Cyswllt Caerdydd, News

Dathlu Cymru a chefnogi cerddorion yn wyneb COVID-19

Mae Iestyn Griffiths (BA 2016, MA 2018) yn disgrifio ei daith o fod yn blentyn oedd wedi’i wirioni â cherddoriaeth i gyd-gyfarwyddo cyngerdd digidol mawr ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, gan ddathlu a chefnogi cerddorion o Gymru.  

Roedd gennym biano yn y tŷ pan oeddwn yn tyfu i fyny ac roeddwn i’n blentyn bach aflonydd iawn. Roeddwn i’n arfer bwrw’r piano gymaint yn y tŷ, yn y pen draw ildiodd mam a dad a threfnu i mi gael gwersi piano. Roeddwn i tua chwech neu saith rwy’n credu.  

Pan ymunais â’r ysgol uwchradd, digwyddodd dau beth. Un oedd fy mod am ganolbwyntio ar rygbi (doedd cerddoriaeth ddim yn cŵl iawn), a’r llall oedd bu farw fy mrawd. Felly, bryd hynny, collais gysylltiad â cherddoriaeth. Roeddwn i dal i chwarae ond er mwyn cyfleu emosiwn neu rywbeth roeddwn i’n ei wneud i fwynhau yn bennaf.  

Drwy lwc, yn ystod fy astudiaethau Safon Uwch fe wnes i gwrdd ag athrawes ysbrydoledig, Lisa Shelmerdine Richards. Eisteddodd fi i lawr gan wneud i mi sylweddoli beth allwn i wneud gyda fy nhalent a dywedodd y gallwn i astudio hyn ymhellach yn y brifysgol. Graddiodd o Brifysgol Caerdydd ac roeddwn i am ddilyn ei hesiampl hi.  

Apêl y ddinas fawr 

Cyflwynais gais i Brifysgol Caerdydd gan y bydd yn newyddion enfawr cael mynd yno. Rwy’n dod o Sir Benfro, ac mae’r ddinas fawr yn apelio. Roedd llawer o fy ffrindiau yn ymgeisio ac aeth fy athrawon blaenorol i Gaerdydd. Dywedodd Lisa, fy athrawes biano, wrthyf fod ei hathro piano, Emyr Roberts, yn dysgu yng Nghaerdydd a dysgodd hi lawer ganddo. Yn y diwedd, fe oedd fy athro am yr holl bedair blynedd roeddwn i yng Nghaerdydd! Dysgodd gymaint i mi a chafodd ddylanwad enfawr ar fy natblygiad fel cerddor.  

Ar ôl i mi astudio fy ngradd israddedig yng Nghaerdydd, es i i America a chael swydd fel cyfarwyddwr cerddorol, gan weithio ar wersyll haf theatr gerddorol. Roeddwn i’n addysgu’r plant hyn sut i ganu rhannau mewn sioeau cerdd, ac ar y pwynt hwnnw y penderfynais o ddifrif i ddilyn gyrfa mewn cerddoriaeth. Dyna bryd gwnes i gais am fy ngradd meistr. 

Busnes anorffenedig 

Un o’r rhesymau astudiais gwrs ôl-raddedig oedd yr ymdeimlad o fusnes anorffenedig. Roeddwn i’n teimlo bod gen i fwy i’w chynnig, fel y gallwn i gael fy ngwthio i’r lefel nesaf. Roeddwn i eisiau gweithio mewn theatr gerddorol, ac roeddwn i am gynnal cyngerdd arddangos mawr a sefydlu cerddorfa fy hun.  

Roedd blwyddyn fy ngradd meistr yn anhygoel. Roedd y cwrs mor dda oherwydd os oeddech chi’n greadigol, fel fi, gallech feddwl am syniadau a’u gwireddu. Roeddwn i’n teimlo fel fy mod i’n gwneud fy hobïau ac yn cael credydau ar eu cyfer. Roedd yn gam perffaith i mi newid o fod yn fyfyriwr i fod yn gerddor proffesiynol. 

Uchafbwynt fy ngradd meistr oedd y cyngerdd a gynhaliais, o’r enw City of Stars. Hon oedd un o nosweithiau gorau fy mywyd. Roedd cael y cyfle i gyflwyno rhywbeth hollol wahanol, ac iddo fod yn boblogaidd iawn, yn anhygoel. Roedd hi’n noswaith arbennig.  

Gyrfa ers Caerdydd 

Gyrfa cerddor yw’r peth mwyaf annisgwyl a chyffrous y gallwn fod wedi’i ddychmygu. Rwy’n gwneud un swydd dda, ac yna, drwy argymhellion gan bobl, mae hynny’n arwain at swydd arall ac yn y blaen.  

Rwyf wedi gweithio llawer yn y theatr i blant. Gweithiais i Ysgol Roc a oedd yn debyg i’r ‘School of Rock’ go iawn. Dychmygwch fi mewn car bach, llawn offerynnau, yn gyrru o gwmpas ysgolion yn union fel Jack Black. Byddwn i’n addysgu’r plant hyn sut i chwarae mewn bandiau roc ac roedd yn wych. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phlant, ac roedd y swydd yn caniatáu i mi gael amser gyda’r nos i wneud sioeau ac ymarferion ac yna gigio ar y penwythnosau. Cyn COVID-19, roedd yn ddiddiwedd, ond pan rydych yn gwneud rhywbeth chi’n ei garu, dydych chi ddim yn meindio gwneud hynny drwy’r amser. 

COVID-19 a’r gymuned gerddoriaeth 

Pan ddigwyddodd y pandemig, canslwyd popeth. Cafodd pob gig ei ganslo a’i aildrefnu, a chollwyd yr arian i gyd. Roedd e’n siomedig.  

Yn ffodus, roeddwn i’n sefydlog gan fod gen i lawer o ffynonellau incwm gwahanol. Llwyddodd yr Ysgol Roc i fy rhoi ar ffyrlo, ond roedd yn dawel iawn o hyd. Rhoddodd yr amser hwn gyfle i mi fod yn greadigol. Meddyliais, beth allwn i wneud yn y sefyllfa hon? 

Ar y pryd, roeddwn i’n gyfarwyddwr cerdd hefyd ar gyfer cwmni o’r enw iCAN productions, cwmni i blant a sefydlwyd i berfformio sioe Rock of Ages. Gan ei bod hi’n edrych fel bod honno am gael ei chanslo, penderfynais greu fideo rhithwir o’r perfformiadau. Nid oes gen i lawer o sgiliau yn y maes hwnnw, ond roedd gen i syniad bras o’r hyn roeddwn i am ei wneud. O’r diwrnod hwnnw ymlaen rwyf wedi bod mor brysur. Newidiodd fy set o sgiliau’n gyfan gwbl ar ôl cyflwyno un fideo, ac roedd pobl eisiau gweithio gyda fi oherwydd roedden nhw’n gweld beth roeddwn i’n ei wneud ac roeddent am gymryd rhan. Dyna a arweiniodd at West End of Wales. 

Gwelodd fy ffrind a chyd-gyfarwyddwr, Laura Llewellyn-Jones, fy fideo a dywedodd ei bod yn ystyried creu cerddorfa o gerddorion llwyddiannus o Orllewin Cymru. Gofynnod a fyddwn i’n rhan ohono a dywedais y byddaf!  

Roeddem yn codi arian i elusen ond sylweddolom ni yn fuan mai’r bobl yn ein cerddorfa oedd angen help. Mae pob un yn ddi-waith, nid ydynt ar ffyrlo, ac nid ydynt yn gymwys i gael grantiau. Mae eu bywoliaeth wedi cael ei chwalu’n llwyr gan y pandemig. Felly, gwnaethom sefydlu cwmni buddiannau cymunedol, a’r hyn rydym yn ceisio ei wneud nawr yw cynnig gwaith â thâl i aelodau ein cerddorfa. 

Rydym hefyd yn ceisio cydnabod effaith COVID-19, nid yn unig ar gerddorion proffesiynol, ond cerddorion amatur neu ddisgyblion yn yr ysgol. 

Mae’r pandemig hwn am gael effaith enfawr ar genedlaethau o gerddorion y dyfodol am flynyddoedd i ddod.  

Creu rhywbeth cadarnhaol  

Rydym wedi cael nifer enfawr o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n ymddangos bod pobl yn mwynhau’r hyn rydym yn ei greu, ac roedden ni’n meddwl, beth arall allwn ni wneud? Dyna pryd y gwnaethom feddwl am Ddydd Gŵyl Dewi a sut byddem fel arfer yn rhan o berfformiad neu gyngerdd. Felly, penderfynom lunio dathliad enfawr o Gymru ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.  

Bydd holl werthiannau’r tocynnau’n cael eu talu yn ôl i’r bobl a luniodd y dathliad. Mae gennym restr wych o gerddorion a pherfformwyr gan gynnwys, John Owen-Jones, Lucie Jones, Rhod Gilbert ac Only Men Aloud, yn ogystal â rhai enwogion o Gymru i gyflwyno’r digwyddiad, fel Rob Brydon, Sam Warburton a Carol Vorderman. Rydym hefyd yn gyffrous iawn bod Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru am gyflwyno’r rhagair. 

Rydym yn ceisio helpu’r bobl sydd ei angen fwyaf a lledaenu ychydig o hwyl a phositifrwydd. 

Cwpwl o wythnosau yn ôl, gwnes i gyflwyniad i fyfyrwyr MA cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd. Dywedais wrthynt fod pethau y gellir eu gwneud o hyd a bod camau y gellir eu cymryd hyd yn oed yn ystod y cyfnod hwn. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw addasu eich ffordd o feddwl yn ein diwydiant ychydig.  

Mae’n eithaf donio oherwydd mae’r gwaith rwy’n ei wneud nawr, gyda’r West End of Wales, yn dilyn y cyngerdd hwnnw a gynhaliais fel myfyriwr.  

Mae wedi bod yn daith a hanner ers hynny, ond mae wedi bod yn wych.  

GWLAD! – cynhelir dathliad ar-lein o Gymru am 7.30pm ddydd Llun 1 Mawrth 2021. Pris y tocynnau yw £10 y cartref.