Y ffoadur o Syria sy’n helpu busnesau Cymru i ffynnu ar-lein
23 Gorffennaf 2021Mae Naser Sakka (MSc 2019) yn ddyn teulu gwydn a gyrhaeddodd y DU yn 2015 fel ffoadur o Syria yn dilyn y rhyfel yno. Syrthiodd mewn cariad â Chymru ac, ar ôl iddo gwblhau cwrs a grëwyd ar gyfer ffoaduriaid ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth yn ei flaen i ennill meistr a dechrau menter gymdeithasol sydd wedi helpu busnesau lleol, yn enwedig yn ystod y pandemig.
Nid dewis Naser Sakka oedd ymadael â Syria. Roedd ganddo fywyd braf yn ei famwlad, ond ers i’r rhyfel ddechrau, roedd ei fywyd, fel yr oedd yn ei adnabod, bellach wedi ei ddinistrio. Aeth ei deulu ati i ailgychwyn bywyd yng Nghymru a dywed Naser mai cymorth y bobl o’i amgylch oedd wedi eu helpu i oroesi a llwyddo.
“Cawson ni ein hanfon i ardaloedd gwahanol yn y DU pan gyrhaeddon ni fel ffoaduriaid, a fy nhynged i oedd glanio yng Nghymru. A dyna dynged hyfryd oedd hi! ”
Felly roedd Naser bellach yng Nghaerdydd, yn byw gyda theulu o Gymru am chwe mis ac yn aros i’w wraig a’i blant ymuno ag ef.
“Cefais fy anfon i Gaerdydd ac roedd yn hyfryd iawn. Mae’n agos at y môr ac roeddwn i wrth fy modd yn dod i adnabod y cestyll a dysgu am yr hanes. Ar ôl ychydig o wythnosau, cwrddais i â rhai pobl, siarad â nhw a darganfod bod hon yn ddinas amrywiol ei natur. Mae’r bobl yn garedig ac yn groesawgar. Rwy mewn cysylltiad o hyd â’r teulu roeddwn i’n byw gyda nhw pan gyrhaeddais i, ac rydyn ni’n ymweld â’n gilydd pan fydd hynny’n bosibl. ”
Teimlai Naser yr angen i fod yn rhagweithiol ac i gymryd rhan yn y gymuned gymaint ag y gallai.
“Gwirfoddolais i â dau sefydliad, sef Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’r Clwb Rotari. Mae gan y Cyngor Ffoaduriaid lawer o gyrsiau, ac mae rhai ohonyn nhw yn cael eu cynnal mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd. Rwy wedi mynychu rhai o’r rhain a dyna sut y des i i wybod am y cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd – Gwireddu’ch Potensial ym myd Busnes. “
Cwrs oedd Gwireddu’ch Potensial ym myd Busnes a lansiwyd yn 2016 mewn cydweithrediad â Chyngor Ffoaduriaid Cymru a myfyrwyr Enactus, a addysgwyd gan yr Athro Tim Edwards. Mae’n cael ei addysgu i bobl cyn iddyn nhw fynd i’r brifysgol a’i nod yw creu lle i ffoaduriaid integreiddio a rhoi cyfleoedd iddyn nhw. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr Enactus, timau o fyfyrwyr entrepreneuraidd sy’n creu ac yn cyfrannu at brosiectau cymunedol i rymuso’r rheiny mewn angen, ac maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd ar gyflwyno cynnig ar gyfer busnes.
Dyma a ddywedodd Tim: “Mae’n lle braf iawn i geisio datblygu eich dealltwriaeth. O ran y myfyrwyr, maen nhw’n dechrau deall profiad ffoaduriaid, ac mae’r ffoaduriaid yn gweithio gyda’r myfyrwyr mewn cyd-destun sy’n fwrlwm o egni. Maen nhw’n darganfod sut i greu rhwydwaith.”
“Mae Naser wedi bod yn hynod entrepreneuraidd, llwyddodd yn dda iawn ar y modiwl ac roedd yn cyfrannu’n mewn ffordd ymrwymedig iawn. Sylwodd yr Athro Martin Kitchener o Ysgol Busnes Caerdydd (PhD 1996) ar hyn, gan benderfynu noddi meistr Naser,” eglura Tim.
“Gwnes i’r cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd ac roeddwn i wrth fy modd,” meddai Naser. “Gwnes i gwrdd â myfyrwyr Enactus a chymerais i ran mewn nifer o brosiectau anhygoel gyda nhw. Roeddwn i mor hapus i weithio gyda nhw ac roeddwn i’n gwybod y byddwn i wrth fy modd yn parhau a gwneud gradd mewn busnes. “
Er mwyn ennill ei radd meistr, cwblhaodd Naser hefyd Lwybr gydag Addysg Barhaus a Phroffesiynol a alluogodd i ymgeisio am radd ôl-raddedig yn Ysgol Busnes Caerdydd.
“Pan rydych chi’n rhywun sydd newydd gyrraedd, dyw pethau ddim yn hawdd. Does gennych chi ddim hyder oherwydd nad ydych chi’n gwybod ble y gallwch chi wneud busnes na chwaith sut i wneud rhai pethau. Mae’r cyrsiau hyn yn rhoi’r hyder ichi gychwyn busnes, ymgeisio am swyddi neu astudio rhagor. “
Tra ei fod yn astudio ar gyfer ei feistr, lluniodd Naser syniad gwych ar gyfer busnes, un a allai helpu busnesau lleol i ffynnu.
“Pan roeddwn i’n gwneud fy MA, bydden ni’n gwneud gweithgareddau a thaflu syniadau, ac yng nghanol y cwrs cefais i’r syniad hwn. Gwelais i’r ffordd yr oedd pobl yn gweithio, gan gwrdd â llawer o bobl nad oedden nhw’n defnyddio technoleg yn y ffordd orau. Roeddwn i’n meddwl y gallai fod o gymorth iddyn nhw gael rhywbeth fel Townmart. ”
“Y syniad y tu ôl i Townmart yw rhoi’r cyfle i fusnesau lleol gael presenoldeb ar-lein, megis gwefan, siop ar-lein, neu system archebu. Rydyn ni’n helpu i sefydlu’r pethau hyn. Mae’n fforddiadwy iawn ac nid yw’r busnesau’n talu i sefydlu eu cyfrif na’u gwefan, gan ein bod ni’n rhoi blwyddyn iddyn nhw yn rhad ac am ddim. ”
Yn ystod y pandemig, sylwodd Naser ar y ffaith bod pobl yn ei chael yn anodd cadw eu busnesau oherwydd nad oedd ganddyn nhw bresenoldeb ar-lein, ac yna dechreuodd weithio gyda busnesau ym Mhenarth i’w helpu i greu un.
“Rydw i wrth fy modd yn cyfrannu at y gymuned oherwydd fy mod i wir yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth rwy i wedi ei derbyn yma, yn enwedig pan gollon ni ein bywydau yn Syria. Roedd yn rhaid inni ailgychwyn, a heb gefnogaeth pobl fyddwn i ddim wedi cyrraedd y pwynt hwn. Mae llawer o’r cyrsiau wedi bod yn rhad ac am ddim a grant oedd yn talu am y rhan fwyaf o fy MA. Roeddwn i’n arfer gwirfoddoli’n amser llawn er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl! ”
Gweledigaeth Naser ar gyfer Townmart yw cynnig eu gwasanaethau i bob busnes lleol yn y DU yn y pen draw.
“Rydw i mewn cysylltiad â Chyngor Ffoaduriaid Cymru a llawer o sefydliadau eraill i wthio hyn yn ei flaen ac mae yna lawer o bobl y mae angen y gefnogaeth hon arnyn nhw, ond dydyn nhw ddim yn gwybod amdanon ni eto!”
Mae Naser wedi dysgu llawer yn sgîl y profiad hwn ac mae wedi cadw mewn cysylltiad â’r Athro Tim Edwards yn ogystal â gwneud cysylltiadau eraill drwy gydol yr amser.
“Fy nghyngor i bobl eraill sy’n cyrraedd y DU yw bod yn rhagweithiol. Ewch i sefydliad fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru a chymerwch ran yn yr hyn sy’n digwydd. Mae yna lawer o sefydliadau a fydd yn helpu o ran eich astudiaethau. Peidiwch â bod yn swil, a pheidiwch ag aros. Pan fydd pobl yn cyrraedd, maen nhw’n teimlo ychydig bach yn ofnus, ac maen nhw’n poeni na fydd y gymuned yn eu derbyn. Fy nghyngor i yw gadael i’r bobl ddod i’ch adnabod. Pan fyddan nhw’n dod i’ch adnabod ac rydych chi’n dod yn wyneb cyfarwydd, maen nhw’n bobl neis iawn mewn gwirionedd. Dyma beth rydw i wedi ei wneud. Gwirfoddolais i a gwnes i rywfaint o waith anhygoel gyda’r sefydliadau hyn. ”
Mae menter gymdeithasol Naser, Townmart, bellach ar ben y ffordd ac ar waith. Mae’r Athro Tim Edwards yn gobeithio ailgychwyn y cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnig y cyfle nid yn unig i gymuned y ffoaduriaid ond hefyd i’r gymuned ddigartref, a hynny pan fydd y cyfyngiadau wedi llacio.
- Ebrill 2024
- Mawrth 2024
- Chwefror 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Tachwedd 2023
- Hydref 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffennaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Tachwedd 2022
- Hydref 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffennaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Mawrth 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Rhagfyr 2021
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffennaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffennaf 2020
- Mehefin 2020
- Mai 2020
- Ebrill 2020
- Mawrth 2020
- Ionawr 2020
- Rhagfyr 2019
- Tachwedd 2019
- Hydref 2019
- Medi 2019
- Awst 2019
- Gorffennaf 2019
- Mai 2019
- Ebrill 2019
- Mawrth 2019
- Chwefror 2019
- Ionawr 2019
- Rhagfyr 2018
- Tachwedd 2018
- Hydref 2018
- Medi 2018
- Awst 2018
- Gorffennaf 2018
- Mehefin 2018
- Mai 2018