Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Pam rwy’n gweithio ym maes ymchwil iechyd meddwl – Chloe Apsey

1 Gorffennaf 2024

Pam dewisoch chi wneud ymchwil i iechyd meddwl / gweithio ym maes ymchwil iechyd meddwl?

Pan oeddwn i yn yr ysgol yn astudio ar gyfer fy nghymwysterau TGAU, penderfynais i fod gen i ddiddordeb mewn seicoleg a gyrfa ym maes iechyd meddwl.

Dewisais i astudio Seicoleg, Bioleg a Llenyddiaeth Saesneg ar lefel Safon Uwch. Roedd fy ngraddau’n edrych yn addawol iawn ar ôl y flwyddyn gyntaf, ac fe ges i gynnig lle amodol mewn sawl prifysgol Grŵp Russell. Treuliais i’r flwyddyn olaf yn astudio’n galed er mwyn ceisio sicrhau fy lle yn y prifysgolion hynny. Yn anffodus, oherwydd rhai problemau personol, dechreuais i deimlo’n fwy a mwy pryderus, ac roedd hi’n anodd mynd i’r ysgol a chanolbwyntio. O ganlyniad, fe ges i BBB yn hytrach na’r AAB angenrheidiol.

Roeddwn i’n torri fy nghalon, a doedd y ffaith bod angen i mi godi’r ffôn ar yr un prynhawn (oherwydd sut mae’r system glirio’n gweithio) a holi prifysgolion eraill a oedd unrhyw leoedd yn weddill ganddyn nhw ddim yn helpu. Am fod Seicoleg yn bwnc mor boblogaidd, dim ond hyn a hyn o opsiynau oedd gen i, ond derbyniais i le ym Mhrifysgol Plymouth yn y diwedd.

Treuliais i’r tair blynedd yn gweithio’n galed iawn, ac fe ges i radd dosbarth cyntaf ym mhob blwyddyn astudio, gan gynnwys llythyr o ganmoliaeth bob blwyddyn. Gan fy mod i yn Plymouth, fe ges i’r cyfle hefyd i ysgrifennu traethawd hir unigryw iawn ar effeithiau gwybyddol narcosis nitrogen, a hynny gan ddefnyddio siambr hyperbarig ac electroenceffalograffeg (EEG).

Ar ôl graddio, fe wnes i gais i astudio ar gyfer gradd meistr ym maes Niwrowyddoniaeth ym mhob un o’r prifysgolion roeddwn i wedi eisiau mynd iddyn nhw i ddechrau, a chynigiodd pob un ohonyn nhw le i mi. Ymhlith y prifysgolion hynny roedd Prifysgol Caerdydd, wnaeth gynnig ysgoloriaeth gradd meistr i mi i wneud ei chwrs Niwroddelweddu. Fe wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr, ac roeddwn i’n awyddus i barhau â gyrfa ymchwil!

Fe wnes i gais am swydd Cynorthwyydd Seicoleg yn y Ganolfan Genedlaethol er Iechyd Meddwl (NCMH) er mwyn helpu’r ganolfan i gynnal ei phrosiect ymchwil ar COVID-19. Yn anffodus, doeddwn i ddim yn llwyddiannus (roeddwn i braidd yn nerfus ac yn or-siaradus yn y cyfweliad). Yn ffodus, fe ges i alwad wythnos yn ddiweddarach gan dîm NCMH i roi gwybod bod swydd arall ar gael, fyddai’n golygu gweithio ar brosiect ymchwil ar Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif (PMDD). Roedd y tîm yn meddwl y bydda i’n berffaith ar gyfer y swydd, gan i mi fwydro yn y cyfweliad a dechrau sôn am iechyd meddwl menywod ac effeithiau hormonau ar eich hwyliau. Roedd y swydd am gyfnod penodol o dri mis i ddechrau, ond tair blynedd yn ddiweddarach, dw i wedi camu ymlaen o fod yn Gynorthwyydd Seicoleg i fod yn Gynorthwyydd Ymchwil. Dw i hefyd wedi dechrau astudio ar gyfer PhD sy’n ymchwilio i PMDD.

Pam dw i’n dweud hyn i gyd wrthych chi? Os bydd y llwybr syth oedd gennych chi mewn golwg ddim ar gael i chi, bydd llwybr hirach ar gael yn aml sy’n eich helpu i gyrraedd y nod, a gallai’r llwybr hwnnw fod hyd yn oed yn fwy difyr na’r llwybr cyntaf.

Ar beth rydych chi’n gweithio ar hyn o bryd?

Mae fy swydd a’r PhD yn ymchwilio i achosion PMDD a’i arwyddion. Mae PMDD yn effeithio ar 5.5% o fenywod a phobl gafodd eu rhoi mewn categori rhyw benywaidd adeg eu geni sy’n cael mislif. Ymhlith symptomau PMDD mae hwyliau isel difrifol, gorbryder ac anniddigrwydd. Mae’r rhain i’w gweld yn y 7-10 diwrnod cyn y mislif ac yn gwella ar ôl i’r mislif ddechrau.

Er mwyn gallu gwneud diagnosis o PMDD, mae angen mesur eich symptomau bob dydd dros ddwy gylchred fislifol. Fodd bynnag, oherwydd y materion methodolegol sy’n gysylltiedig â hyn, mae llawer o ymchwil wedi methu â mabwysiadu mesurau safonedig, sy’n arwain at lawer o ddryswch a gwallau yn y llenyddiaeth bresennol.

Ein nod yw cynnal yr astudiaeth enetig fwyaf o PMDD sy’n defnyddio mesurau monitro hwyliau arfaethedig i gadarnhau’r diagnosis. Rydyn ni hefyd wrthi’n gweithio gyda’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ym Mhrifysgol Caerdydd i ddatblygu ap tracio hwyliau a mislifoedd er mwyn ein helpu i gasglu data. Y gobaith yw y bydd hefyd yn adnodd diagnostig yn y dyfodol.

Hefyd, yn rhan o’r PhD, rydyn ni’n cydweithio â’r ap tracio mislifoedd Clue. Mae wedi caniatáu i ni weld ei ddata er mwyn ystyried sut mae pobl sy’n dioddef gan PMDD yn tracio eu symptomau.

Pa newidiadau rydych chi wedi’u gweld mewn agweddau tuag at iechyd meddwl yn ystod eich gyrfa?

Mae sgyrsiau ynghylch iechyd meddwl a mislifoedd yn bendant yn dod yn fwy cyffredin a hamddenol, sy’n wych. Mae’r sgyrsiau hyn yn galluogi pobl i gyfleu eu teimladau a cheisio’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Yn eich barn chi, beth yw’r prif heriau ar gyfer iechyd meddwl?

Yn anffodus, mae mwy o addysg yn y cyfryngau ac ar y cyfryngau cymdeithasol yn arwain at lawer o gamaddysg. Diagnosis sy’n cael ei gydnabod o’r newydd yw PMDD, a dim ond hyn a hyn o lenyddiaeth sydd ar gael, ond mae llawer o’r postiadau ar-lein yn sôn am y pwnc fel pe bai’n wyddor fanwl. Mae llawer o adnoddau da ar gael, yn enwedig o ffynonellau sydd wedi’u cymeradwyo gan glinigwyr megis y Gymdeithas Ryngwladol er Anhwylderau Cyn Mislif (IAPMD). Fodd bynnag, gall y wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol fod yn gamarweiniol weithiau.

Pa gyngor y byddech chi’n ei roi i’r rhai sy’n dechrau gyrfa ym maes ymchwil iechyd meddwl?

Ceisiwch gael cymaint o brofiad â phosibl, yn enwedig o weithio gyda phobl sydd â phrofiadau bywyd. Yn ystod fy amser yn y brifysgol, bues i’n weithiwr cymorth oedd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig a diagnosis o anaf trawmatig i’r ymennydd. Roedd y profiad hwn yn amhrisiadwy, gan i mi gael syniad o oblygiadau go iawn fy ngwaith. Hefyd, gofynnwch gwestiynau bob cyfle posibl. Os ydych chi’n dal i astudio neu’n mynd i seminar, ceisiwch ofyn cwestiynau neu aros ar ôl i siarad â’r darlithydd, yn enwedig os yw’r pwnc yn arbennig o ddiddorol!