Skip to main content

#TeamCardiffCyswllt CaerdyddDonateNewyddion

Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd er cof am fy nhad-cu

4 Hydref 2024

Bydd Darshni Vaghjiani (Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth 2022-) yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref er cof am ei diweddar dad-cu.

A hithau’n aelod o #TeamCardiff, mae hi’n codi arian ar gyfer ymchwilwyr yma ar y campws, sy’n gwella canlyniadau i bobl sy’n byw gyda rhai o’r canserau mwyaf cyffredin. Ar ôl cyrraedd ei tharged o ran codi arian yn barod, mae Darshni yn myfyrio ar ei hyfforddiant hyd yn hyn yn ogystal â’i chefnogaeth gan deulu a ffrindiau.

Beth wnaeth eich ysbrydoli chi i gofrestru ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd a chodi arian ar gyfer ymchwil canser Prifysgol Caerdydd?

Roeddwn i’n agos iawn gyda fy nhad-cu, ac yn 2020 cafodd ddiagnosis o ganser terfynol a bu farw ychydig yn ddiweddarach.

Yn gynharach eleni, rhedodd fy nhad Jeetendra Farathon Llundain ar gyfer ymchwil canser ac er cof am fy nhad-cu, ac roedd BBC News wedi ysgrifennu erthygl fach amdano. Fe wnaeth hyn fy ysbrydoli i ddechrau rhedeg fy hun fis Mawrth diwethaf, ac roeddwn i eisiau rhedeg fy Hanner Marathon cyntaf er cof am fy nhad-cu hefyd. Roeddwn i’n meddwl mai rhedeg gyda #TeamCardiff a chodi arian ar gyfer ymchwil canser fy Mhrifysgol fyddai’r ffordd orau o wneud hyn.

Pryd dechreuoch chi redeg a pham?  

Tua mis Mawrth, aeth Tanvi, fy ffrind tŷ, a fi drwy gyfnod llawn straen ac fe wnaethon ni benderfynu bod angen i ni fynd allan o’n tŷ a gwneud rhywfaint o ymarfer corff. Felly, gyda’n gilydd, dechreuon ni redeg bob wythnos. Rwy’n teimlo bod rhedeg yn ffordd dda o leddfu straen ac yn teimlo bod fy iechyd meddwl wedi gwella lawer.

Yn ystod ein hwythnos gyntaf o redeg, fe wnaethon ni redeg tair milltir, a’r wythnos ar ôl fe wnaethon ni redeg chwe milltir. Yna, yn ein trydedd wythnos o redeg gyda’n gilydd, fe wnaethon ni lwyddo rhedeg deg milltir – felly, ar y diwrnod hwnnw, penderfynodd y ddau ohonon ni ymuno â Hanner Marathon Caerdydd. Ers hynny, rydyn wedi bod yn ymarfer gyda’n gilydd yng Nghaerdydd a phan fydda i nôl adref yn Llundain, rwy’n rhedeg gyda fy nhad bob bore Sul.

Beth yw eich cynlluniau ymarfer yn ystod yr wythnosau cyn y ras?

Rwy’n Llywydd Cymdeithas Asiaidd Prifysgol Caerdydd, felly penderfynais i ddechrau tîm rhedeg Cymdeithas Asiaidd, ochr yn ochr â’n timau chwaraeon eraill. Rydyn ni’n rhedeg gwahanol bellteroedd bob wythnos.

Rwy hefyd yn rhedeg chwe milltir gyda fy ffrind tŷ bob dydd Llun ac yn ceisio cynyddu fy nghyflymder. Yna ar ddydd Sul, pan fydda i’n rhedeg gyda fy nhad, rwy’n anelu at redeg pellteroedd hirach.

Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato ar ddiwrnod y ras? 

Gweld fy ffrindiau yn fy nghefnogi, rhedeg fy hanner marathon cyntaf gyda fy ffrind gorau, a mwynhau’r awyrgylch gyda channoedd o redwyr.

Mae fy nheulu a fy ffrindiau yn falch iawn fy mod i’n rhedeg y ras – ac rwy’n ddiolchgar iawn iddyn nhw am gyfrannu at fy nhudalen JustGiving am yr achos pwysig iawn hwn.

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun arall sy’n ystyried rhedeg i godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd?

Cofrestrwch ac ewch amdani! Nid oes gennych chi unrhyw beth i’w golli a llawer i’w ennill.

Noddwch Darshni

Noddwch Darshni ar JustGiving a’i helpu i roi hwb i’w chyfanswm codi arian.

Rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ym mis Hydref 

Oes gennych chi le ar Hanner Marathon Caerdydd? Bydden ni wrth ein bodd petaech chi’n ymuno â #TeamCardiff a chefnogi ymchwil canser neu niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd. Rhagor o wybodaeth.

Ymgymryd â her egnïol wahanol 

Does dim rhaid i chi fod yn rhedwr hanner marathon i godi arian! Beth bynnag yw lefel eich ffitrwydd neu allu, mae digwyddiadau yn cael eu trefnu y gallwch chi ymuno â nhw yn rhan o #TeamCardiff. Dyma’r ystod lawn o heriau sydd ar gael.