Postiwyd ar 7 Gorffennaf 2020 gan Peter Rawlinson
Mae cynfyfyriwr o Ysgol Busnes Caerdydd, Orral Nadjari (MBA, 2008), eisiau adeiladu ffatri werdd enfawr sy’n cynhyrchu batris cyntaf a mwyaf y DU ym Mro Morgannwg Yma, mae Prif Swyddog Gweithredol a sefydlydd Britishvolt yn dweud wrth blog y Cartref Arloesedd pam ei fod o’r farn bod her COVID-19 ar hyn o bryd yn cynnig mwy o gyfleoedd yn y dyfodol i gerbydau a bwerir gan fatris. Dechreuodd taith Mr. Nadjari tuag at lwyddiant ym Mhrifysgol Caerdydd. Cwblhaodd MBA yn Ysgol Busnes Caerdydd ar ôl astudio BSc mewn Astudiaethau Busnes a Japaneeg. “Mae fy ngyrfa’n seiliedig ar fy amser ym Mhrifysgol,” meddai Mr. Nadjari. “Cafodd ei ysgogi gan weledigaeth a dyheadau entrepreneuraidd, ac mae'n bleser gennyf eu gwireddu o'r diwedd gyda Britishvolt. Rwyf wrth fy modd â’r gobaith o ddychwelyd i adeiladu ffatri enfawr bwysig yn agos iawn at y lle y treuliais saith mlynedd orau fy mywyd." Mae Britishvolt yn gobeithio creu hyd at 4,000 […]