Cyswllt Caerdydd, I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr, News

Mae gweithio gartref yn gweithio – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Yn y cyntaf o’n blogiau i Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr, mae Graham Findlay (PgDip 1991) yn ystyried sut y gallai pandemig COVID-19 fod wedi dod â gweithio hyblyg gam yn nes i bobl anabl. Mae Graham wedi bod yn ymgyrchydd dros hawliau anabledd ers blynyddoedd lawer.

Er bod pawb yn yr un sefyllfa, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith arbennig o galed ar bobl anabl yn y DU. Rydym wedi cael ein labelu fel grŵp “agored i niwed” ers degawdau, ac er bod llawer ohonom yn gwrthod y label hwn, mae’n anodd peidio derbyn bod pobl â chyflyrau iechyd hirdymor yn cael amser pryderus ac anodd.

Mae cyflogaeth wedi bod yn rhwystr neu’n faes lle mae pobl anabl wedi cael eu heithrio ers blynyddoedd. Er bod dros 3.7 miliwn o bobl anabl mewn gwaith, mae pobl anabl dros ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na phobl sydd heb anabledd.

Un o’r prif rwystrau i gyflogaeth yw’r diffyg trefniadau i weithio’n hyblyg, ac ymagwedd anhyblyg gan gyflogwyr ynglŷn â sut mae’r gweithwyr yn trefnu eu gweithle a’u hamser gwaith. Mae hyn fel arfer yn golygu gorfod teithio i swyddfa a chael eich gweld yn bresennol a gweladwy drwy’r adeg yn y gweithle – a gaiff ei adnabod weithiau fel bod yn y gwaith y tu hwnt i oriau arferol. Mae nifer o bobl anabl talentog yn cael eu heithrio o fyd gwaith, gyda rhai cyflogwyr (nid pob un) i weld yn amharod i newid eu harferion i elwa o’n ffyddlondeb, dycnwch, gweithgarwch ac arbenigedd.

Ond mae’r cyfyngiadau oherwydd Covid-19 wedi trawsnewid popeth. Mae cyflogwyr wedi cael eu gorfodi i fabwysiadu dulliau gweithio gartref yn gyflym – paratoi gliniaduron i bawb a dod i arfer gyda chynnal cyfarfodydd rhithwir Teams a Zoom yn effeithiol. Gwelwn fod y buddiannau mae pobl anabl wedi bod yn lobïo amdanynt ers blynyddoedd yn dod i’r amlwg yn barod.

Rwyf wedi bod yn gweithio gartref ers dros ddegawd ac yn gwybod o brofiad pa mor dda y gall fod. Oni bai eich bod angen, er enghraifft, gweithio mewn ffatri neu labordy, gyrru fan neu ddarparu sesiynau hyfforddi wyneb yn wyneb, gall bron bob tasg neu weithred gael eu cyflawni o bell. Yn y bôn, mater o ailbennu eich disgwyliadau o beth mae gwaith yn edrych a theimlo yw hyn.

Mae’r brif ddadl yn erbyn gweithio gartref yn seiliedig ar ddiffyg ymddiriedaeth sydd gan reolwyr fel arfer – a fyddai gweithwyr yn gwneud unrhyw waith os nad allwch eu gweld, ynteu byddent yn treulio’r diwrnod gwaith cyfan yn chwarae ar yr Xbox? Fel rydym wedi’i weld erbyn hyn, os roddwch y rhyddid a’r annibyniaeth i weithio’n hyblyg i’r gweithwyr – boed nhw’n anabl neu beidio, mae safon eu gwaith yn aml yn gwella yn hytrach na gwaethygu. Mae’r myth arall fod gweithio gartref yn eich ynysu yn gymdeithasol, wedi cael ei brofi’n anghywir gan dwf apiau fel Teams, lle gallwch dynnu coes a sgwrsio o Gaerdydd gyda chydweithwyr yn Glasgow, Sheffield neu unrhyw le yn y byd.

Ond efallai mai’r mater pwysicaf ynglŷn â gweithio hyblyg i weithwyr anabl yw ei fod yn ffordd hygyrch o weithio Gellir newid a theilwra technoleg ar gyfer gweithwyr anabl er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan a chyfrannu’n llawn yn y gweithle – rhywbeth sydd yn digwydd mewn amgylcheddau swyddfa, ond mae cael swyddfa hygyrch gartref yn hanfodol ar gyfer gweithgarwch llawer o weithwyr anabl.

Yn fy marn i, mae’r newid hwn i weithio gartref nad oedd llawer am ei gyflwyno nac wedi cynllunio ar ei gyfer yn gyffredinol, wedi bod yn symudiad positif iawn i bobl anabl, yn ogystal â llawer o bobl eraill sy’n dechrau cael profiad o beth rydym wedi bod yn dadlau o’i blaid ers degawdau. Rwyf wir yn gobeithio nad ydym yn dychwelyd i’r “dyddiau da” o gyflogaeth anhyblyg, gyda swyddfeydd yn ganolog iddi pan fydd y pandemig drosodd. Mae’r ddadl dros weithio gartref yn weladwy i bawb nawr, ac ni ddylwn ei gwthio i’r ochr mwyach.

I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr yw ein cyfres newydd o flogiau sy’n rhoi rhywfaint o sylw ar y straeon yr hoffech adrodd i’ch cyfoedion. Wedi bod yn rhan o brosiect gymunedol arbennig? Ydy eich ymchwil neu eich sefydliad yn arloesol ac yn datrys problemau? Ydy eich gwaith yn galluogi neu’n hyrwyddo amrywiaeth? Eisiau rhannu eich atgofion o Gaerdydd, neu amlygu eich diddordebau? Hoffem glywed oddi wrthych.

Os hoffech gymryd rhan, llenwch ein ffurflen fer a rhannwch eich syniad gyda ni.