Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Taith PhD Nabila Ali

15 Awst 2024

Graddiodd Nabila Ali yn ddiweddar gyda PhD. Roedd ei thesis yn ymwneud â rôl amrywiolion genetig prin mewn anhwylderau niwroddatblygiadol a seiciatrig. Dewisodd y maes hwn gan fod archwilio rôl geneteg mewn awtistiaeth wedi bod o ddiddordeb iddi erioed.
Ar hyn o bryd, mae’n Gydymaith Ymchwil yn y tîm Amrywiolion Nifer y Copïau yng Nghanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig y Brifysgol, a hynny yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol.

Rwyf wastad wedi credu yn y dywediad: “Mae breuddwyd yn parhau i fod yn freuddwyd nes byddwch yn cymryd camau i’w gwireddu.” Byth ers i mi gwblhau fy ngradd feddygol baglor, rwyf wedi cael fy ysbrydoli i ddilyn astudiaethau doethurol. Y syniad o ymgymryd ag ymchwil ysgolheigaidd drylwyr, gwneud cyfraniad o bwys i wyddoniaeth, a chychwyn ar daith o gyfoethogi ac archwilio deallusol – dyna’r hyn a sbardunodd fy nyheadau. Am tua 5 mlynedd, fe wnes gais i astudio gwahanol raglenni PhD, ond ni chefais lwyddiant. Fodd bynnag, ni wnaeth hyn fy nigalonni. Yn lle hynny, dechreuais chwilio am ffyrdd amgen o gyflawni fy nod.

Yn 2018, fe gysylltais ag athrawon sy’n ymwneud ag ymchwil niwroseiciatrig, gan fynegi fy angerdd gwirioneddol dros ddilyn PhD. Ychydig cyn diwedd y flwyddyn, fe gefais ebost calonogol gan y person a fyddai’n oruchwyliwr PhD i mi maes o law. Ym mis Medi 2019, fe gerddais i mewn i adeilad Hadyn Ellis am y tro cyntaf, gan ymuno’n swyddogol â’r Is-adran Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd. A dyna fan cychwyn taith heriol a chaletach nag oeddwn erioed wedi’i disgwyl, a heb unrhyw linell derfyn amlwg mewn golwg.

Beth bynnag fo’ch cefndir academaidd, mae dilyn PhD yn ymdrech heriol sy’n golygu nad ydych byth yn rhoi’r gorau i ddysgu a thyfu. Yr hyn sy’n hanfodol er mwyn gallu dyfalbarhau yw dod o hyd i lawenydd yn y broses yn hytrach na gadael i straen eich trechu. I ddechrau, roeddwn wedi fy lethu ac roeddwn bob amser yn ymdrechu am berffeithrwydd, yn anymwybodol o fy niffygion fy hun ac yn gweld camsyniadau fel methiannau. Fodd bynnag, erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, fe wnes i sylweddoli bod mynd ati fel hyn yn niweidiol i fy lles. Fe ddechreuais flaenoriaethu hunanofal, derbyn fy nghamgymeriadau fel rhan naturiol o ddysgu, cydnabod yr hyn na allwn ei wneud, a gofyn am gymorth pan oedd angen. Dyna pryd y newidiodd fy safbwynt, ac fe ddechreuais fwynhau fy ngwaith o ddifrif.

Mae fy nhaith drwy’r rhaglen PhD wedi bod yn arbennig o heriol. Fe ddechreuodd pandemig COVID-19 ychydig fisoedd ar ôl i mi ddechrau fy mlwyddyn gyntaf, a bu’n rhaid i mi addasu i’r byd a oedd yn newid fel myfyriwr rhyngwladol ac yn fam i ddau o blant ifanc o dan 6 oed. Roedd fel petai ryw ansicrwydd newydd bob dydd ynghylch sut byddai bywyd yn datblygu, heb sôn am PhD. Roedd cyfyngiadau’r pandemig yn golygu bod yn rhaid i’m PhD ddilyn trywydd gwahanol, ac roedd angen i mi geisio paratoi cynlluniau newydd gyda’m goruchwylwyr. Er yr holl heriau hyn, roeddwn yn llawn gobaith ac yn benderfynol. Yn annisgwyl, y cyfnod cloi, er ei fod yn anodd, oedd un o adegau mwyaf trawsnewidiol fy mywyd. Fe ddysgais am bwysigrwydd peidio â chymryd dim byd yn ganiataol a chofleidio ffordd hyblyg o feddwl, gan edrych ar bob rhwystr fel cyfle i dyfu’n bersonol.

Erbyn i mi gyrraedd blwyddyn olaf fy astudiaethau, roeddwn wedi ymgolli yn y dasg heriol o gau pen y mwdwl ar fy ngwaith a chyflwyno fy nghanfyddiadau. Ar yr un pryd, roeddwn yn mynd drwy un o gyfnodau anoddaf a heriol fy mywyd wrth i fy mamwlad sydd mor agos at fy nghalon gael ei rhwygo gan anrheithiau rhyfel cartref. Y dewis o fy mlaen oedd naill ai dyfalbarhau â’r hyn yr oeddwn wedi ei ddechrau, neu ildio i anobaith a thristwch. Fe es i am y dewis cyntaf, gan gadw fy mreuddwyd o flaen fy llygaid, a gweithio’n galetach. Yn y pen draw, fe lwyddais i gwblhau fy PhD cyn fy nyddiadau cau. Yn fy ngweithgareddau academaidd parhaus, roeddwn wrth fy modd pan gefais fy mhenodi’n ymchwilydd cyswllt gan iddi fy ngalluogi i barhau â’m hymchwil PhD yn ogystal ag ehangu fy nealltwriaeth ym maes atyniadol geneteg niwroseiciatrig. Fel cyn-fyfyriwr PhD a chydymaith ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd ar hyn o bryd, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’m taith.

Rwy’n credu bod yn rhaid i bob myfyriwr doethurol ddod o hyd i ffordd i ymgorffori eu hastudiaethau PhD yn rhan o’u bywyd bob dydd ond peidio â gadael iddo gymryd drosodd popeth arall. Mae ymfalchïo mewn mân fuddugoliaethau yn hanfodol, yn ogystal â defnyddio rhwystrau fel cyfleoedd dysgu er mwyn dod o hyd i’ch ffordd drwy’r cam hwn yn llwyddiannus. Wrth wynebu rhwystrau annisgwyl, mae’n bwysig atgoffa ein hunain o’r rhesymau pam y gwnaethom ni gychwyn ar y daith hon. Mae cael pobl gefnogol a gofalgar o’n cwmpas, a bod yn barod i oedi a myfyrio yn ystod y daith, yn ein helpu i adennill y cydbwysedd angenrheidiol ar adegau anodd. Er bydd y rhaglen PhD yn dod i ben maes o law, bydd y profiadau a’r wybodaeth a gewch yn cael effaith barhaol. Felly, mae’n hollbwysig gwerthfawrogi a thrysori pob cam o’r daith hon.