Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru: Dathlu 10 mlynedd o lwyddiant
10 Mawrth 2021Mae Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru (WARC) wedi bod wrth wraidd polisïau ac arferion pwysig ers 10 mlynedd, gan ddarparu data y gellir ei drosi yn gamau gweithredu ac sy’n cael effaith wirioneddol ar weithwyr proffesiynol yn y gymuned awtistig. Mae cyn-gyfarwyddwyr a chyfarwyddwyr presennol WARC yn cwrdd i fyfyrio ar eu cyflawniadau gan edrych ymlaen at y 10 mlynedd nesaf.
Lansiwyd WARC yn 2010 gan y Cyfarwyddwr, yr Athro Sue Leekam, a hon oedd y ganolfan genedlaethol gyntaf ar gyfer ymchwil awtistiaeth yn y DU.
Sefydlwyd y ganolfan gan Awtistiaeth Cymru ac Autistica, yr Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru, a chafodd ei chefnogi gan roddion hael gan Autism Initiatives, Cronfa Elusennol Baily Thomas, Sefydliad Waterloo, Sefydliad Jane Hodge, Ymchwil Awtistiaeth, Elusen Fawr y Seiri Rhyddion a Phrifysgol Caerdydd
Ers 2019, mae’r ganolfan wedi bod yn nwylo Dr Catherine Jones sydd wedi parhau â’i gwaith ynghyd â thîm anhygoel o academyddion a myfyrwyr PhD. Gwnaeth Sue a Catherine gwrdd eto’n rhithwir er mwyn myfyrio ar y 10 mlynedd ddiwethaf.
Sefydlu WARC
Sue: Dechreuais yn 2009 ac roedd y cyllid ar gyfer y ganolfan eisoes ar waith diolch i fenter codi arian wych gan elusennau Awtistiaeth Cymru ac Autistica, a weithiodd ar y cyd â’r Athro Dylan Jones, o Brifysgol Caerdydd. Roedd yn fenter gyffrous ac arloesol a Hugh Morgan, Prif Swyddog Gweithredol Awtistiaeth Cymru a chyn-gynghorydd awtistiaeth arbenigol Llywodraeth Cymru, oedd yr unigolyn allweddol yn ysgogi’r fenter. Roedd yn cynghori ar y gwaith o sefydlu’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Awtistiaeth, sef y cyntaf o’i fath yn y DU. Fel agwedd arloesol ar hyn, roedd Llywodraeth Cymru yn cynnwys y ganolfan ymchwil awtistiaeth fel rhan o’r strategaeth.
Roedd yn sefyllfa ddiddorol i mi, fel academydd, fod yn rhan o’r gwahanol feysydd hyn o bolisïau ac arferion. Roedd yn her wych ac roeddwn i wrth fy modd.
Llwyddiannau ac uchafbwyntiau
Catherine: I mi yn bersonol, ei gwir gryfder yw’r gwaith gyda Llywodraeth Cymru a chael ymchwil wedi’i chyfieithu. Mae codi ymwybyddiaeth yn rhan o’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Awtistiaeth a thrwy ein cydweithrediad rydym wedi gallu diwallu rhai o’r anghenion hynny.
Gwnaethom nodi arwyddion pwysig iawn o awtistiaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth a’u rhoi mewn ffilm o’r enw The Birthday Party, er mwyn helpu gweithwyr proffesiynol a rhieni i ddeall mwy am awtistiaeth. Ynddi, rydych yn dysgu am arwyddion awtistiaeth a’r ffordd amrywiol y mae’r arwyddion hyn yn ymddangos. Mae’r ffilm honno wedi cael mwy o sylw nag oeddwn i byth yn ei ddisgwyl ac rydym wedi cael dros 170 o geisiadau gan sefydliadau ledled y byd yn gofyn i gael defnyddio’r ffilm yn eu hyfforddiant. Mae wedi cael ei gyfieithu i chwe iaith ac mae wedi cael ei chwarae fwy nag 83,000 o weithiau. Mae’n wych teimlo fel ein bod yn darparu adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’r llywodraeth.
Sue: Mae hyn wedi bod yn gymaint o fuddugoliaeth gan nad ydym yn ymchwilwyr polisïau. Seicolegwyr ydyn ni. Rydym yn gweithio mewn maes arbenigol ac mae cysylltu’r polisïau a’r arferion wedi ein galluogi i ddod â’n pwnc academaidd i’r brif ffrwd a chael ein cydnabod. Cyflawnwyd hynny drwy ddatblygu cydberthnasau sydd wedi bod yn barhaus.
Sue: Nid yw WARC wedi bod yn brosiect ‘tân siafins’ – rydym yn falch o’i gyfraniad tymor hir i’r gymuned. Ar hyn o bryd mae ein tîm presennol o staff a myfyrwyr yn cymryd rhan mewn llawer o ddatblygiadau ymchwil newydd ac yn gysylltiedig â Thîm Awtistiaeth Cenedlaethol newydd y llywodraeth. Mae gennym gysylltiadau ag Uned Asesu Niwroddatblygiad Prifysgol Caerdydd (NDAU) hefyd ac rydym yn gysylltiedig â’r gwaith o ddatblygu polisïau sy’n ymwneud â’r llwybr niwroddatblygiadol (datblygu polisi GIG Cymru).
Catherine: Mae gennym ystafell synhwyraidd yn NDAU a, hyd y gwyddom, ni yw’r unig ganolfan ymchwil sydd ag amgylchedd amlsynhwyraidd pwrpasol lle gallwn wneud gwaith ymchwil. Cawsom yr ystafell fel rhodd gan Mike Ayres Design, cwmni a oedd yn cydnabod bod ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn bwysig i arwain ymarferwyr. Rydym wedi bod yn ystyried sut mae plant awtistig yn defnyddio ystafelloedd synhwyraidd ac mae hynny’n rhan arloesol iawn o’r hyn rydym yn ei wneud.
Sue: Dros y degawd diwethaf, mae llawer o bethau hyfryd a serendipaidd wedi digwydd a’n cydberthynas â Latfia yw un ohonynt. Sefydlodd rhiant plentyn awtistig elusen yn Latfia a daeth i ymweld â’n canolfan i ddysgu am yr hyn roeddem yn ei wneud. Hefyd, cymerodd hi ran mewn cynhadledd rhieni WARC yng Nghaerdydd a gwnaeth gymaint o argraff arni nes iddi fynd yn ôl i Latfia a sefydlu cynhadledd debyg. Yn ogystal â hyn, sefydlodd gysylltiadau newydd â phartneriaid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Catherine: Arweiniodd y cysylltiad hwn at gydweithrediad ymchwil ac rydym wedi cyhoeddi data ar hunan-adroddiad rhieni Latfia am ymddygiadau eu plant. Nid oedd unrhyw ddata ar broffil ymddygiad plant awtistig wedi cael ei gyhoeddi o’r blaen yn Latfia. Felly, mae wedi bod yn arbennig iawn gall cyflawni’r gwaith hwnnw.
Effaith ar y gymuned
Catherine: Rydym yn ceisio deall pobl awtistig yn well, deall eu cryfderau a’u heriau. Mae dealltwriaeth well yn allweddol i sicrhau newid cadarnhaol. Mae’n ymwneud ag adeiladu haenau o ymchwil a chydweithio â thimau eraill.
Sue: Mae’r birthday film wedi helpu rhieni i fynd at feddygon teulu a mynegi pa ymddygiadau maen nhw’n eu gweld yn eu plentyn. Mae’n ffilm rymusol ar gyfer y gymuned. Erbyn hyn, mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a gweithwyr proffesiynol yn yr ysgol wybodaeth well am yr hyn y gallai pobl awtistig ei feddwl a’i deimlo. Mae ganddynt ymwybyddiaeth well a gallant addasu eu dulliau neu ailfeddwl eu strategaethau i hwyluso canlyniadau gwell.
Gobeithion ar gyfer y dyfodol
Catherine: Yn fy marn i mae angen i WARC ymateb i sut mae pethau’n mynd, sef i ffwrdd o gategoreiddio a thuag at gydnabod bod pobl awtistig yn fwy na diagnosis. Mae’n ymwneud â deall cymhlethdod y profiad o fod yn awtistig. Mae pwysigrwydd cynnwys pobl awtistig yn y broses ymchwil, ac nid fel cyfranogwyr yn unig, yn cyd-fynd â hyn i raddau helaeth. Rydym wedi bod yn datblygu holiadur mewn ymgynghoriad â phobl awtistig. Mae wedi bod yn broses hynod ddiddorol ac mae WARC wedi ymrwymo i gynyddu’r gwaith o gyd-gynhyrchu ei ymchwil wrth symud ymlaen. Rydym hefyd eisiau cynnal enw da am gydweithredu, ac mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chanolfannau blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd gan gynnwys NDAU a’r Ganolfan ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial, Roboteg a Systemau Peiriant-Dynol (IROHMS). Gall gweithio gyda chydweithwyr sy’n gweld pethau o safbwynt gwahanol fod yn hynod egnïol a gall helpu i lunio ymchwil arloesol, sy’n ein galluogi yn y pen draw i helpu pobl awtistig a’u teuluoedd yn y ffordd orau.
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018