Medi 2018I’n rhedwyr o #TîmCaerdydd, mae Hanner Marathon Caerdydd yn prysur agosáu. Gofynnom i Charlotte Arter, Swyddog Chwaraeon Perfformiad Prifysgol Caerdydd, athletwr o dîm rhyngwladol Prydain, a phencampwr 10,000m 2018 Prydain, am bum awgrym ar gyfer cyrraedd y llinell ddechrau yn y cyflwr gorau posibl.
-
Mae llai yn fwy
Ar y cam hwn rydych chi’n agosáu at yr wythnosau olaf cyn y ras. Peidiwch â chael eich temtio i wneud mwy yn ystod yr wythnosau hyn, cynhaliwch yr hyn rydych wedi’i wneud yn barod ac arafwch tan wythnos y ras er mwyn i chi deimlo’n ffres a pharod.
-
Gwrandewch ar eich corff
Os ydych wedi blino neu os oes rhywbeth yn brifo, byddwch yn bwyllog am ychydig ddiwrnodau. Mae’r holl waith caled wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf felly peidiwch â rhoi’r holl hyfforddi rydych chi wedi’i wneud dros y misoedd mewn perygl.
-
Mae adfer yn hollbwysig
Mae’n rhaid i chi fwyta, gorffwys a chysgu’n dda!
-
Peidiwch â newid unrhyw beth cyn diwrnod y ras
Peidiwch â newid eich dillad rhedeg na’ch esgidiau, eich amserlen ddyddiol, na’ch bwyd a diod. Cadwch at yr hyn sy’n gyfarwydd!
-
Mwynhewch!
Rydych chi wedi gweithio mor galed i gyrraedd diwrnod y ras, felly mwynhewch, cymerwch fantais o’r awyrgylch anhygoel a dathlwch ar ôl gorffen!
Yn ogystal â gwneud yn siŵr eich bod wedi eich paratoi, mae’n amser gwych i weld sut mae eich ymdrech i godi arian yn dod yn ei blaen. Dyma gwrw #TîmCaerdydd Hannah Sterritt yn sôn am wneud yn siŵr bod eich ymdrechion i godi arian ar y trywydd iawn hefyd:
“Mae’n amser gwych i rannu eich stori codi arian â’ch cyfoedion. Mae’r ffaith bod diwrnod y ras yn agosáu yn siŵr o ysgogi rhai pobl i gyfrannu wrth iddynt gael blas ar y dasg sydd o’ch blaen. Un dacteg dda yw rhannu’r newyddion diweddaraf yn ystod y broses gyfan gan fod 20% o gyfraniadau yn cael eu gwneud ar ôl i’r digwyddiad orffen. Felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n diweddaru eich tudalen JustGiving ac yn sôn am sut aeth y ras ar ôl gorffen!”
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018