Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Grym creu ar y cyd – profiad bywyd wrth gynnal ymchwil

20 Awst 2024

Yn y blog hwn mae Emma Meilak, Arweinydd Cynnwys y Cyhoedd yng Nghanolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a Sami Gichki, un o aelodau Grŵp Cynghori Pobl Ifanc Canolfan Wolfson, yn rhannu eu barn ar bwysigrwydd cynnwys pobl â phrofiad bywyd o gyflyrau iechyd meddwl yn rhan o waith ymchwil.

Emma
Ein gweledigaeth yng Nghanolfan Wolfson yw cynnal ymchwil rhyngddisgyblaethol o safon sy’n gwella bywydau pobl ifanc. Mae cynnwys y cyhoedd yn rhan annatod o’n hymchwil, a’n nod yw rhoi arbenigedd profiad bywyd pobl ifanc wrth wraidd ein gwaith.

Ein cenhadaeth yw creu cymuned o gyfranwyr y mae eu harbenigedd yn llywio, yn cefnogi ac yn sail i waith y Ganolfan. Mae’r gymuned hon yn ein llywio ar y cwestiynau ymchwil sy’n bwysig i bobl ifanc, ac yn ein cynghori ar sut mae ymchwil yn cael ei chynnal a’i chyfathrebu.

Ein nod yw:

  1. Gwrando ar bobl sydd â phrofiad bywyd yn rhan o’n gwaith hymchwil a’n strategaeth, ei integreiddio a’i werthfawrogi
  2. Creu cymuned o gyfranwyr i sicrhau cydberthnasau tymor hir
  3. Hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr iechyd meddwl am bwysigrwydd cynnwys y cyhoedd
  4. Llunio glasbrint arfer gorau ar gyfer cynnwys pobl ifanc yn rhan o ymchwil

Yn ganolog i’n cenhadaeth i gynnwys y cyhoedd mae ein Grŵp Cynghori Pobl Ifanc. Cafodd y grŵp ei greu yn 2021 ac mae’n cynnwys pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sydd â phrofiad bywyd o anawsterau iechyd meddwl. Rydyn ni’n cwrdd unwaith y mis i drafod prosiectau ymchwil, cael hyfforddiant a chreu cynnwys ar y cyd i gefnogi gweithgareddau a digwyddiadau ymgysylltu’r Ganolfan.  Mae’r grŵp yn weithgar mewn sawl maes o waith y Ganolfan : maen nhw’n mynegi eu barn ar geisiadau grant cyn eu cyflwyno, yn cwrdd ag ymchwilwyr i drafod sut i fynd ati o ran prosiectau, yn cyd-gyflwyno yn ein Hysgol Haf flynyddol ac yn creu blogiau a chynnwys yn rheolaidd i ni eu defnyddio mewn digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau eraill. Er enghraifft, fe wnaeth y cynghorwyr greu ymgyrch ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ar y cyd â’n swyddog cyfathrebu ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Un o gonglfeini’r ffordd rydyn ni’n mynd ati yw meithrin cydberthynas gyda’n pobl ifanc sy’n gweithio’r ddwy ffordd, gan geisio adborth yn aml ar y cyfleoedd a’r profiadau y bydden nhw am i ni eu cynnig iddyn nhw. Mae cwmpas y rhain yn eang ac maen nhw wedi cynnwys teithiau i Gaeredin i roi cyflwyniadau mewn cynadleddau, mynediad at uwch staff academaidd i gael cyngor ar yrfaoedd, ac ysgrifennu geirdaon ar gyfer ceisiadau am swyddi.

Wedi dweud hynny, rhoi cyngor ar sut yn union rydyn ni’n cynnal ein hymchwil yw bara menyn gweithgaredd y Grŵp Cynghori Pobl Ifanc. Maen nhw wedi bod yn allweddol wrth arwain datblygiad ein treial clinigol flaenllaw newydd Sgiliau er Lles y Glasoed (SWELL)  astudiaeth sy’n canolbwyntio ar ddiogelu pobl ifanc rhag iselder. Rydyn ni wedi ymgynghori â’r grŵp droeon, gan gyfrannu at ddyluniad yr astudiaeth a’r adnoddau i’w defnyddio yn rhan o sesiynau therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein.

Mae’r grŵp yn rhoi eu barn ar sut rydyn ni’n cynnal ein hymchwil – ond maen nhw hefyd wrthi’n gosod yr agenda ar gyfer yr hyn rydyn ni’n ei wneud yma yn y Ganolfan. Yn ystod un o’n trafodaethau cynharaf, cafodd stigma iechyd meddwl ei chodi’n thema allweddol bwysig i’n pobl ifanc.  O ystyried arwyddocâd y mater hwn i’n hymgynghorwyr, fe wnaethon ni newid pwyslais ein cyfarfod Bwrdd Gweithredu ac Ymgysylltu i drafod hyn yn fanwl ag ystod o randdeiliaid, gan gynnwys clinigwyr y GIG a phartneriaid y trydydd sector, yn ogystal â Chomisiynydd Plant Cymru a chynghorwyr o Lywodraeth Cymru.

Dros y tair blynedd diwethaf, rwyf wedi cael fy syfrdanu’n rheolaidd gan angerdd ein pobl ifanc ynghylch lleisio’u barn ym maes ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc. Maen nhw eisiau cyfrannu’n uniongyrchol at sut mae ein hymchwil yn cael ei dylunio, ei chynnal a’i lledaenu – fel y bydd Sami, aelod o’r Grŵp Cynghori Pobl Ifanc, yn esbonio nesaf.

 Sami

Creu ar y cyd: dyma ffordd o gynnwys lleisiau’r rheiny a ddylai fod yn elwa o waith ymchwil ym mhob cam o’r broses. Mae hyn er mwyn ei gwneud yn fwy cynhwysol a sicrhau ei bod wedi’i thargedu at eu blaenoriaethau nhw, rhywbeth a all fynd ar goll yn hawdd ar ochr glinigol y gwaith.

Yng Nghanolfan Wolfson, mae’r cysyniad o greu ar y cyd yn cael ei wireddu mewn ffordd hyfryd. Pobl ifanc yn gweithio gydag ymchwilwyr, gan adeiladu’n gyson ar ymchwil ac hefyd yn ei herio lle bynnag y bo angen. Proses sy’n helpu i greu’r hyn sy’n gweithio i lawer o bobl.

Mae’r Grŵp Cynghori Pobl Ifanc yn cynghori ar lawer o brosiectau gwahanol. Rydyn ni’n rhannu ein profiad bywyd ein hunain yn uniongyrchol â’r ymchwilwyr, gan ddweud: “dydy hyn ddim yn gynhwysol – byddai hyn yn gweithio’n well”. Rydyn ni’n helpu i wneud i’r ymchwil ganolbwyntio ar y gwahanol heriau y mae pobl ifanc fel ni wedi’u hwynebu wrth gael mynediad at gymorth iechyd meddwl yn ein bywydau.

Er mor bwysig yw’r materion hyn o safbwynt ymchwil, maen nhw’r un mor bwysig i ni fel pobl ifanc. Mae’n rhywle diogel a llawn gobaith, lle rydyn ni’n rhydd i siarad am ein brwydrau, ac rydyn ni bob amser yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnon ni i wneud hyn.

Meithrin cysylltiad a pherthynas rhwng aelodau’r grŵp a’r Ganolfan sy’n creu’r mannau diogel hyn i ni fod yn agored. Alla i ddim gor-ddweud pa mor bwysig yw’r angen am gysylltiadau dynol a’r budd o gwrdd â’n gilydd wyneb yn wyneb. Dyma le mae’r gwir harddwch – wrth greu diwylliant lle rydyn ni’n ymddiried yn ein gilydd, yn garedig i’n gilydd, ac yn gwerthfawrogi ein gilydd.

Lluniau o gyfarfod wyneb yn wyneb diweddar lle nododd y bobl ifanc eu syniadau ar gyfer sesiynau yn y dyfodol. Fe wnaethon nhw hefyd ddefnyddio lluniau wedi’u tynnu â llaw i ddathlu’r sgiliau y mae pob aelod yn eu cyfrannu i’r grŵp.

Mae’n gallu bod yn anodd creu lle fel hyn, er bod natur y ffordd y caiff y grŵp cynghori ei drin yn gyfartal â’r ymchwilwyr yn ei gwneud yn haws! Rydyn ni’n cael ein hannog i ddysgu ond hefyd i addysgu yn yr un modd. Addysgu gan ddefnyddio’r wybodaeth rydyn ni wedi’i hennill trwy brofiad bywyd. I wneud pethau hyd yn oed yn fwy cyfartal, rydyn ni hefyd yn cael iawndal am ein hamser a’n harbenigedd.

Wrth gloi, gallai strwythur grŵp Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc gael ei ddefnyddio’n lasbrint ar gyfer sut y gallai creu ar y cyd gael ei wreiddio’n rhan o waith ymchwil. Gwneud rhywbeth cyson sy’n rhoi gwell sgiliau i bobl ifanc, tra’n gwneud profiad bywyd yn flaenoriaeth heb gymryd mantais ohono.

Emma : Mae’r wybodaeth y mae ein pobl ifanc wedi’i rhannu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi gwneud ein hymchwil yn fwy perthnasol, wedi helpu i ddiffinio’r hyn sy’n dderbyniol i’r rheiny sy’n cymryd rhan, ac wedi gwella’r profiad o gymryd rhan mewn gwaith ymchwil. Mae wedi bod yn fraint enfawr i mi weithio gyda nhw a dod i’w hadnabod.

Dysgwch ragor am Ganolfan Wolfson a’i gwaith gyda phobl ifanc ar ein gwefan.