Skip to main content

Cyswllt CaerdyddNewyddion

Cefnogi myfyrwyr a datblygu sgiliau ymchwil

26 Tachwedd 2018

Mae Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedigion Caerdydd (CUROP) yn caniatáu i fyfyrwyr Caerdydd ‘rhoi blas ar’ ymchwil cyn ymrwymo i ddilyn gradd Meistr, Doethuriaeth neu yrfa yn y byd academaidd. Drwy leoliad haf, bydd myfyrwyr CUROP yn medru cyfrannu at ymchwil go iawn ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ennill profiad gwerthfawr ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfa yn y byd academaidd.

Mae’r cymorth gan roddwyr Caerdydd yn sicrhau nad yw amgylchiadau ariannol yn rhwystr i fyfyrwyr; mae’r holl leoliadau wedi’u talu’n llawn gan gymorth dyngarol hael. Mae ariannu’r lleoliadau hyn yn caniatáu i fwy o fyfyrwyr gael mynediad at y rhaglen; gyda thros 500 o fyfyrwyr wedi mynd ar leoliad ers lansio’r rhaglen yn 2008. Dyma rai o’u straeon:

Bu Mateusz Wielebinski (Geography (Human) 2016 -) yn gweithio ar y prosiect sydd â’r teitl ardderchog ‘Mae angen cymdogion da ar bawb,’ sy’n archwilio’r cysylltiadau rhwng cymdogion drwy’r system gynllunio. Mae’n ystyried gwaith ymchwil yn ganolog i lwybr ei yrfa, a disgrifiodd ei leoliad fel “lle perffaith i mi roi ymchwil ar brawf.” Roedd Mateusz o’r farn bod y lleoliad wedi ei helpu gyda’i ddewisiadau o ran gyrfa yn y dyfodol, yn ogystal â’i helpu wrth ysgrifennu ei aseiniadau a “gwneud i mi gofio’r profiad cyfan ym Mhrifysgol Caerdydd fel rhywbeth i’w drysori yn gyffredinol.”

Cymerodd Lauren Smith (Psychology 2015 -) ran mewn prosiect ynghylch sut mae plant ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistiaeth yn rhyngweithio ag Amgylcheddau Aml-Synhwyraidd. Rhoddodd y prosiect sgiliau hanfodol iddi a chipolwg ar ddilyn gyrfa fel Seicolegydd Addysgol. “Y profiad dysgu allweddol i mi oedd deall sut i godio data ansoddol” meddai Lauren. “Dyma elfen ar y dulliau ymchwil nad yw’n cael llawer o sylw ar fy nghwrs.” O ganlyniad i’w lleoliad, a chyfarfod â’i goruchwyliwr a myfyriwr PhD, mae hi’n chwilio am rolau addysgu i gael y profiad sydd ei angen arni i wneud cais ar gyfer gradd PhD.

Ehangodd y prosiect orwelion Flory Dao (Thu) (Architecture 2017 -). Gweithiodd ar adolygiad o’r fenter Porth Cymunedol, sef partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a’r gymuned leol: “Cafodd effaith fawr arnaf. Cefais flas o’r hyn yw gwaith cymunedol go iawn. A minnau’n fyfyriwr pensaernïaeth, gwnaeth i mi sylweddoli nad graddau da yn unig sy’n bwysig – gall cyfrannu at y gymdogaeth o’ch cwmpas fod mor werth chweil â chael gradd dda.”

Mae cymorth gan roddwyr Caerdydd yn hanfodol i sicrhau bod y lleoliadau hyn, sy’n cynnig y cyfle i fyfyrwyr gael blas ar eu gyrfaoedd yn y dyfodol mewn ymchwil mewn amgylchedd diogel a byw, yn parhau’n lleoliadau a delir. Mae hynny’n sicrhau bod pawb yn gyfartal ac mae’n cael gwared ar un o’r rhwystrau mwyaf rhag ymgymryd â lleoliad ymchwil, a bydd yn sicrhau bod Prifysgol Caerdydd yn parhau i gynhyrchu ymchwilwyr gwych.

Gallwch gefnogi mentrau megis CUROP drwy roi i Brifysgol Caerdydd heddiw; a nodwch eich bod yn dymuno i’ch rhodd fynd tuag at gefnogi myfyrwyr