Cyngor gyrfa y byddwn i’n ei roi i mi fy hun pan oeddwn i’n iau – Bossing It
24 Mawrth 2025
I ddathlu Mis Hanes Menywod, fe wnaethon ni gysylltu â chyn-fyfyrwyr ysbrydoledig sy’n arweinwyr am eu cyngor gyrfa gorau. Darllenwch yr awgrymiadau allweddol y bydden nhw’n eu rhannu gyda menywod sy’n dechrau arni:
Shaikha Alothman (BSc 2008)
Shaikha yw cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Haus, sefydliad nid-er-elw sy’n cefnogi gofalwyr teulu yng Ngeneufor Arabia. ‘AgeCare Whisperer’ yw sut mae pobl yn cyfeirio ati, ac mae’n gosod sylfeini gofal cartref a’r economi gofal yng Ngeneufor Arabia trwy gynghori Gweinyddiaeth Iechyd Kuwait ar bolisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sefydlu ymyriadau cymunedol a datblygu offer sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial.
Mae Shaikha wedi’i hyfforddi mewn systemau gofal cartref yn UDA a Kuwait, a hi yw’r fenyw gyntaf o Kuwait i gael ei henwi yn rhestr MIT Technology Review, sef ‘Innovators Under 35’. Mae ei chyfraniadau wedi cael eu cydnabod gan sefydliadau byd-eang blaenllaw megis Weill Cornell, MIT ac Adran y Wladwriaeth UDA, yn ogystal ag arweinwyr blaenllaw sy’n cynnwys Prif Weinidog Kuwait a Thywysog Coronog Dubai Sheikh Hamdan bin Mohammed Al Maktoum.

Peidiwch â chredu’r naratif ddadrymuso
Fy nghyngor gorau yw bod yn ymwybodol o’r gwahaniaeth rhwng cydnabod a derbyn. Yn ddarpar entrepreneur, roeddwn i’n byw ar ddau ben y sbectrwm hwn – ar un adeg, fe wnes i erioed gydnabod rhagfarn ar sail rhywedd, ac yn ddiweddarach, fe wnes i ganiatáu iddi gyfyngu arna i. Rwy’n gweld y patrwm hwn hefyd ymhlith llawer o’r menywod rwy’n eu mentora, pan fyddwn ni’n perswadio ein hunain i beidio ag achub ar gyfleoedd, gan feddwl na allwn ni eu cael neu na fyddwn ni’n cael ein derbyn. Cymerodd hi flynyddoedd i fi sylwi ar y patrwm hwn!
Rwy’n annog menywod iau, a’u cefnogwyr, i fod yn ymwybodol o’r cyfyngiad anweledig hwn – dyna fydd yn eich grymuso!
Candice Defontaine (BA 2007)
Candice yw Pennaeth Dyngarwch yn y DU ar gyfer Uchel Gomisiwn y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid (UNHCR), lle mae’n arwain strategaeth a thîm y sefydliad ar gyfer codi arian dyngarol. Mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad yn y maes hwn ac mae wedi gweithio ar ystod o faterion y mae’n angerddol amdanyn nhw, gan gynnwys yr amgylchedd, digartrefedd, ymchwil feddygol a ffoaduriaid.

Cofleidio methiant
Hanner ffordd drwy fy ngyrfa, es i am ddyrchafiad mewnol mewn sefydliad roeddwn i wrth fy modd yn gweithio ynddo. Yn dilyn y cyfweliad, roeddwn i’n hyderus bod gen i gyfle da i gael y swydd. Fel mae’n digwydd, wnes i ddim cyrraedd yr ail gam. Roedd y siom wedi fy chwalu.
Ar ôl cael cyngor gan ffrind, penderfynais i groesawu’r methiant hwn a’i drin fel cyfle i mi. Gofynnais i am adborth manwl gan y panel, des i o hyd i fentor i’m helpu i ddatblygu, ac rwyf bellach yn edrych yn ôl ar y cyfnod hwnnw fel un o dwf aruthrol. Rwyf wedi cofio gwersi cofleidio’r methiant hwnnw drwy gydol fy ngyrfa, o sut rwy’n rheoli timau i sut rwy’n adeiladu gwydnwch. Does dim rhaid i fethiant fod y diwedd – gall fod y sbardun i dwf cyffrous.
Francesca Chang (BSc 2004)
Mae Francesca yn Gyfarwyddwr Busnes yn Red Bee Creative, yn gweithio gyda brandiau teledu byd-eang megis Disney+ a NBCUniversal. Mae ei chleientiaid mewn asiantaethau hysbysebu blaenorol yn cynnwys Nike, Timberland, a Diesel. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae hi wedi bod yn ysgrifennu ffuglen yn ei hamser hamdden, ac mae hi’n edrych i gyhoeddi ei dwy nofel gyda’i hasiant. Mae’r ddwy yn ymwneud â themâu diwylliant, hunaniaeth, bwyd, a deinameg cenedlaethau.

Cymerwch amser i ddod o hyd i’ch ffordd
Bydd gennych flynyddoedd lawer o weithio o’ch blaen, felly defnyddiwch yr amser ar ôl i chi raddio i ddysgu, teithio, profi, a gweld beth sy’n eich ysgogi ac yn eich gwneud chi’n hapus. Efallai na fydd eich swydd gyntaf yn iawn i chi ac mae hynny’n iawn.
Cymerais seibiant o fy ngyrfa pan oeddwn i’n 30 oed ac es i Dde America. Defnyddiais yr amser hwn i wneud fy hun yn fwy cyflogadwy – pan oeddwn i’n teithio, ysgrifennais flog am hysbysebu a chyfweld ag un o Gyfarwyddwyr Creadigol mwyaf uchel ei barch o Frasil yn Sao Paolo. Yna cymerais gyfnod sabothol pan oeddwn i’n 40 i orffen fy llyfr cyntaf. Rwy’n credu y gall cydbwysedd bywyd/gwaith fod yn uchelgais cystal â rhedeg eich busnes eich hun.
Anna Smith (PgDip 1994)
Mae Anna’n feirniad ffilm ac yn ddarlledwr adnabyddus. Hi yw cyn Lywydd Critics’ Circle y DU, a hi yw cyflwynydd a chyd-sylfaenydd Girls On Film, sef podlediad mwyaf blaenllaw’r byd am ferched ym myd ffilm. Ers y bennod gyntaf yn 2018, mae Girls On Film wedi croesawu 13 o enillwyr Oscar ar y podlediad, wedi cael ei enwebu am saith gwobr, ac wedi lansio ei sioe wobrwyo flynyddol ei hun.
A hithau’n awdur, mae Anna yn cyfrannu’n rheolaidd at gyhoeddiadau mawr, gan gynnwys Time Out, The Guardian a Rolling Stone UK. Ar ôl bod yn arbenigwr ffilmiau ar sawl rhifyn o’r sianel adolygu ffilmiau newyddion y BBC, mae Anna bellach yn ymddangos yn rheolaidd ar newyddion Sky a BBC Radio 4. Mae hi wedi cynnal cannoedd o sesiynau holi ac ateb ar lwyfan a dangosiadau cyntaf ffilmiau ac mae wedi bod yn feirniad mewn seremonïau gan gynnwys Gwobrau Ffilm BAFTA. Gallwch chi ddod o hyd iddi ar Instagram @annasmithfilmcritic.

Siarad â phawb yn anffurfiol a chyfeillgar
Yn gynnar yn eich gyrfa, mae’n hawdd meddwl bod yn ffurfiol a pharchus. Er bod parch yn bwysig, gan amlaf, mae pobl eisiau gweithio gyda phobl sy’n ddifyr i sgwrsio â nhw, sydd ddim yn dilyn sgript, nac yn ofni bod yn ffraeth pan mae’n teimlo’n naturiol. Gall hyn eich gwneud chi’n gofiadwy.
Rwy’n cyfweld â llawer o fenywod enwog ac maen nhw wastad yn ymateb i wên agored; cwestiwn gonest, yn y fan a’r lle a chymeriad hyderus. I gynorthwyo hyn, gwnewch yn siŵr bod eich ffrindiau’n eich helpu chi i fod ar eich gorau – ac i’r gwrthwyneb, wrth gwrs.
Yn barod i gysylltu â chyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Caerdydd? Ymunwch â’n grŵp LinkedIn a dechrau rhwydweithio.
- Mawrth 2025
- Chwefror 2025
- Ionawr 2025
- Hydref 2024
- Medi 2024
- Awst 2024
- Gorffennaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018