Cyswllt Caerdydd, I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr, News

Osgoi chwythu eich plwc drwy ddod o hyd i’ch ‘peth’ – I Gynfyfyrwyr, gan Gynfyfyrwyr

Daeth Gemma Clatworthy (BA 2007) ar draws ei hangerdd dros adrodd straeon pan fu’n astudio Hanes Hynafol ym Mhrifysgol Caerdydd, ond nid tan bandemig byd-eang a chyfnod clo cenedlaethol y dysgodd am bŵer canolbwyntio ar rywbeth rydych chi’n ei garu i leddfu straen. Yma, mae’n rhannu ei brwydrau gyda chydbwyso gyrfa, gofal plant a’r awydd afrealistig i fod yn berffaith, a sut y gwnaeth osgoi chwythu’i phlwc o drwch blewyn drwy ddefnyddio grym ei theimladau i fod yn greadigol.  

Mae’r cyfnod cloi wedi bod yn gyfnod anodd iawn i lawer o bobl. Profwyd nifer o heriau ac ansicrwydd sy’n dal i fodoli, ac fel uwch-weithiwr risg proffesiynol, rydw i’n ymwybodol ohonynt. 

I ddechrau, doeddwn i ddim wedi ystyried pa mor anodd fyddai ceisio jyglo gofal plant, addysgu yn y cartref a swydd amser llawn. Yn anochel, arweiniodd hyn at oriau hir, nifer o rwystredigaethau ac at y teimlad nad oeddwn yn gwneud unrhyw beth yn arbennig o dda. Rhoddais lawer o bwysau arnom ni fel teulu i gyflawni pethau. Dyma’r cyfle i fynd i’r afael â’r holl dasgau bach o amgylch y tŷ. Gwnaethom gyflawni llawer, ond wrth gwrs doedden ni ddim yn cael seibiant ac roedden ni i gyd yn dechrau teimlo’r pwysau o fod ‘ar waith’ bob amser. 

Wrth i amser fynd yn ei flaen, roeddwn i’n dechrau colli fy amynedd nes nad oedd dim ar ôl. Roeddwn yn colli fy nhymer yn fwy aml dros bethau bach dwl, a gyda fy nheulu’n bennaf. Roeddwn i wedi blino o hyd ac yn cysgu’n wael, felly roedd hynny’n gwneud i mi deimlo’n waeth ac roeddwn yn ei cholli hi’n fwy aml. Yna, roeddwn yn teimlo fy mod yn methu fel mam a phob tro roeddwn yn methu cyfarfod, roeddwn yn teimlo fy mod yn methu gyda’m gwaith. Roeddwn yn colli trywydd ac yn teimlo fel bod popeth yn drech na mi. 

Nawr, wrth edrych yn ôl, gallaf weld fy mod ar fin chwythu fy mhlwc. Roedd y disgwyliadau yn y gwaith a gartref yn ormod, ac nid oedd yr argraffiadau perffaith roedd pobl yn eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud unrhyw les. Roedd gennym drefn arferol gartref ond bob tro roeddwn yn gweld llun o deulu allan am dro hyfryd ar y traeth, roeddwn yn teimlo’n euog, er ein bod yn byw sawl awr i ffwrdd o’r arfordir! 

Roedd angen seibiant arnaf a rhywbeth i ffwrdd o’r gwaith a’r teulu. Rhywbeth i mi fy hun er mwyn fy nghadw yn fy iawn bwyll. 

Rydw i wastad wedi mwynhau ysgrifennu ac adrodd straeon. Rwy’n credu mai dyna pam dewisais astudio Hanes yr Henfyd ym Mhrifysgol Caerdydd, roeddwn wedi fy nghyfareddu gan fythau a chwedlau hynafol. Rwy’n cofio i mi ychwanegu taith ffuglennol drwy bentref Celtaidd unwaith fel atodiad at un o’m traethodau, dim ond oherwydd fy mod eisiau gwneud hynny. Yn ffodus, ni wnaeth fy nhiwtor dynnu unrhyw farciau i ffwrdd am hynny, ond ni ychwanegodd rai chwaith! 

Es i yn ôl i ysgrifennu yn ystod y cyfnod clo ac roeddwn yn teimlo’n well bob amser ar ôl nodi rhywbeth i lawr. Un diwrnod, ar ôl gweiddi ar fy mhlant annwyl am y canfed tro, a chael fy anwybyddu eto, roeddwn i’n meddwl y dylwn ysgrifennu rhywbeth i lawr i’w gael allan o’m system. Felly, ganwyd ‘The Girl Who Lost Her Listening Ears’, sef fersiwn ddigrif ar yr hyn oedd yn fy ngyrru i’n wallgof gartref. 

Dangosais fy stori i rai ffrindiau dibynadwy a oedd yn ei hoffi, ac awgrymodd un y dylwn ystyried ei chyhoeddi. Roedd gen i syniad am lyfr lluniau yn fy meddwl. Ond dydw i ddim yn artist a doeddwn i ddim yn gwybod sut i chwilio am ddarlunydd ar gyfer llyfr efallai na fyddai byth yn gweld golau ddydd.  

Rwy’n mwynhau crefftio ac rydw i wedi mwynhau brodwaith appliqué ers i mi ddod ar ei draws tua dwy flynedd yn ôl. Mae creu lluniau o ddarnau o ffabrig yn llawer o hwyl ac mae’n rhywbeth cyffyrddol sy’n tawelu fy meddwl. Roedd yn gyfle perffaith i gyfuno fy nghariad at ysgrifennu â fy nghariad at grefftio. 

Treuliais tua thri mis yn defnyddio unrhyw amser sbâr yn ysgrifennu, ailysgrifennu, creu’r gwaith celf a chael adborth ar fy llyfr cyn ei hunan-gyhoeddi drwy Amazon. Roedd yn waith caled ond roedd yn werth yr ymdrech a’r amser. Rhoddodd bwrpas i mi ac yn rhywbeth i ganolbwyntio arno yn lle chwilio’r rhyngrwyd am ffigurau diweddaraf y coronafeirws. Mae hefyd wedi rhoi cyfle creadigol imi ac rwy’n gobeithio parhau ag ef. 

Rwy’n dal i ddysgu am sut i gyhoeddi a bod yn awdur ac rwy’n hyderus erbyn hyn mai ysgrifennu a chrefftio yw fy “mhethau” i. Felly, beth yw eich rhai chi? 

Dywedwch wrthym beth yw eich peth drwy drydar atom ni @cardiffalumni gyda’r hashnod #MyThingIs #FyMhethau    

Gallwch ddod o hyd i Gemma ar ei gwefan neu Instagram ac mae ei llyfr, The Girl Who Lost Her Listening Ears, ar gael ar Amazon ar hyn o bryd.