Skip to main content

Rhagfyr 14, 2020

Dewch i gwrdd â’r ymchwilydd – yr Athro Anne Rosser

Dewch i gwrdd â’r ymchwilydd – yr Athro Anne Rosser

Postiwyd ar 14 Rhagfyr 2020 gan Kate Morgan (BA 2017)

Mae clefyd Huntington yn un dinistriol, a achosir gan enyn diffygiol sy'n atal yr ymennydd rhag gweithio'n iawn, gan effeithio ar symudedd, dysgu, meddwl ac emosiynau. Mae'r symptomau'n gwaethygu dros amser ac ar hyn o bryd nid oes modd gwella’r clefyd. Mae'n gyflwr etifeddol ac mae ganddo siawns o tua 50% y caiff ei basio i lawr gan riant. Fe wnaethom siarad â'r ymchwilydd Anne Rosser, Athro Niwrowyddoniaeth Glinigol, Adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.