Sut i gael cyfweliad – Bossing It
13 Mehefin 2025
Wrth gystadlu â llawer o ymgeiswyr, gall sicrhau cyfweliad swydd deimlo fel tasg anodd. Yn ein crynodeb diweddaraf o gyngor i gyn-fyfyrwyr, gofynnwyd i’r arbenigwyr Jasper, Parves, Yvonne, a David am eu hawgrymiadau defnyddiol ar gyfer llunio cais cryf.

Jasper Wilkins (BA 2017)
Uwch-gynhyrchydd yn y BBC yw Jasper, gan arwain ar greu cynnwys digidol i sioeau blaenllaw fel Gladiators, The Apprentice, ac Eurovision. Yn y gorffennol, mae wedi golygu rhagluniau ffilmiau i’r BFI a BAFTA, ac wedi tynnu lluniau artistiaid gan gynnwys Stormzy, Slayer a The 1975. Mae ei gydnabyddiaeth gan y diwydiant yn cynnwys cael ei enwi’n un o’r 30 enillydd dan 30 oed Media Week, enillydd Promax Gold ac enillydd gwobr Broadcast Digital.
Dangos y gorau o’ch talentau
Os ydych chi’n gwneud cais am swydd cynnwys creadigol, y darn cyntaf o’ch gwaith gweledol y bydd eich darpar gyflogwr yn ei weld yw eich CV neu’ch llythyr eglurhaol. Os yw eich CV yn llifo’n dda ac yn hawdd i’w ddeall, yna mae’n arwydd da cynnar bod gennych chi ymennydd da i greu cynnwys. Cadwch bopeth yn fyr ac yn berthnasol, gan ddefnyddio e-bost proffesiynol, rhestrwch yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni a chofiwch fod fformatio cyson yn mynd yn bell.
A ninnau’n rheolwyr cyflogi, rydyn ni hefyd eisiau gweld rhywfaint o gynnwys rydych chi wedi’i gynhyrchu! Mae hyn yn ymddangos yn amlwg, ond bydd nifer fawr o ymgeiswyr heb gynnwys samplau o’u gwaith yn eu cais, gan ddisgrifio eu sgiliau yn unig yn hytrach na’u dangos. Yn lle hynny, ystyriwch gynnwys dolen i bortffolio gyda chyd-destun y prosiectau a’r rolau penodol a oedd gennych chi.

Dr Parves Khan (BScEcon 1992)
Parves yw Prif Swyddog Gweithredu Hiyacar, darparwr gwasanaethau a thechnoleg rhannu ceir. Mae hi hefyd yn awdur ac yn areithiwr ar dechnoleg/ deallusrwydd artiffisial, sgiliau ac arweinyddiaeth gynhwysol.
Ar ôl astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth ymlaen i gwblhau PhD ym Mhrifysgol Bryste yn 1996. Yna sefydlodd yrfa yn arwain adrannau data a manylion defnyddwyr i sefydliadau ar draws sawl sector, gan gynnwys twristiaeth, yswiriant, technoleg, a’r cyfryngau. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am ei gwaith yma.
Trechwch yr algorithm deallusrwydd artiffisial
Gwnewch eich gwaith cartref! Mae hyn yn golygu adolygu’r disgrifiad swydd yn ofalus a gwneud yn siŵr bod eich cais yn cyfateb yn agos i sgiliau a chyfrifoldebau’r rôl.
Y dyddiau hyn, gallai eich cais gynnwys CV yn unig, CV gyda llythyr eglurhaol, atebion i gyfres o gwestiynau sy’n seiliedig ar gymwyseddau, neu bob un o’r rhain. Peidiwch byth ag anfon CV, llythyr eglurhaol nac atebion cyffredinol. Gyda’r defnydd cynyddol o blatfformau llogi algorithm deallusrwydd artiffisial, mae’n debyg y bydd eich cais yn cael ei ddileu’n syth.

David Jones (BA 1983)
David yw Cadeirydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrru a Cherbydau (DVLA) a Chyfarwyddwr Anweithredol Ofwat. Ei brif feysydd arbenigedd yw seiberddiogelwch ac effaith economaidd technoleg.
Cyn hynny, bu David yn Brif Swyddog Technoleg ar gyfer cwmni awyrennau Ewropeaidd a grŵp hamdden mawr, a threuliodd ddegawd yn angel buddsoddi, ymgynghorydd, a mentor i sawl busnes ym maes technoleg. Cafodd ei benodi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar ddau fwrdd iechyd mawr yng Nghymru, ac roedd yn gyfrifol am gyllideb flynyddol gwerth dros £1 biliwn.
Mae sgiliau trosglwyddadwy yn hanfodol
Mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio ers i fi astudio fy ngradd mewn Athroniaeth, ac rwy’n credu’n gryf bod yr hyn a ddysgais yn ystod y blynyddoedd hynny’n dal i fod yn berthnasol i’m gwaith ym maes llywodraethu a her. Mae’r gystadleuaeth am swyddi (yn enwedig ar ôl graddio) bellach mor ddwys, mae sgiliau trosglwyddadwy yn dod yn berthnasol bron ym mhobman. Pan fyddwch chi hefyd yn ystyried y newid yn natur cyflogaeth (megis cyflwyniad ChatGPT), mae’r ansefydlogrwydd yn ddifrifol.
Dydy ymgeisio am swydd ddim yn ymwneud â dangos sut mae eich gradd yn berthnasol i swydd benodol yn unig, ond yn hytrach rhaid dangos tystiolaeth o’ch canfyddiad, meddylfryd dadansoddol, a meddwl creadigol – ac mae hynny yr un mor bosibl gyda BSc mewn Cemeg â gradd BA mewn Hanes. Waeth beth fo’ch cefndir, dangoswch eich bod yn graff ac eich bod yn mynd ati i gyflawni tasgau. Mewn geiriau eraill, ewch ati i ymdrin â sefyllfaoedd yn eich ffordd unigryw eich hun a dangos eich gallu i weithio’n gyflym.
Yn barod i gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch â’n grŵp LinkedIn a dechrau rhwydweithio.
- Tachwedd 2025
- Medi 2025
- Gorffennaf 2025
- Mehefin 2025
- Mai 2025
- Ebrill 2025
- Mawrth 2025
- Chwefror 2025
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018