Cyswllt Caerdydd, News

Dod yn ôl i Gaerdydd er mwyn helpu i adeiladu ei ddyfodol

Mae James Kelly (MEng 2017) yn gynfyfyriwr peirianneg a aeth o astudio yn adeiladau’r Brifysgol, i adeiladu rhai newydd sbon fel rheolwr adeiladu. Daeth yn ôl rhwng 2019 a 2021 er mwyn helpu i adeiladu ‘Abacws’, yr adeilad cyfrifiadureg a gwybodeg newydd, ac adeilad mathemateg. Wrth iddo ddychwelyd i’r campws, fe wynebodd heriau ond roedd yn llawn balchder a chyffro.

Oeddech chi bob amser eisiau gweithio yn y diwydiant peirianneg?

Oeddwn, fy mwriad bob amser oedd gweithio mewn peirianneg sifil a dyna oedd fy nghynllun yn ystod fy astudiaethau Safon Uwch. Roeddwn i eisiau dilyn y trywydd contractio ac roeddwn i’n hoffi’r syniad o fod tu allan a bod ‘ar lawr gwlad’, yn lle bod yn beiriannydd yn y swyddfa.

Pam y gwnaethoch chi ddewis astudio ym Mhrifysgol Caerdydd?

Y ddinas ei hun wnaeth fy nenu i’r Brifysgol. Roeddwn i wedi cael rhai nosweithiau allan yna gyda ffrindiau ac wedi cael teimlad da amdani, ac roeddwn i’n hoffi bod y campws wedi’i wasgaru dros y ddinas. Roeddwn i’n hoffi’r cyfleusterau peirianneg hefyd, felly roedd yn dipyn o bopeth! Gall prifysgolion da fod yn debyg iawn felly weithiau mae’n ymwneud yn fwy â’r math o deimlad rydych chi’n ei gael pan rydych chi yno.

Oes gennych chi unrhyw atgofion melys neu ddoniol o’ch cyfnod fel myfyriwr?

Fy hoff atgof oedd chwarae i IMG Varsity am ddwy flynedd a bod yn gapten iddynt pan guron ni Abertawe 2-0. Gwnaethon ni chwarae i lawr ym Mhontcanna ac roedd hi’n awyrgylch anhygoel gyda channoedd o gefnogwyr yn gwylio. Hefyd, cefais amser gwych yn chwarae i’r tîm pêl-droed peirianneg a fi oedd y llywydd yn fy nwy flynedd olaf.

Cafodd unrhyw staff yn yr adran peirianneg effaith gadarnhaol ar eich amser fel myfyriwr?

Mae rhai darlithwyr yn sefyll allan, fel yr Athro Alan Kwan. Roedd y ffordd roedd yn dysgu yn dda iawn ac roeddwn i bob amser yn cofio ei ddarlithoedd. Roedd yr Athro Tony Jefferson yn wych hefyd. Yn ein pedwaredd flwyddyn o astudio aethon ni i Ddulyn ac aethon ni o amgylch ffatri Guinness i edrych ar y gwaith peirianneg. Rydych chi wir yn cael cyfle i fondio gyda’ch blwyddyn a’r darlithwyr felly roedd hynny’n brofiad da hefyd.

Sut gwnaeth y cwrs eich paratoi ar gyfer bywyd fel peiriannydd neu ar gyfer rheoli tîm?

Gwnes i flwyddyn mewn diwydiant, felly roedd yn radd pum mlynedd i gyd, ond roedd y flwyddyn honno mewn diwydiant yn gwbl hanfodol. Ar ddiwedd y cyfnod mae gennych chi radd a blwyddyn o brofiad, ac rydych yn gwybod beth i’w wneud, sut i weithredu a sut i gyflwyno’ch hun ym maes adeiladu a pha sgiliau sydd eu hangen arnoch chi. Mae wir yn rhoi blas i chi o sut brofiad yw bod yn beiriannydd ac rydych chi’n dysgu llawer. Mae’n eich helpu chi yn eich trydedd, pedwaredd a’ch pumed flwyddyn i wir fireinio’r sgiliau hynny. Ar yr ochr arall, efallai y byddech chi’n mynd allan fel contractwr sy’n gweithio ar y safle ac efallai y byddech chi’n ei gasáu, ond yna gallwch chi ailasesu’ch dewis o yrfa hefyd. Yn y pen draw, fe helpodd fi i gadarnhau mai dyma oedd beth roeddwn i eisiau ei wneud.

Beth yw eich meddyliau am ddychwelyd i gampws Caerdydd, fel gweithiwr proffesiynol?

Roeddwn i’n gyffrous. Hwn oedd fy amser cyntaf yn ôl ers gadael y brifysgol. Roedd y safle tafliad carreg o’r lle roeddwn i’n byw fel myfyriwr yn Cathays. Mae’n braf bod yn ôl ac mae yna wir ymdeimlad o falchder. Mae’r Brifysgol yn eich llywio chi, ac yna rydych chi’n mynd allan i’r byd, ac yna byddwch chi’n dychwelyd fel rheolwr adeiladu yn barod i ymgymryd â’r her hon a gwneud rhywbeth i’r Brifysgol. Ac mae’r manteision y bydd adeilad cyfrifiadureg a mathemateg newydd yn eu cynnig yn anhygoel, a bydd llawer o fyfyrwyr yn elwa ohono. Rwy’n teimlo’n falch iawn, yn enwedig gan fod gen i gysylltiad personol â’r Brifysgol.

Beth oedd eich rôl wrth adeiladu’r adeilad newydd?

Fi yw’r rheolwr adeiladu. Goruchwyliais yr holl ffasâd, yr is-strwythur a’r uwch-strwythur, sef strwythur cyfan y yn y bôn yn ogystal â’r holl waith allanol. Roedd yn heriol iawn oherwydd pa mor dynn oedd y safle, mae ganddo ôl troed bach iawn. Mae’n anhygoel sefyll yn ôl ac edrych ar yr adeilad a meddwl fy mod wedi cyfrannu at hynny.

A oedd unrhyw heriau y bu’n rhaid i chi eu hwynebu neu eu goresgyn fel rhan o’r prosiect hwn?

Roedd yn hollol wallgof ar y dechrau – doeddech chi ddim yn gwybod a oeddech chi’n dod neu’n mynd gyda rheolau a rheoliadau’r pandemig! Roeddem yn ffodus na fu’n rhaid i ni gau’r safle erioed. Pan ddechreuodd y pandenig ym mis Mawrth y llynedd, dim ond tua 25 oedd gennym fel gweithwyr ar y safle, roeddem ar y cam gwaith sylfaenol. Llwyddon ni i gadw pellter cymdeithasol ond pe bai wedi dod blwyddyn yn ddiweddarach, pan oedd yr adeilad yn gaeedig a bod gennym 100 o bobl ar y safle, ni fyddem wedi cael unrhyw ddewis ond cau i lawr. Ond fe lwyddon ni i weithredu mesurau wrth i ni fynd ymlaen. Gwnaethon ni gwblhau ardal yn gynnar er mwyn i ni allu defnyddio’r gofod ffreutur y tu mewn i’r adeilad. Ar ein prysuraf roedd gennym tua 160 o weithwyr ar y safle. Cadw pellter cymdeithasol oedd yr her fwyaf gan fod y safle dynn ond gwnaethon ni reoli hyn yn dda gan gadw pawb yn ddiogel. Roedd yn rhaid i ni hefyd gynnal mynediad i Undeb y Myfyrwyr a’u holl ddanfoniadau. Felly, yn rhesymegol roedd hynny’n eithaf heriol.

Wnaethoch chi weld unrhyw wynebau cyfarwydd?

Dechreuodd y prosiect hwn ym mis Medi 2019 ac fe wnes i ymgysylltu â’r adran peirianneg a mentora ychydig o fyfyrwyr. Es i i gwpl o ddarlithoedd gwadd hefyd ond yna wrth i’r pandemig fynd yn ei flaen daeth y pethau hyn i ben.

Sut brofiad oedd mentora myfyrwyr cyfredol?

Roedd yn dda iawn. Pan oeddwn yn mentora’r myfyrwyr, roeddwn i’n mynd â nhw allan ac yn dangos iddyn nhw beth roedden ni’n gweithio arno a’i drafod gyda nhw.

Mae mentora myfyrwyr prifysgol yn wych oherwydd eu bod nhw’n gwybod beth maen nhw eisiau, mae ganddyn nhw nod ac maen nhw’n gwybod beth maen nhw eisiau ei wneud. Mae ganddyn nhw awydd a diddordeb mawr ac maen nhw’n gofyn cwestiynau diddorol da, ac roeddwn i’n gallu eu hateb yn iawn. Mae’n bendant yn rhywbeth y byddwn i’n ei wneud eto.

Os gallech chi ddychwelyd i’r campws nawr fel myfyriwr beth yw’r lle cyntaf y byddech chi’n mynd iddo a pham?

Dwi wrth fy modd efo’r gampfa, felly byddwn i’n mynd yno siŵr o fod! Roedd y cyfleusterau yn y gampfa yn anhygoel. Neu byddwn i siŵr o fod yn mynd lawr i’r caeau ac yn chwarae pêl-droed eto, gyda’r tîm peirianneg. Roeddwn i wrth fy modd yn gwneud hynny. Fel y gallwch ddyfalu siŵr o fod, rydw i wrth fy modd â chwaraeon a phopeth sy’n ymwneud ag ef. Gweithiais mor galed wrth astudio fy ngradd, ond roedd angen cyfle i mi ddianc sef y gampfa neu’r caeau pêl-droed. Roedd y ddau beth hynny’n rhan fawr o fy mhum mlynedd yn y brifysgol – yn adolygu, yn chwarae pêl-droed, yn mynd i ddarlithoedd, yn chwarae mwy o bêl-droed!