Dathlu sbarc | spark – buddsoddi mewn arloesedd
7 Gorffennaf 2020Mae canolfan ar gyfer cwmnïau newydd, cwmnïau deilliannol, busnesau myfyrwyr a mentrau cymdeithasol wedi cyrraedd ei phwynt adeiladu uchaf. Bydd sbarc | spark yn helpu pobl fentrus i gysylltu, cydweithio a chreu. Yma, mae Dr Nick Bourne o Brifysgol Caerdydd yn amlinellu sut gall yr hyb helpu i lywio gwaith adfer ar ôl COVID-19.
“Yn syml, bydd sbarc l spark yn rhoi syniadau ar waith. Mae’n fagnet ar gyfer mentrau masnachol a chymdeithasol yng Nghymru – man lle bydd y bobl iawn yn dod ynghyd i feithrin partneriaethau parhaol. Bydd ymchwilwyr academaidd, cyllidwyr, entrepreneuriaid a myfyrwyr yn profi syniadau ac yn datblygu datrysiadau gyda phartneriaid cyhoeddus, preifat ac o’r trydydd sector.
Mae maint y ganolfan, sydd ar hyn o bryd yn cael ei hadeiladu gan Bouygues UK, yn drawiadol – hwn fydd y cyfleuster mwyaf o’i fath yng Nghymru – gan ddarparu 12,000m2 o ofod ar draws chwe llawr, gyda phopeth o labordai, mannau creadigol ysbrydoledig a mannau trafod hyd at swyddfeydd, cyfleusterau arlwyo ac awditoriwm o fath TEDx. Mae wedi cael ei lunio gan benseiri Hawkins\Brown er mwyn ein helpu i ddatgloi syniadau gwych a’u cyflwyno i’r byd go iawn.
Bydd corfforaethau, BBaChau a chwmnïau newydd myfyrwyr (un o asedau cryfaf Caerdydd) yn dod at ei gilydd yn sbarc l spark, sydd wedi’u lleoli ochr yn ochr ag 11 o ganolfannau ymchwil y gwyddorau cymdeithasol (SPARK) gyda chyfleoedd i ddatblygu a phrofi syniadau newydd.
Yr adeilad fydd ‘drws ffrynt’ y brifysgol ar gyfer busnes – llwybr uniongyrchol at gydweithio, gan gynnwys yr holl wasanaethau cymorth proffesiynol sydd eu hangen ar fentrau i ffynnu – o gyngor ar drwyddedu ac Eiddo Deallusol (IP) hyd at reoli prosiectau a Phartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth.
Rydym wedi bod yn gweithio gyda diwydiant am dros gan mlynedd, fel mae’r ffotograff hwn o’n harchifau’n ei ddangos. Fel un o’r 24 o brifysgolion ymchwil-ddwys Grŵp Russell gorau yn y DU, mae ein dylanwad yn mynd y tu hwnt i ddysgu, addysgu ac ymchwilio.
Mae Prifysgol Caerdydd yn cyfrannu £3.23 biliwn at economi’r DU, yng Nghymru yn bennaf, ac rydym yn cynhyrchu £6.30 am bob £1 rydym yn ei wario. Yn 2019, cawsom ein hincwm ymchwil uchaf erioed, sef ychydig dros £116 miliwn.
Ers 2008, rydym yn yr 8fed safle ymhlith prifysgolion y DU ar gyfer rhyngweithio â BBaChau. Ac rydym ar y brig yng Nghymru ar amrywiaeth o fesurau gan gynnwys incwm gan fasnacheiddio IP, trosiant busnesau newydd graddedigion, incwm gan ymchwil contract, Datblygiad Proffesiynol Parhaus, cyfleusterau ac ymgynghoriaeth.
Pan fydd yn agor yn swyddogol yn 2022, bydd sbarc | spark yn ein helpu i wneud mwy. Wrth i ni barhau i ystyried partneriaid a phrosiectau ar gyfer y dyfodol, mae nawr yn amser da i ddysgu mwy am weithio gyda ni.
Byddwn yn cynnal sesiwn gweminar un awr o hyd am 11am ar 15 Gorffennaf, lle byddwn yn rhannu profiadau o arloesedd a chwmnïau newydd llwyddiannus. Bydd Dr Rhian Hayward MBE yn ymuno â mi, Prif Weithredwr Campws Arloesedd a Menter Prifysgol Aberystwyth; Stuart Gall, Prif Weithredwr Grŵp Intelligent Ultrasound, a ddechreuodd fel un o gwmnïau deilliannol Prifysgol Caerdydd, a’r Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr SBARC, a fydd yn siarad am SBARC a sut y gall ymchwil y gwyddorau cymdeithasol drawsnewid i bolisïau a phrosesau arloesol.
Gallwch gofrestru drwy glicio yma.
Mae Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda phawb, o gwmnïau newydd hyd at BBaChau a chorfforaethau mawr.
Dewch i ymuno â ni.
Dr Nick Bourne, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Datblygu Masnachol, Prifysgol Caerdydd