Skip to main content

Iechyd meddwl oedolion

Cyfnewid gwybodaeth trwy leoliadau nyrsio iechyd meddwl dewisol dramor

31 Gorffennaf 2024

Roedd cyfnewid gwybodaeth llwyddiannus ar gyfer ymarfer nyrsio iechyd meddwl, polisi, ymchwil ac addysg rhwng ein Hysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac Ardal Iechyd Lleol Canolbarth y Gogledd (De Cymru Newydd, Awstralia) yn gyfle i gyfnewid gwybodaeth ymhellach trwy leoliadau myfyrwyr rhyngwladol.

Seren Roberts (Uwch Ddarlithydd Nyrsio Iechyd Meddwl)

Mae’r modelau addysg nyrsio iechyd meddwl yn wahanol iawn rhwng y ddwy wlad. Mae addysg nyrsio ledled y DU yn faes penodol gyda phedwar maes nyrsio ar gael ar lefel israddedig: plant, oedolion, anabledd dysgu a nyrsio meddwl. Yn Awstralia, mae addysg nyrsio yn generig heb unrhyw arbenigedd maes ar lefel israddedig. Mae’r ddwy wlad hefyd yn cynnig modelau gwahanol o gydnabod a chofrestru gyda chyrff llywodraethu i ymarfer fel nyrsys iechyd meddwl arbenigol.

Am y rheswm hwn, mae gan hwyluso lleoliad ar gyfer myfyrwyr nyrsio israddedig oblygiadau pwysig ar gyfer dysgu ymarfer a datblygiad ein gweithlu yn y dyfodol yn y ddwy wlad. Mae gwerth lleoliadau dewisol rhyngwladol ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol nyrsys israddedig yn ogystal â chymhwysedd diwylliannol, wedi’i hen sefydlu (Adamson, 2018, Bagnasco et al., 2020, Browne et al., 2015, Carter et al., 2019, Johnston et al., 2022, Ulvund et al., 2023). Gallai lleoliadau myfyrwyr nyrsio rhyngwladol hefyd arwain at ymlediad gwybodaeth a sgiliau rhwng gwahanol wledydd (Keogh and Russel-Roberts, 2009) fel math o gyfnewid gwybodaeth.

Gan adeiladu ar ein partneriaeth gydweithredol ryngwladol, fe wnaethom gynnig y cyfle i’n myfyrwyr nyrsio iechyd meddwl ymgymryd â lleoliad rhyngwladol gydag Ardal Iechyd Lleol Canolbarth Arfordir y Gogledd ar gyfer eu lleoliad dewisol. Dyma’r lleoliad dewisol rhyngwladol cyntaf yn Awstralia i’n myfyrwyr nyrsio. Mae’r lleoliad arsylwi dewisol yn para am 3 wythnos ac mae hanner ffordd drwy’r rhaglen. Mae’n caniatáu i fyfyrwyr brofi cyd-destun gofal iechyd gwahanol yn y DU neu dramor. Ym mis Mawrth 2024, aeth ein myfyriwr cyntaf, myfyriwr israddedig nyrsio iechyd meddwl, i Ardal Iechyd Lleol Canolbarth Arfordir y Gogledd ar gyfer ei lleoliad dewisol. Mae Abi yn adrodd ei stori am ei phrofiadau a’i dysgu yn ystod y lleoliad dewisol hwn.

Abi Fisher (Myfyriwr Nyrsio Iechyd Meddwl)

Roedd cwblhau un o fy lleoliadau nyrsio iechyd meddwl yn Awstralia yn gyfle anhygoel. Rwyf wedi gallu cymryd cymaint o’r profiad dysgu hwn drwy gael mewnwelediad unigryw i amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd meddwl mewn rhanbarth bach o New South Wales – Coffs Harbour – a deall mwy am y llwybr hyfforddi ar gyfer nyrsys iechyd meddwl yn Awstralia.

Roeddwn yn ddigon ffodus i dreulio amser gydag ystod o wasanaethau iechyd meddwl yn ystod fy lleoliad. Roedd hyn yn cynnwys amser ar ward adsefydlu iechyd meddwl, yr uned gofal dwys seiciatrig, gyda’r tîm iechyd meddwl cymunedol (TIMC) a thîm iechyd meddwl yr adran achosion brys.

Gwnaeth y rhaglen ward adsefydlu argraff aruthrol arnaf. Wedi’i dylunio o ongl therapiwtig, roedd y rhaglen yn hybu ymdeimlad o gymuned, cyfeillgarwch a hunanwerth. Roedd pob diwrnod yn cael ei gynllunio a’i drefnu gan y defnyddwyr gwasanaeth yn ystod cyfarfod y bore, gydag amrywiaeth o weithgareddau arfaethedig ar gael. Roedd staff yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau dyddiol gyda defnyddwyr gwasanaeth fel rhan o’r rhaglen gynhwysol hon.

Wrth siarad â’r defnyddwyr gwasanaeth, daeth yn amlwg bod eu hymdeimlad o gael eu gwerthfawrogi’n wirioneddol yn rhan hanfodol o’u taith bersonol i adferiad a gwellhad. Mae sgwrsio a myfyrio yn dod yn llawer mwy naturiol mewn amgylchedd nad yw’n cyfeirio (non-directive) (Joseph, 2015). Er enghraifft, digwyddodd fy sgwrs fwyaf diddorol a gwerthfawr gyda defnyddiwr gwasanaeth yn ystod bore o arddwriaeth yng ngerddi’r ward.

Teimlaf fod natur a llwyddiant y rhaglen adsefydlu hon yn haeddu cydnabyddiaeth. Roedd fy lleoliad diwethaf yn y DU ar ward adsefydlu ac un o’m hadlewyrchiadau o’r lleoliad hwnnw oedd y diffyg ymgysylltu cymunedol a rhyngweithiol rhwng staff a defnyddwyr gwasanaethau. Teimlaf y gallai rhai o elfennau’r rhaglen adsefydlu a welais yn Coffs Harbour fod yn hynod werthfawr o ran llywio a gwella rhaglenni adsefydlu iechyd meddwl presennol ac yn y dyfodol yng Nghymru a ledled y DU.

Un agwedd ar nyrsio yn Awstralia a oedd yn amlwg i mi oedd y gwahaniaeth rhwng y llwybrau hyfforddi i ddod yn nyrs iechyd meddwl. Yn Awstralia, mae nyrsys ar draws y tair cangen yn cwblhau’r un radd nyrsio cyffredinol. Yn ystod eu hyfforddiant, dyw’r nyrsus ond yn cael chwarter yr amser lleoliad yr ydym ni yn ei gael yn y DU.

Yn dilyn y rhaglen nyrsio gyffredinol hon, mae opsiynau i wneud hyfforddiant ychwanegol mewn maes penodol er enghraifft, iechyd meddwl. O ganlyniad i’r llwybr llai arbenigol hwn, mae llai o rolau nyrsio arbenigol ar gael yn Awstralia. Roedd yr holl therapyddion nyrsio y cyfarfûm â hwy ar leoliad wedi gwneud eu hyfforddiant arbenigol yn y DU ac yn defnyddio’r cymhwyster hwn mewn rôl eithaf unigryw yn system gofal iechyd Awstralia.

Teimlaf fod yr hyfforddiant arbenigol a gawn o ddechrau’r graddau nyrsio yn y DU yn ein paratoi yn dda ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd inni symud i rolau mwy arbenigol. Byddai’n ddiddorol cael gwybod a yw/sut mae’r gwahaniaethau sylweddol hyn mewn llwybrau hyfforddi yn effeithio ar ganlyniadau triniaeth a boddhad staff a chleifion.

Rwyf wedi cael llawer iawn o fudd o gwblhau un o fy lleoliadau nyrsio yn Awstralia. Mae’r bartneriaeth gydweithredol ryngwladol y mae’r cyfle hwn wedi’i chreu yn ddiamau yn amhrisiadwy. Byddwn wrth fy modd pe bai’r profiad hwn yn cael ei gynnig i fyfyrwyr nyrsio’r dyfodol ac i’r berthynas gydweithredol hon barhau i dyfu. Mae ganddo botensial cyffrous i lywio a gwella ymarfer nyrsio yng Nghymru ac Awstralia.