Examined Life: Chris Jackson (BSc 2002)
31 Mai 2018Chris Jackson (BSc 2002) yw’r ffotograffydd brenhinol arobryn ar gyfer Getty Images, un o’r asiantaethau ffotograffiaeth mwyaf blaenllaw yn y byd.
Roedd priodas frenhinol y Tywysog Harry a Meghan Markle (Dug a Duges Sussex bellach) yn brofiad anhygoel. O diroedd Castell Windsor roedd awyrgylch a oedd yn syndod o ymlaciedig. Roedd yn anhygoel gweld cymaint o gynrychiolwyr o elusennau’r Tywysog Harry fel Sentebale wedi’u gwahodd i fod yn dyst uniongyrchol i ddiwrnod mor arbennig. Roeddwn i yno i gofnodi ennyd cyntaf y pâr brenhinol fel pâr priod.
Fy ngwaith i yw ceisio cipio’r cyffro hwnnw. Pan wnaeth Dug a Duges Caergrawnt briodi, roedd mwy na dau biliwn o bobl yn gwylio. Roedd gennym dîm o 30 o ffotograffwyr yn cwmpasu pob safbwynt. Gwnaethom hyd yn oed yn ei saethu mewn 3D. Roeddwn i’n tynnu lluniau o’r Dug a’r Dduges pan ddaethant allan o Abaty Westminster. Aeth fy lluniau i yn syth at dîm golygu Getty Images, drwy gebl a oedd wedi cael ei osod yn arbennig o dan y ffordd. Yna yn syth bin – fel fflach – roedd fy lluniau wedi teithio ledled y byd.
O ran materion ymarferol, rwyf bob amser yn gwneud rhagchwiliad o’r safle yn gyntaf a gwneud yn siŵr bod gennyf y lensys iawn. Ar y noson rwyf yn aros mewn gwesty rownd y gornel fel y gallaf fynd heibio i’r torfeydd – allwch chi ddim cymryd y risg o beidio â gallu cyrraedd yno. Yn y briodas frenhinol ddiwethaf, roeddwn i ar ddihun am ddau y bore, yn profi fy holl offer.
Fel ffotograffydd brenhinol, mae gennyf sedd rhes flaen i eiliadau mewn hanes. Mae’n gymaint o wefr i fod yn rhan o hynny. Rwyf yn cyfarfod â chymaint o bobl anhygoel, o bob cefndir, hyd yn oed arweinwyr y byd. Mae’r teulu brenhinol yn destunau gwych – mae cymaint o bersonoliaethau gwahanol. Rwyf wrth fy modd tynnu ffotograffau o’r Tywysog George, mae ef mor annwyl.
Nid oes dau ddiwrnod yn yr un peth yn y dyddiadur brenhinol. Ond mae yna lawer o bethau traddodiadol – Royal Ascot, Cyflwyno’r Faner, Gemau’r Ucheldir. Efallai fy mod yn gwneud portreadau ffurfiol un funud ac yna rhywbeth ymlaciedig yn Affrica y funud nesaf.
Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn cael teithio, ac rwy’n ddiolchgar iawn. Mae teithiau brenhinol drwy gydol y flwyddyn, ond mae pwy fydd yn mynd yn dibynnu ar yr amgylchiadau – a oes rhywun yn feichiog? A oes priodas? Fis Medi diwethaf gwnes i dynnu ffotograffau o’r Gemau Invictus yn Toronto: roedd hynny’n wych; mae’r Tywysog Harry yn teimlo mor angerddol amdanynt, ac wrth gwrs dyna oedd ymddangosiad swyddogol cyntaf Duges Sussex. Hefyd cefais daith wych i’r Eidal gyda Thywysog Cymru. Eleni, wrth gwrs aethom i Awstralia ar gyfer Gemau’r Gymanwlad, a chael taith wych i Sweden a Norwy gyda Dug a Duges Caergrawnt.
Gweithio gyda Sentebale [elusen y Tywysog Harry] yw’r peth mwyaf buddiol rwyf wedi’i wneud. Mae’r plant rydych yn eu cyfarfod yn anhygoel, ac mae HIV gan lawer ohonynt – ond roedd modd i ni dynnu’r camerâu allan a dysgu ychydig o ffotograffiaeth iddynt, a oedd yn wych. Roedd y plant wirioneddol wrth eu bodd.
Mae sawl aelod o’r teulu brenhinol yn mynegi diddordeb mewn ffotograffiaeth. Rydym wedi gweld y Frenhines yn defnyddio camera ychydig o weithiau! Mae Duges Caergrawnt wedi cymryd rhai ffotograffau hyfryd; rydym wedi gweld rhai y mae hi wedi’u cymryd yn ddiweddar o’r Dywysoges Charlotte.
Dros y blynyddoedd, rwyf wedi gwneud llawer o bethau y tu allan i ddigwyddiadau Brenhinol. Rwyf wedi teithio i Kilimanjaro ar gyfer Diwrnod Trwynau Coch, rwyf wedi gweithio gyda brandiau moethus ac mewn gwyliau ffilm yn Fenis a Cannes. Dyna’r peth gwych am Getty Images, rydym yn gweithio mewn nifer o feysydd ac mae gennym dîm anhygoel o bobl.
Wnes i ddim dechrau ar fy ngyrfa gyda’r sicrwydd y byddwn yn dod yn ffotograffydd brenhinol. Mae’r pethau hyn yn datblygu yn organig. Rwyf yn berson celfyddydol, ond roedd gwyddoniaeth yn teimlo fel y peth synhwyrol i’w wneud! Fe wnes i radd yn y pynciau a oedd o ddiddordeb i mi yn ystod Safon Uwch: bioleg, ffiseg a chemeg. Roedd cwrs Caerdydd mewn Ffisioleg a Seicoleg yn unigryw. Rwyf yn wirioneddol falch i mi ei wneud oherwydd rhoddodd y sgiliau i mi astudio ac roedd yn ffordd wahanol o wneud pethau.
Roedd Caerdydd yn lle gwych i fynd i’r brifysgol, am ei fod mor ymlaciedig. Gan fy mod i’n hanu o Fannau Brycheiniog, roeddwn i’n adnabod Caerdydd yn eithaf da. Ond gwnes i ddod i’w hadnabod mewn ffordd wahanol fel myfyriwr. Fwy na thebyg treuliais ychydig gormod o amser yn Jive Hive– bob dydd Mercher, am tua dwy flynedd a hanner! Hefyd arferwn weithio yn nhafarn The End, nad yw’n bodoli bellach. Roedd yn gyfnod da iawn mewn bywyd.
Gwariais fy nhaliad benthyciad myfyriwr cyntaf ar gamera. Roeddwn yn gweld fy ffotograffau yn cael eu cyhoeddi bob wythnos yn y Gair Rhydd ac roeddwn yn cael f’anfon ar aseiniadau fel: ‘Oes ’na broblem sbwriel yng Nghaerdydd?’ ac ‘Ydy diodydd egni yn wael i’ch iechyd?’ Weithiau roeddwn i’n cael fy ffrindiau i fodelu, roeddent bob amser yn fodelau parod!
Roedd gennyf ystafell dywyll yn seler fy nhŷ ar Heol Woodville. Roedd yn dwll o le, felly es i ati i’w lanhau i gyd. Roeddwn i wir yn mwynhau datblygu fy ffotograffau, ac roedd fy ffrindiau yn y fflat fwy na thebyg yn pendroni i ble roeddwn i wedi mynd.
Mae’n rhaid i chi fod yn wirioneddol angerddol i lwyddo ym maes ffotograffiaeth a gweithio’n galed. Ar ôl y brifysgol, symudais i Lundain, a gwnes i lawer o brofiad gwaith mewn lleoedd fel Reuters. Cefais fenthyciad i raddedigion i brynu’r camerâu a chyfrifiaduron a phopeth roedd eu hangen arnaf. Roeddwn i’n tynnu ffotograffau yn fy amser rhydd, ac roeddwn i’n mynd i dynnu ffotograffau o bopeth y gallwn i. Roedd yn golygu fy mod yn dechrau adeiladu portffolio i ddangos i’m penaethiaid yn Getty Images.
Nid oes unrhyw reolau llym ar gyfer tynnu ffotograff da. Yr hyn sy’n bwysig yw penderfynu ar sut i fynd ati o ran eich testun: efallai y byddwch yn ceisio cyflawni rhywbeth haniaethol, efallai byddwch yn ceisio gwneud cofnod dogfennol gwir o’r hyn sydd o’ch blaen. Mae angen ichi ymateb yn gyflym i unrhyw sefyllfa, boed yn newid o ran golau neu leoliad – ac mae’n rhaid i mi bob amser gyrraedd lleoliadau yn gynnar i baratoi. Peidiwch â bod yn hwyr!
Byddwn wrth fy modd yn dod yn ôl i Gaerdydd. Mae’n ddinas wych. Hoffwn i redeg Hanner Marathon Caerdydd/Prifysgol Caerdydd! Cyn gynted ag y byddaf yn cyrraedd yn ôl, rwyf yn mynd allan i redeg. Dyma’r ffordd orau i weld popeth fel y gwyddoch, ac mae cymaint o bethau ar garreg eich drws yng Nghymru.
Darlun gan Anton Brand
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018