Adnabod eich gwisgoedd graddio
16 Gorffennaf 2018Mae graddio yn benllanw blynyddoedd o waith caled, ac mae’r seremoni a’r defodau yn ddathliad teilwng o hynny. Ond beth yw gwir arwyddocâd y wisg raddio? Pam fod rhai cyflau (hoods) yn wahanol liwiau? Mae ein cyfres ‘Goroesi’r Graddio’ yn parhau, gyda’n Canllaw ar Wisgoedd Graddio
Israddedigion
I ddechrau, beth am gymryd cip ar y rhai mwyaf cyfarwydd. Gŵn du, gyda chap du sgwâr. Mae’r cap academaidd, sydd weithiau’n cael ei gyfeirio ato fel ‘bwrdd morter’ neu ‘mortarboard’, yn fwrdd sgwâr du, ar ben cap corun du gyda thasel du. Mae gŵn myfyrwyr israddedig yn ddu, gyda llewys siâp cloch (nad ydych chi’n gweld cymaint â hynny mewn gwirionedd oherwydd y ffordd y mae’n cael ei wisgo). Ond y rhan mwyaf diddorol yw’r cwfl, neu’r hood.
Mae’r holl gyflau yn seremonïau graddio Prifysgol Caerdydd yn goch ar y tu allan. Daw’r amrywiaeth mewn lliwiau yn y leinin. Mae gan bob math o radd math gwahanol o gwfl, felly fe allwch chi weld pwy sy’n graddio ar unrhyw ddiwrnod penodol os oes gennych chi lygaid barcud i sylwi ar y wahanol fflachiadau o liw.
Diploma: leinin sidan glas golau. Bydd y rhain yn cael eu gwisgo gan unrhyw ddarpar-raddedigion (sef myfyrwyr sydd wedi llwyddo yn eu harholiadau ond nad yw eu gradd wedi’i dyfarnu eto) sy’n ennill y Diploma Addysg Uwch, Diploma Graddedig a Diploma Ôl-raddedig
Tystysgrif: leinin sidan llwydfelyn (beige). Yn cael eu gwisgo gan y rheiny sy’n ennill Tystysgrif Addysg Uwch, Tystysgrif Raddedig, Tystysgrif Ôl-raddedig, Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig
Baglor: leinin sidan gwyn meddal. Dyma’r un yr ydych chi’n debygol o’i weld amlaf yn ystod yr wythnos raddio oherwydd yr amrywiaeth eang o raddau mae’n eu cynnwys. Maen nhw fel a ganlyn….BA, BArch, BD, BEd, BEng, BSc, BScEcon, BMedSc, BMid, BMus, BN, BSD, BTh, LLB. Os ydych chi’n gweld dau fyfyriwr yn dadlau dros bwy sydd â’r radd orau, ond bod gan y ddau ohonynt gyflau gyda leinin gwyn, mae’n saff dweud mai dyma’r hen elyniaeth rhwng BSc a BA ar waith!
Baglor Estynedig a Meistr Cyfunol: leinin sidan gwyn meddal gydag ymyl glas brenhinol. Yn cael eu gwisgo gan y rhai sydd wedi astudio gradd Baglor a Meistr mewn un: BDS, MBBCh, MArch, MChem, MEng, MESci, MMath, MPharm, MPhys Mae’r leinin yr un lliw â’r cwrs Meistr a Addysgir gan nodi bod y ddau wedi astudio â’i gilydd!
Ôl-raddedigion
Meistr a Addysgir: leinin sidan glas brenhinol. Yn cael eu gwisgo gan y rhai sy’n ennill… anadl ddofn os gwelwch yn dda… LLM, MA, MBA, MClinDent, MEd, MEP, MMus, MPA, MPH, MSc, MScD, MScEcon, MTh
Meistr Ymchwil: leinin sidan leilac. Gŵn Meistr sy’n cael ei weld yn llai amlach – felly fe gewch chi ddeg pwynt ychwanegol os ydych chi’n gweld unrhyw un sy’n cael MPhil, MRes, neu MScD drwy Ymchwil
Mae darpar-raddedigion Meistr yn gwisgo gŵn gwahanol. Mae’n dal i fod yn ddu ond mae’r llewys ym maint llawn – ond eu bod ar gau ar y pen, gyda’r fraich yn ymddangos drwy dwll uwch ben y penelin.
Sy’n ein harwain ni at Ddoethuriaethau. Mae’r rheiny sy’n cael Doethuriaeth yn gwisgo gŵn coch Caerdydd â llewys llawn sydd â leinin lliw. Maent hefyd yn cael fflachiadau o liw, sy’n cael eu hadnabod fel ffesinau (facings), ar du blaen eu gŵn. Maent hefyd yn gwisgo het mymryn yn wahanol, sy’n cael ei alw’n ‘foned’ (bonnet) – sy’n grwn gyda thasel du ac arian. Daw’r Doethuriaethau mewn dau liw:
Doethuriaeth: ffesinau gwyrdd tywyll, leininau llewys a leinin cwfl gydag ymyl llwyd arian. Yn ogystal â’r PhD adnabyddus, gall pobl sy’n gwisgo’r cyfuniad hwn fod yn ennill DAHP, DClinPsy, DDS, DEdPsy, DHS, DNurs, DNursSci, DSW, EdD, EngD, MCh, MD, neu SPPD
Doethuriaeth: ffesinau aur golau, leinin llewys a leinin cwfl gydag ymyl llwyd arian. Pwyntiau ychwanegol os ydych chi’n llwyddo i gael cip o unrhyw un sy’n derbyn gwobr fawreddog DD, DDSc, DLitt, DMus, DSc, DScEcon, neu LLD.
Ac yn olaf…
Doethuriaeth Anrhydeddus. Dyma’r un i gadw llygad amdano gan fod rhywun enwog yn gallu bod yn cuddio tu ôl i’r wisg. Felly gadewch i ni fod yn hollol glir. Rydych chi’n chwilio am: gŵn coch, dim cwfl ond gyda ffesinau ddu. Efallai y byddant yn ceisio cuddio o dan fonet ddu, ond peidiwch â phoeni, bydd y tasel coch yn golygu eich bod wedi cael cip o rywbeth arbennig iawn.
Felly, nawr eich bod chi’n gwybod mwy am y gwisgoedd graddio sydd i’w gweld o amgylch Caerdydd, rydych chi’n fwy parod i Oroesi’r Graddio.
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018