Skip to main content

Diagnosis, triniaethau a llesIechyd meddwl oedolion

Mae pobl Iach yn gallu clywed lleisiau hefyd

6 Mehefin 2016

Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi dod ar draws ambell berson ar y stryd yn mwmial wrthynt eu hunain, fel pe baent yn cael sgwrs gyda rhywun arall. Maent yn aml yn ymddangos fel petaent wedi llwyr ymgolli yn eu cymdeithion anweledig, ac eto rywsut wedi drysu neu hyd yn oed mewn trallod ar adegau.

Beth fyddai eich ymateb chi petawn i’n dweud wrthych mai’r rheswm mwyaf tebygol am eu hymddygiad di-ddal yw eu bod yn clywed lleisiau, neu fel y dywedai gweithwyr meddygol proffesiynol, yn profi rhithweledigaethau clyweledol?

Ni fyddai’r mwyafrif ohonom yn petruso cyn galw unigolion o’r fath yn ‘wallgof’.

Efallai bod y rhai ohonom sy’n osgoi eu golygon ac yn eu hystyried yn rhyfedd, neu hyd yn oed yn beryglus, yn credu hynny am resymau da. Go brin bod unrhyw beth yn diffinio gwallgofrwydd yn well na chlywed lleisiau. Does dim yn erydu ein hymdeimlad ohonom ein hunain yn fwy sylfaenol na cholli cysylltiad â realiti.

Yn naturiol, yr ydym yn ofni’r ‘bobl wallgof hynny’ sydd wedi colli cysylltiad â realiti, gan eu bod yn ein hatgoffa’n barhaus y gallai hynny – ni waeth pa mor annhebygol yr ymddengys – ddigwydd i ninnau ryw ddiwrnod.

Beth petawn i’n dweud wrthych chi fod pobl normal yn gallu clywed lleisiau hefyd? A beth fyddai eich ymateb petawn i’n dweud wrthych chi nad oes rhaniad clir rhyngom ‘ni bobl normal’ a ‘nhw’?

Wrth gwrs, nid wyf yn gwadu’r ffaith y gall clywed lleisiau achosi trallod mawr ac achosi pob math o broblemau ym mywyd pob dydd rhywun. Mae gan lawer o bobl sy’n gweld rhithweledigaethau afiechyd seicotig y gellir rhoi diagnosis yn ei gylch, ond mae llawer mwy o bobl nad oes angen unrhyw fath o ofal seiciatrig arnynt – ond sy’n clywed lleisiau’n barhaus.

Mae fy ymchwil PhD yn canolbwyntio ar ‘gyflwr meddyliol peryglus’ seicosis, y cyfnod tyngedfennol cyn datblygu salwch seicotig megis sgitsoffrenia, a nodweddir yn aml gan newidiadau cynnil ym meddyliau a chanfyddiadau rhywun.

Fodd bynnag, nid dyma’r stori lawn o bell ffordd. Ni fydd mwyafrif (dros 60%) yr unigolion sydd â’r ffactorau risg hyn byth yn datblygu seicosis llawn, a dyma’r bobl sydd wedi ceisio cymorth gan y gwasanaethau seiciatrig. Mewn gwirionedd, o’u cymharu â phawb a gafodd brofiadau anarferol, y rhai sy’n cael diagnosis yn y pen draw yw’r lleiafrif.

Yr wyf hefyd yn aelod o’r Consortiwm Rhyngwladol ar Ymchwil Rhithweledigaethau (ICHR); ynghyd â chydweithwyr o’r prosiect ‘Hearing the Voice’ ym Mhrifysgol Durham a llawer o rai eraill ledled y byd, rydym wedi cyhoeddi cyfres o bapurau Mynediad Agored ar rhithweledigaethau. Teitl un ohonynt yw ‘Auditory Verbal Hallucinations in Persons with and without a Need for Care’.

Cafwyd mai’r ffactorau pwysicaf oedd yn gwahaniaethu rhwng yr unigolion sydd angen mewnbwn seiciatrig a’r rhai nad oes angen hynny arnynt, yn hytrach na phresenoldeb y lleisiau eu hunain, yw faint o drallod mae’r lleisiau’n ei achosi (sydd fel arfer yn gysylltiedig â lefel uchel o negyddiaeth emosiynol yng nghynnwys y lleisiau) a faint o reolaeth sydd gan yr unigolyn arnynt.

Ni ddylai fod yn wrthreddfol na fyddech yn ymdopi’n dda iawn pe na bai gennych lawer iawn o reolaeth, os o gwbl, ar y lleisiau sy’n eich poeni’n barhaus. Yn wir, pan fyddwn ni’n meddwl am ‘bobl wallgof’, at yr achosion hyn yr ydym ni’n cyfeirio, nid y bobl ‘normal’ sy’n bwrw ymlaen â’u bywydau.

Mewn geiriau eraill, mae tuedd i’r ddelwedd a’r gynrychiolaeth a roddir i ‘glywed lleisiau’. Pan na fyddwn ni’n deall rhywbeth, mae llawer ohonom naill ai’n rhamanteiddio neu’n stigmateiddio’r ffenomena dan sylw.

Nid yw clywed lleisiau yn eithriad i hyn. Mae pobl yn ofni gofyn am gymorth pan fydd hyn yn mynd yn broblem oherwydd bod pobl yn ofni’r rhai sy’n gofyn am gymorth. Ymddengys bod y portread o’r ‘rhai â salwch meddwl’ a geir yn y cyfryngau torfol yn eu cyfleu naill ai ar ffurf athrylith gwallgof neu lofrudd seicotig.

Ni roddir unrhyw gydnabyddiaeth i’r tir canol – y rhai sy’n clywed lleisiau a hefyd yn bwrw ymlaen â’u bywydau’n llwyddiannus – oherwydd nad oes ‘cyffro’ ynghlwm wrth glywed lleisiau a bod yn iach.

Ym mlwyddyn gyntaf fy PhD, fe gyflawnais amrywiol orchwylion gwybyddol ynghylch dysgu a’r cof mewn dros gant o unigolion iach sy’n bobl hynod ddeallus ac yn gweithredu’n eithriadol o lwyddiannus. Roeddent yn cynnwys myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig yn ogystal ag aelodau iau o staff ym Mhrifysgol Caerdydd.

Ac eto, adroddodd bron pob un ohonynt eu bod hefyd wedi cael lefelau amrywiol o brofiadau anarferol, weithiau’n aml. Yn amlwg nid yw hyn yn golygu bod pawb ohonynt yn ‘wallgof’.

Yn wir, petai pawb ohonom sy’n clywed lleisiau yn cael ein labelu’n wallgof, fyddai dim llawer o bobl normal ar ôl yn ein plith. Mae’n wir y bydd cyfran ohonynt yn mynd ymlaen i brofi problemau iechyd meddwl. Ond mater o ystadegau’n unig yw hynny, a thebygolrwydd yr ydym i gyd yn agored iddo.

Hyd yn oed ymhlith pobl sydd â risg uchel genetig neu amgylcheddol o ddatblygu seicosis (megis y rhai sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig difrifol), nid oes ffactor unigol sy’n rhagfynegi salwch yn y dyfodol yn gwbl gywir. Yn sicr, nid yw clywed lleisiau yn ffactor o’r fath.

Felly beth am y rhai sy’n clywed lleisiau’n lladd arnynt yn ddi-baid, gan reoli eu bywyd cyfan? Rhai sydd ddim yn ymateb i driniaeth? On’d oes rhaid eu bod nhw’n wallgof?!

I mi, mae labelu rhywun sydd ag angen amlwg am help seiciatrig yn ‘wallgof’ fel galw rhywun sydd â chanser angheuol yn ‘fethiant o ran amlder celloedd’. Mae’n swnio’n hurt, on’d yw e? Nid y symptom sy’n diffinio’r unigolyn sy’n dioddef. Yn union fel y mae gan bob un ohonom fecanweithiau amlder celloedd, mae gan bob un ohonom hefyd y potensial i ‘fynd yn wallgof’.

Nid codi bwganod yr wyf fi, ond nid wyf chwaith yn cynnig gobeithion ac addewidion di-sail. Yn union fel mae rhai pobl yn marw o ganser, nid yw eraill byth yn ymadfer yn llawn wedi seicosis. Ond nid yw hynny’n golygu y dylem ni eu trin yn wahanol o gwbl.

Y tro nesaf y byddwch chi’n clywed rhywun yn galw eich enw, dim ond i ganfod nad oes neb yno wedi i chi droi – beth am ystyried: ydych chi wedi croesi’r ffin rhwng ‘normalrwydd’ a ‘gwallgofrwydd’? Efallai dylai pawb ohonom feddwl ddwywaith cyn tynnu’r llinell honno.