Cyswllt Caerdydd, News

Cwrdd â Phennaeth newydd Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Juliet Davis

Ym mis Awst 2021, cafodd yr Athro Juliet Davis ei phenodi yn Bennaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn dilyn bron i ddeng mlynedd yn yr Ysgol. Sawl mis ar ôl dechrau ei swydd newydd, mae’r Athro Davis yn rhannu’r hyn a’i harweiniodd i Gaerdydd, ei blaenoriaethau fel Pennaeth yr Ysgol, a’i huchelgais ar gyfer y dyfodol.

Dywedwch wrthym am eich gyrfa a beth a’ch arweiniodd i Gaerdydd?

Fe wnes i astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, gan ddechrau fy ngyrfa ym 1992. Fel gyda’r rhan fwyaf o benseiri, fe wnes i radd gyntaf ac yna treulio cyfnod yn gweithio, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cefais weithio ar ddau brosiect anhygoel gyda Phenseiri Stanton Williams – Banc Hadau’r Mileniwm ar gyfer Gerddi Kew ac adnewyddu Theatr Genedlaethol Frenhinol Denys Lasdun.

Cwblheais ail ran fy addysg bensaernïol yng Nghaergrawnt ym 1999, gan symud ymlaen i weithio i Eric Parry Architects yn Llundain. Tra oeddwn yno rhwng 1999 a 2006, roeddwn yn gweithio ar y stiwdios newydd ar gyfer Ysgol Gelf Wimbledon ac adfywio St. Martin-in-the-Fields.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, roeddwn yn byw yn nwyrain Llundain. Pan dorrodd y newyddion fod Gemau Olympaidd 2012 yn dod i Lundain, cefais fy nghyfareddu gan y potensial oedd gan y digwyddiad mega hwn i drawsnewid yr ardal. Gwnes gais am gyllid gan yr AHRC i gynnal ymchwil ddoethurol ar ymddangosiad ac addewid etifeddiaeth Olympaidd drefol, gan archwilio rôl a photensial dylunio trefol a phensaernïol i sicrhau adfywio cynaliadwy. Cynhaliais yr ymchwil honno yn LSE Cities yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddol Llundain, gan gwblhau fy thesis, o’r enw ‘Urbanising the Event,’ yn 2012. Yn y flwyddyn honno, dim ond mis ar ôl fy viva, y daeth swydd i fyny ar gyfer Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Roeddwn yn ymwybodol o Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA) drwy ei chyhoeddiadau, ei hymchwil a’i statws cryf yn Nhablau’r Gynghrair ers peth amser. Roeddwn yn awyddus i gael cyflog eto ac yn barod am newid a her newydd ar ôl blynyddoedd yn byw yn Llundain. Fe wnes i gais a chefais gynnig am swydd ym mis Mawrth 2012.

Dros y naw mlynedd diwethaf, rydw i wedi cael fy nhrochi mewn addysgu, rheoli a chynnal ymchwil yn yr ysgol. Rydw i wedi dysgu ar raglenni israddedig ac ôl-raddedig yr ysgol, yn rhedeg yr MArch ac MA Dylunio Trefol ac, yn fwyaf diweddar, wedi bod yn Gyfarwyddwr Addysgu Ôl-raddedig.

Fodd bynnag, rydw i wedi parhau i wneud gwaith ymchwil ar Etifeddiaeth Olympaidd Llundain, a thros y tair blynedd diwethaf rydw i wedi bod yn gweithio ar lyfr sy’n agor maes ymchwil newydd – ‘Gofal a’r Ddinas: Moeseg Trefolaeth.’ Mae hyn yn tynnu ar ymchwil ryngwladol a bydd yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Bryste ym mis Mawrth 2022.

Sut mae’r misoedd cyntaf fel Pennaeth yr Ysgol wedi bod?

Mae wedi bod yn gyfnos heriol ond gwerth chweil. Rwyf wedi elwa o ddyfnder y wybodaeth a ges i yn fy swydd fel Cyfarwyddwr PGT yr Ysgol, a thrwy’r Coleg a’r Brifysgol gyfan. Ond rydw i wedi gorfod dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o ardaloedd newydd hefyd mewn cyfnod eithaf byr. Yn gyffredinol, rwy’n teimlo ei bod yn anrhydedd cael fy mhenodi’n Bennaeth yr ysgol ac mae’n fraint arwain Ysgol gystal ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

Sut mae’r Ysgol wedi ymdopi â’r pandemig?

Mae’r Ysgol wedi ymdopi’n rhagorol, o gofio bod COVID-19 wedi dod yr un pryd â charfan fawr ar ein rhaglenni israddedig, a’r cyfnod mwyaf dwys o adnewyddu ein cartref, Adeilad Bute. Roedd yna adeg pan na allwn fod wedi dychmygu cynnig addysg dylunio y tu hwnt i’r stiwdio a chyd-destun hyfforddiant 1:1 wyneb yn wyneb. Dangosodd ein staff allu i ymaddasu’n gyflym i’r angen i gefnogi myfyrwyr dylunio o bell a chynnal darlithoedd a seminarau mewn fformatau newydd. Fodd bynnag, cymerodd hyn lawer iawn o ymroddiad, ymrwymiad ac amser.

Beth yw eich gobeithion a’ch blaenoriaethau ar gyfer dyfodol yr Ysgol?

Fy nod ar gyfer yr Ysgol yw cynnal ei statws uchel yn nhablau’r gynghrair, a’i henw da am addysgu ac ymchwil dylunio o ansawdd rhagorol. Rwy’n ceisio pwysleisio pwysigrwydd amgylchedd dysgu lle gall penseiri ifanc ddatblygu eu creadigrwydd a dysgu wynebu sefyllfaoedd cymhleth yn hyderus, a meithrin dylunwyr cymdeithasol gyfrifol sydd â’r gallu i greu newid. Byddaf hefyd yn gweithio i sicrhau bod pob aelod o’n tîm yn cael cyfleoedd ar gyfer twf a datblygiad personol yn yr Ysgol.

Hoffwn weld WSA yn cael ei hadnabod fel Ysgol ragorol o ran sut y mae’n meithrin cydraddoldeb a chynhwysiant. Rwyf hefyd yn bwriadu annog cyfleoedd i gael effaith ar arferion dylunio a datblygu yng Nghymru ac yn rhyngwladol drwy ein haddysg a’n hymchwil.

Sut brofiad fydd gweithio gyda chymuned y cynfyfyrwyr yn y dyfodol yn eich barn chi?

Rwy’n awyddus i feithrin Ysgol lle mae myfyrwyr yn teimlo eu bod yn perthyn. Bydd hynny’n golygu eu bod yn teimlo’n rhan o gymuned sy’n esblygu’n barhaus. Rwy’n gobeithio y bydd ein cyn-fyfyrwyr yn dymuno cadw mewn cysylltiad â ni, i’n helpu i hyrwyddo’r Ysgol yn rhyngwladol, ac i ddychwelyd i rannu eu profiadau a’u gwybodaeth gyda’r staff a’r myfyrwyr presennol.

Beth yw eich hoff bethau am Gaerdydd?

Ymhlith fy hoff bethau am Gaerdydd mae ansawdd yr aer a harddwch y mannau awyr agored. Mae parciau’r ddinas yn wych. Rwyf hefyd wrth fy modd gyda’r golygfeydd gwych a’r tirwedd amrywiol sydd mor agos – o Arfordir Treftadaeth Morgannwg i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Un o’r pethau, yn ei dro, rydw i wedi’i werthfawrogi fwyaf am y Brifysgol yw ei hymrwymiad i gynwysoldeb a chefnogaeth i mi fel aelod o’r gymuned LGTBQ ac fel academydd benywaidd wrth i mi ddatblygu fy ngyrfa.

.