Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Balchder Bradley

28 Awst 2018

Mae Bradley Birkholz (BA 2017) yn grëwr, ymgyrchydd a pherfformiwr LGBT – ac wrth i Pride Cymru ddod i Gaerdydd (24-26 Awst), mae’n dweud wrthym am ei daith bersonol.

Fy enw i yw Bradley a chefais fy magu mewn tref fechan ger yr arfordir yng Nghaliffornia.

Ar ddechrau f’oes, ro’n i’n ddwfn yn y closed. Mewn cymuned wledig sydd yn gwrthwynebu unrhyw hunaniaeth ac eithrio’r heteronormatif (dyn a menyw yn creu teulu), roedd fy mhrofiad o fod yn LGBT+ yn eithaf negyddol; ro’n i’n dioddef o homoffobia mewnol ac yn ceisio argyhoeddi fy hun efallai y bydden i rywsut yn troi’n syth.

Mae Caerdydd wedi bod yn lle diogel i fi. Cyn dewis y ddinas fel lle i astudio, do’n i heb glywed rhyw lawer amdani – ond mae gen i dreftadaeth Gymreig ac ro’n i wedi ymweld â Chymru o’r blaen, felly ro’n i’n llawn cyffro o’i dewis ar gyfer fy mywyd academaidd.

Dwi mor falch taw dyma lle des i, a dyw hi ddim yn syndod fy mod i wedi penderfynu aros.

Fel yr esboniais i mewn fideo BBC Sesh diweddar, do’n i ddim yn teimlo bod gen i ddewis o ran sut i ddod allan. Ro’n i’n meddwl y byddai fy nheulu’n ymateb yn wael, ac fe wnaethon nhw. Roedd y pellter a’r amser rhyngom yn ddefnyddiol iawn yn ystod y cyfnod poenus hwnnw, a dwi’n ddiolchgar dros ben i’r gymuned leol ac yn arbennig y gymdeithas LGBT+ yng Nghaerdydd (CU Pride) am eu cefnogaeth.

Mae Caerdydd hefyd wedi fy helpu i ddilyn fy niddordebau. Dwi wastad wedi mwynhau ysgrifennu, felly penderfynais i astudio Llenyddiaeth Saesneg. Roedd dechrau blog yn teimlo fel estyniad naturiol o’m tueddiadau creadigol, a dyma sut y des i allan yn gyntaf i’m ffrindiau a fy nheulu. Yn y pen draw, fe ddechreuais i wylio crewyr LGBT+ eraill ar-lein a ches i fy ysbrydoli i ddechrau rhannu fy stori yn fwy cyhoeddus ar YouTube hefyd.

Dwi’n dueddol o’m galw fy hun yn grëwr a pherfformiwr (mae gen i bersonoliaeth arall – brenhines drag o’r enw Bella Tempus, sy’n golygu ‘amser da’), ond ymgyrchydd ydw i yn gyntaf. Fy uchelgais yw hwyluso newid a chysylltu â phobl tra fy mod i’n gwneud hynny, a dwi am i bobl wybod bod ‘na gymuned mas ‘na i’ch cefnogi i fyw fel chi eich hun.

Gall y penderfyniad i ddod allan, neu fynychu digwyddiad Pride hyd yn oed, fod yn frawychus i’r rheini sydd yn y closed, sy’n cwestiynu eu hunaniaeth neu sydd wedi dod allan ond nad ydynt yn siŵr lle maen nhw’n perthyn. Os yw unrhyw un sy’n darllen hwn yn cwestiynu ai Pride yw’r lle iddyn nhw, dwi am eich sicrhau bod Pride yn lle i bawb, waeth beth fo’ch cefndir neu hunaniaeth.

I fi, mae digwyddiad fel yr un hwn yn ymwneud â dathlu ein hunaniaeth gyffredin – ond yn bwysicach fyth, mae’n ymwneud â gwreiddiau ein mudiad: ymladd dros gydraddoldeb holistig i bob aelod o’n cymuned eang ac amrywiol.

Pride Cymru oedd fy nigwyddiad Pride cyntaf erioed. Dwi wrth fy modd o fod yn mynychu am y 3ydd tro eleni, a gobeithio y gwelaf i chi yno. Rhannwch y cariad, dathlwch, a chariwch ‘mlaen i frwydro. Pride Cymru Hapus!