Skip to main content

DonateGyrfaoeddNewyddion

Deng mlynedd o gyfleoedd byd-eang

14 Mawrth 2025
Student Camille Stanley in Canada by a lake.

Eleni, mae’n ddegawd ers sefydlu rhaglen Cyfleoedd Byd-eang Prifysgol Caerdydd sydd wedi cefnogi tua 8,000 o fyfyrwyr i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor.

Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymdrochi mewn diwylliant newydd a phrofi bywyd mewn gwlad arall. Mae byw dramor yn eu helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, datblygu rhwydwaith rhyngwladol, a meithrin safbwynt byd-eang sy’n eu paratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Dros y blynyddoedd, mae llawer o’n rhoddwyr hael wedi cefnogi’r rhaglen, gan ei gwneud hi’n bosibl i fyfyrwyr gymryd rhan, waeth beth fo’u sefyllfa ariannol.

Student Camille stood outside her University in Canada.

Aeth Camille Stanley (BA 2019) i Ganada i astudio marchnata yn rhan o’r Rhaglen Haf ryngwladol. Bu’r profiad o gymorth iddi ddatblygu sgiliau mewn maes pwnc newydd, a’i pharatoi i weithio dramor.

“Doedd fy nghwrs gradd (Iaith a Llenyddiaeth Saesneg) ddim yn cynnwys blwyddyn dramor, felly roeddwn i’n ddiolchgar bod gan Brifysgol Caerdydd gyfleoedd i astudio dramor dros yr haf. Roedd gen i ddiddordeb mewn dysgu mwy am farchnata, yn ogystal â chysylltu â myfyrwyr rhyngwladol eraill. Felly penderfynais i wneud rhaglen ysgol haf marchnata ym Mhrifysgol British Colombia, Canada.

Treuliais i saith wythnos yn Vancouver yn byw yn y Brifysgol honno, yn dysgu’r pwnc newydd hwn bob dydd a hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol gyda grŵp o fyfyrwyr rhyngwladol oedd yn astudio pynciau amrywiol. Fe wnes i ffrindiau gwych o bob cwr o’r byd, a chefais y cyfle i weld rai o olygfeydd anhygoel Canada.

Ar ôl graddio, fe wnes i ymuno â’r gwasanaeth sifil yn rhan o dîm marchnata rhyngwladol. Roedd fy nghyfnod yng Nghanada o gymorth wrth sicrhau’r swydd hon.

Fe wnes i symud i Wlad Belg, a hynny’n ddiweddar, ar gyfer swydd partneriaethau corfforaethol a marchnata a chyfathrebu mewn ysgol busnes. Dwi bellach yn byw’n agos at rai o’r ffrindiau wnes i dramor! Dwi’n credu bod fy nghyfnod yng Nghanada wedi fy helpu i addasu i weithle rhyngwladol.”

Rhagor o wybodaeth am gefnogi myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a gwneud pob cyfle yn hygyrch i genhedlaeth nesaf cyn-fyfyrwyr Caerdydd.