Donate, News

COVID-19 a chanser: Deall agweddau a thorri rhwystrau

Anthropolegwr meddygol yw Dr Harriet Quinn-Scoggins (PhD 2019) sy’n canolbwyntio ar ymchwil canser. Roedd unwaith yn rhan o raglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol (FLiCR), ac mae bellach yn cymryd rhan yn yr astudiaeth agweddau ac ymddygiadau canser COVID-19. Yma mae’n esbonio pam bod ymagwedd anthropolegol yn bwysig, a sut gall yr ymchwil hon wella diagnosis cynnar o ganser. 

Yr ysgogiad i eisiau helpu pobl a wnaeth fy arwain at y maes hwn o ymchwil, a’r ffaith y bydd un o bob dau ohonom yn cael ei effeithio gan ganser rywbryd yn ein bywydau. 

O ran ymchwil canser, mae’n bwysig ystyried yr unigolyn cyfan a sut mae’n ymgysylltu â gofal iechyd.  

Yn aml, mae pobl yn meddwl bod ymchwil canser yn cynnwys rhywun sy’n sefyll mewn labordy yn edrych i lawr microsgop, ond mae gan y broses sbectrwm cyfan. Mae’n dechrau gydag unigolyn yn cydnabod bod ganddo symptom ac yn mynd at y meddyg.  

Osgoi diagnosis  

Mae’r rhwystrau ar gyfer cael sgrinio canser yn amrywio ar gyfer rhaglenni sgrinio gwahanol, ond rwy’n credu mai craidd y mater yw bod pobl sydd byth yn ymgysylltu am y tro cyntaf yn annhebygol o ymgysylltu yn ddiweddarach mewn bywyd.  

Gall pobl sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig yn economaidd gael dealltwriaeth neu brofiad gwahanol o sgrinio, ac maent yn tueddu i gael barn dyngedfenyddol am ganser. O’u safbwynt nhw, mae ambell i stori dda am adfer canser, ac o ganlyniad, gall pobl osgoi cael diagnosis o ganser. 

Ond yr ardaloedd lle mae’r nifer fwyaf o achosion o ganser yn tueddu i fod yn y poblogaethau sydd â’r credoau mwyaf tyngedfenyddol. Os gallwn ymyrryd yn y cylch tyngedfenyddol, yna gallwn gyflwyno newidiadau.  

Y neges ‘arhoswch gartref’ 

Gwnes i a’r Athro Kate Brian (BA 1992, PhD 1996) gais am grant yn gynnar y llynedd ar ddechrau’r pandemig. Roeddem yn poeni am yr effaith y byddai COVID-19 yn ei chael ar agweddau ac ymddygiadau canser, gan gynnwys sgrinio canser.  

Kate oedd prif awdur erthygl ar ddechrau’r pandemig. Roedd yn mynegi ei phryder bod y neges ‘arhoswch gartref, gwarchodwch y GIG, achubwch fywydau’ yn creu tuedd i osgoi mynd at y meddygon gan fod pobl yn poeni am eu gorlwytho. 

Rydym wedi cynnal astudiaeth drawstoriadol gyda 7,543 o gyfranogwyr ledled y DU. Cyhoeddwyd rhan gyntaf yr arolwg ym mis Awst 2020. Yn yr arolwg, gwnaethom ofyn sut roedd eu hiechyd wedi bod yn ystod y chwe mis diwethaf, a oeddent wedi gweithredu ar symptomau ai peidio, a gwnaethom ystyried sgrinio ac ymddygiadau iechyd hefyd. O ganlyniadau’r arolwg cyntaf, rydym wedi dysgu bod 44.8% o gyfranogwyr a gafodd symptom heb weithredu arno.  

Mae’r symptomau hyn yn cynnwys pesychu gwaed, dod o hyd i lwmp, a gormod o flinder. Felly, hyd yn oed gyda’r symptomau baner goch, rydym yn gweld bod pobl yn llai tebygol o fynd at y meddygon. 

Rydym nawr yn cysylltu â’r cyfranogwyr hynny i edrych ar eu hymddygiadau a gweld a oes unrhyw wahaniaeth wedi bod yn ystod y chwe mis diwethaf.  

Mae pobl dal yn ystyried bod sgrinio yr un mor bwysig ac yn ymroddedig i gymryd rhan, ond y prif rwystr bellach yw bod pobl yn teimlo’n nerfus am fynd i gael eu sgrinio gan fod naratif y cyfryngau wedi bod yn dweud wrthyn nhw bod yr ysbytai a’r canolfannau gofal iechyd yn llawn cleifion COVID-19. 

Rydym wedi dysgu nifer o wersi syml o’r astudiaeth hon a all fod yn effeithiol iawn i’r GIG. Er enghraifft, os bydd rhywun yn ffonio ar gyfer apwyntiad meddyg teulu, bydd rhoi canllaw clir iddynt ar beth i’w ddisgwyl wrth gyrraedd ac mewn apwyntiadau yn helpu i bobl deimlo’n gyfforddus a bydd yn annog presenoldeb.  

Hefyd, mae angen cyfleu negeseuon clir, gan ddweud wrth bobl bod yr ysbytai’n ddiogel. Er mwyn i hyn weithio, mae angen i bobl ymddiried yn ffynhonnell y negeseuon hyn, mae angen i’r ysbytai, y meddygon teulu a’r cyhoedd ymddiried yn ei gilydd.  

Manteision parhaus rhaglen Arweinwyr y Dyfodol 

Mae’r hyfforddiant cyfryngau a gefais fel rhan o raglen Arweinwyr Ymchwil Canser y Dyfodol wedi helpu i roi’r hyder i mi gytuno i’r math hwn o gyfle. Rwyf hefyd wedi cwrdd â phobl sy’n gweithio ar rannau gwahanol o’r llwybr canser, ac mae’r rhwydweithio hwn wedi bod yn fuddiol iawn i mi. 

Roedd yn ddiddorol dysgu am y mathau o brofion maen nhw’n ei wneud yn y labordy a dilyniannu genynnol. Roedd hefyd yn ddiddorol i ymchwilwyr labordy glywed am wyddoniaeth ymddygiadol canser a sut rydym yn ceisio ymyrryd cyn gynted â phosibl. Mae wedi helpu i roi darlun cyfan i ni o’r claf a’i daith, sydd yn ei dro yn dylanwadu ar y ffordd rydym yn cynnal ein hymchwil.  

Uchelgeisiau ymchwil 

Bydd golygiadau hirdymor enfawr ar ddiagnosiau o ganser ar ôl y pandemig. Newydd ddechrau eu deall ydyn ni, felly byddai cael estyniad o’r ymchwil hon yn wych. 

Rydym yn edrych ar bethau tebyg yn Fietnam ond o safbwynt diwylliannol gwahanol, ac mae gen i ddiddordeb mawr mewn sut y gallwn drosglwyddo ein gwybodaeth yn rhyngwladol er mwyn helpu gwledydd eraill. 

Fodd bynnag, fy nghasbeth yw pa mor anghyfartal yw diagnosiau o ganser a chyfraddau goroesi, sy’n dibynnu ar statws economaidd-gymdeithasol. Mae canser yn glefyd annheg, ond mae’n annerbyniol nad oes chwarae teg o’r cychwyn cyntaf.  

Ni ddylech fod yn fwy tebygol o gael canser gan eich bod wedi’ch magu mewn ardal ddifreintiedig. Rwy’n gobeithio mynd i’r afael â hyn gyda’r gwaith rwy’n ei wneud ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol.  

Dysgwch fwy am ymchwil Harriet yn y digwyddiad digidol sydd i ddod, Ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganser yn oes COVID-19, a gynhelir ym mis Mai 2021.