Skip to main content

Bossing ItCyswllt CaerdyddGyrfaoeddNewyddion

Bossing it – Menywod yn Grymuso Menywod

10 Mawrth 2026

Yn rhan o’n dathliadau Mis Hanes Menywod, buon ni’n siarad â rhai o’n mentoriaid sy’n gyn-fyfyrwyr anhygoel o’n rhaglen flynyddol Menywod yn Mentora ar gyfer yr argraffiad arbennig hwn o ‘Bossing It.’ Mae pob un o’r arweinwyr yn y diwydiant wedi cynnig eu prif awgrymiadau gyrfaol i rymuso’r genhedlaeth nesaf o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Rachel Rawlings (BA 2008)

Mae Rachel, Pennaeth Cynnyrch yn Trustify, yn dod â dros 15 mlynedd o brofiad mewn yswiriant a chyllid. Mae hi’n gyrru canlyniadau sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, twf cynaliadwy, ac arweinyddiaeth cynnyrch y dyfodol ac yn gwasanaethu fel Is-gadeirydd Goleudy, elusen tai yng Nghymru.

Rhowch ganiatâd i chi eich hun i newid cyfeiriad

Yn gynnar yn fy ngyrfa, roeddwn i’n credu bod rhaid i bob cam olygu symud i fyny a’u bod yn anwrthdroadwy. Y gwir amdani yw ei fod yn fwy cymhleth o lawer – ac yn llawer mwy diddorol! Rwy wedi newid diwydiannau, camu i’r ochr, a hyd yn oed wedi gweithio mewn rolau a oedd yn ymddangos i fod yn gam yn ôl. Bob tro, ces i gipolwg craffach ar beth sy’n fy ysgogi a beth sy’n fy mlino. Nid bod yn gaeth i gynllun a arweiniodd at y twf mwyaf, ond rhoi sylw i beth roeddwn i’n ei ddysgu amdana i fy hun. Os nad yw rhywbeth yn gweithio, does dim rhaid cyfiawnhau aros. Hwyrach mai rhoi caniatâd i’ch hun newid cyfeiriad fydd y penderfyniad mwyaf strategol rydych chi’n ei wneud.

Leticia Korin-Moore (BA 2006)

Leticia yw Rheolwr Gyfarwyddwr SBW, un o’r prif asiantaethau marchnata a hysbysebu integredig yng Nghymru a De-orllewin Lloegr. Mae’n gweithio fel marchnatwr siartredig CIM ers 12 mlynedd, ac mae ganddi bron i 20 mlynedd o brofiad ym maes cyfathrebu.

Meithrin y cysylltiadau rydych chi’n eu gwneud drwy gydol eich gyrfa

Yn wreiddiol o Frasil, symudais i i Gymru i astudio mewn gwlad a thrwy iaith newydd, cyn dechrau fy ngyrfa yn weithredwr iau ym maes hysbysebu. Gweithiais fy ffordd drwy bob lefel i ddod yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar asiantaeth. Y cysylltiadau oedd yr elfen gyson yn ystod pob cam. Y bobl a gredodd ynof fi, a roddodd o’u hamser i fy arwain, a wnaeth gwahaniaeth mawr. Pobl dda sy’n codi eich calon, yn eich herio chi ac yn eich helpu chi i dyfu. Rwy wedi dysgu taw cynnydd, nid perffeithrwydd, sy’n eich symud ymlaen. Felly, byddwch yn chwilfrydig, gofynnwch gwestiynau, gwnewch gamgymeriadau a sicrhewch eich bod yn meithrin y cysylltiadau sy’n gwneud i chi deimlo’n ddewr. Byddan nhw’n mynd â chi’n bellach nag yr ydych chi’n ei feddwl.

Hannah Williams (BSc 2014)

Mae Hannah yn Ddirprwy Uwch Reolwr a Phennaeth Datblygu Busnes Newydd yng Nghanolfan Dechnoleg Sony UK. Gyda dros 10 mlynedd o brofiad ar draws adrannau Sony, mae hi’n arwain prosiectau byd-eang, yn gyrru partneriaethau strategol, ac yn ysbrydoli timau – gan lywio gweledigaeth a thwf trwy arweinyddiaeth ac arloesedd.

Croesawu cyfleoedd

Daeth rhai o’r camau mwyaf pwysig yn fy ngyrfa o groesawu cyfleoedd oedd yn fy herio, gan gynnwys symud rhwng caffael, rheoli prosiectau a datblygu busnesau newydd. Llwyddodd bob profiad i ehangu fy ngorwelion a gwella fy hyder fel arweinydd. Yn gynnar yn eich gyrfa, does dim angen cynllun perffaith arnoch chi neu fod wedi cynllunio popeth. Yn aml, daw twf yn sgil heriau annisgwyl sy’n eich helpu chi i greu cysylltiadau, datblygu sgiliau newydd a deall sut mae sefydliadau wir yn gweithio. Pan fydd y cyfle’n codi, rhowch ystyriaeth iddo a bod yn barod i roi cynnig arnyn nhw. Hyd yn oed os yw rhywbeth yn teimlo’n anghyfarwydd, hwyrach y profiad hwnnw fydd yn llunio eich llwybr yn y dyfodol.

Sophie Wint (BSc 2008)

Sophie yw Cyfarwyddwr Cyllid Hedyn, lle mae hi’n arwain ar gynllunio ariannol strategol, trysorlys, a chaffael. Yn eiriolwr angerddol dros dai cymdeithasol, mae hi’n gyrru newid diwylliannol ac yn herio’r sefyllfa sydd ohoni i gyflawni effaith barhaol wrth sicrhau cynaliadwyedd ariannol.

Byddwch yn driw i chi eich hun yn y gwaith

Wrth feddwl am fy ngyrfa, y peth cyntaf y byddwn i’n ei awgrymu i unrhyw un sy’n dechrau arni heddiw fyddai i fod yn onest ac yn driw i chi eich hun yn y gwaith. Rwy’n meddwl bod cred yn bodoli bod angen cadw at ymddygiadau neu ddisgwyliadau penodol i fod yn broffesiynol; fodd bynnag, mae pethau megis gwerthoedd personol, profiadau bywyd, angerdd a brwdfrydedd yn eich rhoi chi gam ar y blaen ac yn eich galluogi chi i ychwanegu gwerth drwy eich gwaith, felly peidiwch â bod ofn dangos y rhain a meddyliwch am sut y gallwch chi eu defnyddio i wneud beth rydych chi’n ei garu.

Yn barod i gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch â’n grŵp LinkedIn a dechrau rhwydweithio.