Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewid y drefn

Newid y drefn: Nia Jones (Environmental Geography 2016-) a Douglas Lewns (Environmental Geography 2017-) – The No Straw Stand

20 Rhagfyr 2018

Mae Nia Jones (Daearyddiaeth Amgylcheddol 2016-) a Douglas Lewns (Daearyddiaeth Amgylcheddol 2017-yn fyfyrwyr yn Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn sylfaenwyr yr Ymgyrch Gwellt Plastig – ymgyrch i gael cwmnïau i roi’r gorau i ddefnyddio gwellt plastig. Eleni, bydd Nia yn gwasanaethu fel swyddog Moesegol ac Amgylcheddol yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd.

Nia and Douglas raise a glass outside Wahaca's Cardiff restaurant

Defnyddir gwellt plastig, ar gyfartaledd, am 20 munud yn unig. O’u taflu, gallant lygru’r amgylchedd am gannoedd o flynyddoedd. Mae’n fater byd-eang.

Bob dydd, mae dros 8 miliwn darn o blastig yn glanio yng nghefnforoedd y byd. Mae bywyd gwyllt yn eu bwyta, a byddant yn torri’n ddarnau bach o ficroblastigau. Yn ôl amcangyfrifon presennol, erbyn 2050 bydd mwy o blastig na physgod yn ein cefnforoedd. Mae gwellt plastig ymhlith 10 prif ffynhonnell ysbwriel morol; bob blwyddyn, caiff dros 36.4 biliwn ohonynt eu taflu ymaith yn yr Undeb Ewropeaidd yn unig.

Wrth astudio Daearyddiaeth Amgylcheddol, rydym wedi dod i werthfawrogi hyd a lled y broblem hon i raddau helaeth, a pha mor gyflym sy’n rhaid mynd ati i gymryd camau. Fodd bynnag, mae materion amgylcheddol o’r fath yn aml yn teimlo’n rhy fawr i gael eu hunioni gan gamau unigol.

Dyma’r hyn â’n hysbrydolodd i sefydlu’r Ymgyrch Gwellt Plastig. Mae’n fenter sy’n annog busnesau a sefydliadau i ymwrthod â gwellt plastig, a’u disodli gan bethau diwastraff a chynaliadwy eraill. Mae canolbwyntio ar fusnesau yn lleddfu’r pwysau ar unigolion, a thrwy helpu i berswadio busnesau i gael mwy o ymwybyddiaeth amgylcheddol, gall unigolion a chymunedau deimlo eu bod yn gwneud gwahaniaeth.

Un o’n llwyddiannau mwyaf hyd yma yw argyhoeddi’r gadwyn o fwytai, Wahaca, i roi’r gorau i wellt plastig – ac mae 30 o fusnesau eraill wedi gwneud yr un peth. Ein nod yw argyhoeddi hyd yn oed yn fwy!

Yn sgîl ein llwyddiant, rydym hefyd wedi glanio yng nghanol nifer o brosiectau gwahanol, gan gynnwys Rhiwbina Against Plastic a Plastic Free Penarth. Rydym bellach yn ymgysylltu â Chyngor Caerdydd er mwyn cyflwyno cyfres o lyfrau’r gwyddonydd amgylcheddol ac awdur plant, Ellie Jackson, Wild Tribe Heroes, mewn ysgolion lleol. Os gallwn annog plant ysgol i dyfu i fod y genhedlaeth nesaf o lysgenhadon amgylcheddol, byddwn yn dechrau gweld gwahaniaeth go iawn.

Darllenwch yr erthygl nesaf am Newid y Drefn:
Philip Evans QC (LLB 1993) – Prosiect Dieuogrwydd Caerdydd

Hefyd yn y gyfres: