Cyswllt Caerdydd, I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr, News

Cerflun ar gyfer Arglwyddes Rhondda – I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr

Mae Julie Nicholas (MSc 2005) yn egluro pam ei bod yn codi arian ar gyfer cerflun newydd o gyn-lywydd Prifysgol Caerdydd, Arglwyddes Rhondda, yn ei dinas genedigol yng Nghasnewydd.

Margaret Haig Thomas, Arglwyddes Rhondda, oedd un o fenywod amlycaf yr ugeinfed ganrif – yn ymgyrchydd hawliau menywod a dylanwad diwylliannol am sawl degawd. Mae ei CV anhygoel yn cynnwys bod yn garcharor swffragét, sefydlu a golygu’r cyfnodolyn amlycaf rhwng y rhyfeloedd, Time & Tide, ac yn 1950 dod yn Llywydd Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy; y sefydliad a fyddai’n dod yn Brifysgol Caerdydd1. Dywedodd y pennaeth ar y pryd, Anthony Steele, fod ei hetholiad ‘yn nhraddodiad gorau’r peidio gwahaniaethu yn ôl rhyw sydd yn y coleg’.

Y tro cyntaf i mi glywed am Arglwyddes Rhondda oedd mewn sylw a wnaeth siaradwr wrth fynd heibio yng Ngŵyl y Gelli yn 2013. Roedd Margaret Haig Mackworth (née Thomas) wedi sefydlu’r gangen Swffragét leol yng Nghasnewydd ac wedi ffrwydro fy mlwch postio lleol, fel rhan o’r ymgyrch llosgi bwriadol cenedlaethol gan Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU). Mae bywyd Arglwyddes Rhondda yn llawn digwyddiadau arwyddocaol ac arloesi ffeministaidd; goroesodd suddo’r Lusitania, cymerodd yr awenau i ymerodraeth fusnes rhyngwladol ei thad, ac yn 1926 cafodd ei hethol yn llywydd benywaidd cyntaf yr Institute of Directors. Yn ei blynyddoedd diweddarach, brwydrodd i fod y fenyw gyntaf i gael sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae ei phortread yn hongian yn ystafell fwyta Tŷ’r Arglwyddi heddiw. Ni allwn ddeall pam nad oeddwn wedi clywed am Arglwyddes Rhondda ynghynt; fel rhywun sydd â diddordeb mewn hanes lleol a chyfiawnder cymdeithasol, sut gallai menyw gyda chymaint o lwyddiant ac arwyddocâd gael ei anghofio mor gyflym?

Penderfynais wneud cofeb o flodau a baneri yn 2013 wrth y blwch postio i ddathlu can mlynedd ers y diwrnod tyngedfennol hwnnw. Cafodd cysylltiadau ei gwneud – diolch i fy niweddar AS rhagorol, Paul Flynn – gyda Jayne Bryant, a fydd yn Aelod Cynulliad cyn bo hir, ac AS Dwyrain Casnewydd Jessica Morden, y ddwy ohonynt yn hoff iawn o Arglwyddes Rhondda. Cysylltais â chofiannydd Arglwyddes Rhondda, yr Athro Angela V John, y gwneuthurwr ffilmiau Amy Morris, a llawer o fenywod lleol eraill, a daeth pawb ynghyd i ffurfio criw o selogion Arglwyddes Rhondda.

Cafodd cynllun ei drefnu i sicrhau cofeb fwy parhaol; fe gydlynais ymgyrch codi arian i gael plac glas. Yn 2015 fe wnaethom ddadorchuddio’r plac wrth y blwch postio a roddodd Arglwyddes Rhondda ar dân, y gofeb gyhoeddus hir-ddisgwyliedig cyntaf i Arglwyddes Rhondda yn ei thref genedigol, Casnewydd. 

Yn 2018, wedi’n hysbrydoli gan y nifer o gerfluniau oedd yn ymddangos ar draws Lloegr i ddathlu canrif o bleidlais i fenywod, cysylltom ninnau – ‘y criw o selogion Arglwyddes Rhondda’ – â mudiad ‘Monumental Welsh Women’ drwy ymgyrch Menywod Mawreddog y BBC, mudiad sy’n anelu i godi arian ar gyfer pump o gerfluniau newydd o fenywod ar draws Cymru yn y bum mlynedd nesaf. Yn 2019 fe anwyd yr ymgyrch ‘Statue for Lady Rhondda’. 

Diolch i Lywodraeth Cymru, fe dderbynion swm hael o £20,000 tuag at ein targed o £100,000. Cafodd llawer o sefydliadau eu heffeithio gan athrylith a chefnogaeth Arglwyddes Rhondda yn ystod ei hoes, ac rydym yn ddiolchgar iawn i’r sefydliadau hynny sy’n gallu cyfrannu’n uniongyrchol neu gefnogi’r ymgyrch. Hoffwn ddiolch yn bersonol i Brifysgol Caerdydd am rodd tuag at y cerflun ac ystyriaeth iddi ar gyfer yr ymgyrch Enwau Nodedig (fe bleidleisiais i dros Lady R, gan iddi hithau frwydro dros fy mhleidlais!). 

Rwy’n darganfod rhywbeth newydd am Arglwyddes Rhondda yn weddol reolaidd. Fel rhywun sydd wedi cael gradd Meistr mewn Materion Tai ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi gweithio mewn gwasanaethau Tai Cymdeithasol a Digartrefedd ers dros 20 mlynedd, roeddwn yn arbennig o falch o glywed fod y grŵp Women’s Pioneer Housing wedi darganfod ei bod yn un o’r noddwyr gwreiddiol i’r sefydliad. Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, fel oedd y genedl yn sicrhau cartrefi ar gyfer arwyr y rhyfel, roedd Arglwyddes Rhondda yn cefnogi mynediad menywod at dai da, fforddiadwy hefyd. Roedd hithau yno ar gychwyn y mudiad maes tai modern.

Wrth i mi ysgrifennu’r erthygl hon, nid oes cerflun cyhoeddus o fenyw wedi’i henwi yng Nghymru, ond y newyddion da yw bod llawer ar y gweill, diolch i grwpiau lleol fel ‘Statue for Lady Rhondda’. Mae menywod Cymreig dylanwadol yn haeddu cael eu dathlu a’u cofio, yn enwedig i helpu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr, crewyr a meddylwyr o’r ddau ryw. Mae ‘Statue for Lady Rhondda’ yn anelu unioni’r cam presennol yn erbyn menywod. Ewch ati i ddysgu mwy am yr Ymgyrch ‘Monumental Welsh Women’ a’r grŵp ‘Statue for Lady Rhondda’ ac ymunwch. Gallwn wneud hyn!

I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr yw ein cyfres newydd o flogiau sy’n rhoi rhywfaint o sylw ar y straeon yr hoffech adrodd i’ch cyfoedion. Wedi bod yn rhan o brosiect gymunedol arbennig? Ydy eich ymchwil neu eich sefydliad yn arloesol ac yn datrys problemau? Ydy eich gwaith yn galluogi neu’n hyrwyddo amrywiaeth? Eisiau rhannu eich atgofion o Gaerdydd, neu amlygu eich diddordebau? Hoffem glywed oddi wrthych.

Os hoffech gymryd rhan, llenwch ein ffurflen fer a rhannwch eich syniad gyda ni.

1 Turning the Tide: The Life of Lady Rhondda, Angela V John, Parthian:2013