Cyswllt Caerdydd, Examined Life, News

Myfyrio ar Fywyd: James Smart (MA 2016)

Mae James Smart (MA 2016) yn newyddiadurwr darlledu llwyddiannus yn Nairobi. Mae rhai o uchafbwyntiau ei yrfa yn cynnwys bod yn gyflwynydd newyddion ar gyfer sianeli teledu blaenllaw Kenya, gweithio ar ddarllediad y BBC: ‘Focus on Africa’, creu dwy sioe deledu hynod lwyddiannus ac, yn fwy diweddar, sylwebu ar effaith y coronafeirws ar aelodau mwyaf bregus cymdeithas.

Cefais fy ngeni mewn lle o’r enw Korogocho yn Nairobi. Roedd fy mam yn ifanc pan gefais fy ngeni a chefais fy magu gan fy nain. Roedd y tai roeddem yn byw ynddynt yn dai sianti deg-wrth-ddeg, ond ni wyddwn ein bod yn dlawd nes i mi weld trydan a dŵr sy’n rhedeg yn yr ysgol uwchradd. Yn ein cymdogaethau roeddem yn gwybod fod ganddynt dalentau, syniadau ac egni gwahanol ac y byddai’n hamgylchiadau yn newid un dydd. Y gred hon wnaeth ein gyrru ni i astudio neu ddod yn athletwyr llwyddiannus.

Pobl dlawd yw’r bobl sydd yn ddi-lais ac nid ydynt yn cael yr un cyfle yn y cyfryngau ac mewn gwleidyddiaeth. O ganlyniad, mae pobl yn siarad ar eu rhan yn hytrach na siarad gyda nhw a gwneud yn siŵr fod eu problemau yn cael eu cymryd i ystyriaeth. Roedd fy mhrofiad personol yn deimlad o ddiymadferth eithafol, ond nid yw’r ffaith fod pobl yn dlawd yn golygu nad oes ganddynt syniadau – a dyna wnaeth f’arwain i at newyddiaduraeth.

Roeddwn yn chwilio am sefydliad gyda hanes, sefydliad a fyddai’n rhoi mwy nag addysg yn unig. Roedd cynfyfyrwyr Ysgol Newyddiaduraeth Caerdydd yn gwneud pethau gwych ar draws y byd ac roedd y cwricwlwm yn darparu profiad academaidd ynghyd â phrofiad ymarferol.

Y peth cyntaf sy’n dod i’m meddwl am Gaerdydd yw’r glaw. Nid wyf wedi bod yn rhywle lle mae’n bwrw glaw gymaint heb rybudd erioed. Dysgwyd tric i mi ganMarta Villena (MA 2015), a oedd yn rhannu llety gyda mi: sefyll wrth y ffenestr yn y bore a chyfri pump o bobl. Os oeddech yn gweld nifer o bobl yn gwisgo siwmper, dylech fynd allan mewn cot law. Os dim ond un person sydd gyda siwmper, mae’r person yna yn wallgof ac mae’n ddiwrnod da i fynd allan mewn crys-t.

Y peth arall sy’n dod i’m meddwl yw y cynhesrwydd. Yng Nghaerdydd, mae pobl yn groesawgar a chynnes. Mae pobl yn dweud helo ac yn edrych arnoch yn eich wyneb. Mae’n gynhesrwydd na phrofwch mewn dinasoedd eraill. Mae pobl yn groesawgar a chynnes a phawb yn edrych allan am eu cymydog.

Ar ôl gorffen fy astudiaethau yng Nghaerdydd dychwelais i Kenya ac roeddwn yn gyffrous. Wedi bod mewn ysgol lle’r oedd y darlithwyr yn brofiadol ac yn gweithio yn y cynyrchiadau newyddion mwyaf, roeddwn yn llawn syniadau. Yn ysu i drosglwyddo’r wybodaeth hon, fe ymunais â grŵp o newyddiadurwyr a chreu cymuned gymdeithasol o’r enw Tazama World Media a oedd yn hyfforddi newyddiadurwyr cymunedol. Mae yna fwlch rhwng beth mae’r ystafell newyddion yn ei wneud a’r hyn mae newyddiadurwyr cymunedol yn ei wneud, ac roeddwn eisiau cau’r bwlch hwnnw.

Rwyf wedi bod yn newyddiadurwr darlledu yn Kenya ers deng mlynedd. Roeddwn yn gweithio mewn radio ac yna fe es i weithio mewn teledu, ond diflasais yn sydyn felly rhwng darllen y newyddion, dechreuais wneud rhaglenni trafod a chreu rhaglenni. Fe ddechreuais raglen o’r enw The Trend. Byddwn yn treulio’r wythnos gyfan ar y cyfryngau cymdeithasol yn gofyn i’r cyhoedd pwy hoffent i ni gyfweld a pham. Yna byddwn yn dod o hyd i’r person yna, eu rhoi o flaen y camera a byddai pobl yn anfon eu cwestiynau i mewn. Roedd honno’n llwyddiant gan iddi dorri rhwystrau. Roedd y gynulleidfa yn teimlo bod y cwestiynau yn cael eu hateb yn uniongyrchol, ac nid oedd unrhyw fendeta personol neu agenda cudd.

Pan gyrhaeddodd COVID-19 Kenya, fe ddilynodd yr un patrwm â phob man arall. Gwelais o fewn yr wythnos gyntaf sut oedd y cyhoedd wedi’u hatal ac yn gorfod disgwyl i’r bobl mewn grym i ddweud wrthynt beth i’w wneud. Ond mae llywodraethau, hyd yn oed gyda’r bwriadau gorau, yn gallu methu pethau. Nid oedd neb yn adrodd ar beth oedd yn digwydd mewn cymdogaethau a marchnadoedd tlawd gan eu bod yn canolbwyntio ar yr hysbysu a newyddion diweddaraf gan y llywodraeth. Roeddem eisiau gwneud pethau fel dweud yr hanes o safbwynt masnachwr ac edrych mewn i’w bywydau. Roeddem yn rhyddhau’r straeon hyn i’r cyhoedd i’r un graddau â’r newyddion diweddaraf oedd yn cael eu rhyddhau bob dydd ac fe weithiodd yn dda iawn.

Rwyf yn sicr wedi dysgu bod y coronafeirws wedi amlygu ein problemau yn y gymdeithas megis methiannau llywodraethol ac iechyd. Mae wedi dangos ein bod ni fel pobl angen ymateb yn well. Mae angen i ni feddwl am ein cysylltiad ac nid ein ffiniau. Credaf fod y coronafeirws wedi ein rhoi mewn man lle mae’n rhaid i ni ddod o hyd i realiti newydd.

Mae nodau oedd yn nodau dau neu dri mis yn ôl wedi cael eu dileu ar gyfer y rhan fwyaf o bobl. Rwy’n hoffi cadw fy nhraed ar y ddaear wrth ragweld y dyfodol. Credaf y byddaf yn gweithio ar gyfer yr un ran o’r gymdeithas – y lleiafrifoedd sydd wedi cael eu camdrin gan y systemau cymdeithasol a gwleidyddol. Rwyf eisiau parhau i rannu portreadau pobl ac adrodd mewn manylder ar y rhannau hyn o’r gymdeithas.

Rydym oll yn gynhyrchion o’n magwraeth. Rydym yn cario’r amseroedd da a’r amseroedd gwael y tu mewn i ni. Rwyf wedi penderfynu derbyn y cyfan. Dyma pwy ydw i, yr holl bethau dwi wedi gorfod delio gyda nhw wrth dyfu fyny. Rwy’n deall cysgu yn llwglyd ac rwy’n deall byw mewn tŷ heb ddŵr sy’n rhedeg. Rwyf eisiau i bobl gael llwyfan i egluro sut mae hynny yn teimlo, er mwyn bod yn fwy nag astudiaeth achos ac i gael eu gweld fel pobl.

Rydym yn cael ein hatgoffa o hyd bod angen asgwrn cefn ar newyddiaduraeth – y dylem fynd allan a gofyn y cwestiynau anodd. Tra cytunaf fod angen gwneud hynny, rwyf hefyd yn meddwl bod angen empathi ac yn bwysicaf oll, enaid mewn newyddiaduraeth.