Skip to main content

Mehefin 22, 2018

Beth oedd y gig gorau i chi ei weld yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd?

Beth oedd y gig gorau i chi ei weld yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Caerdydd?

Postiwyd ar 22 Mehefin 2018 gan Jon Barnes (BA 2007)

Pan ddewch i’r brifysgol, dyw eich addysg ddim yn dechrau ac yn gorffen wrth ddrws y theatr ddarlithio. I lawer ohonom ni, roedd dod i Gaerdydd yn ddechrau ar chwyldro cerddorol – a thrac sain ein cyfnod yn y brifysgol wedi’i liwio gan ba bynnag fandiau oedd yn digwydd bod yn pasio drwy Undeb y Myfyrwyr ar y pryd.