Skip to main content

Sefydliad Arloesi Sero NetSefydliadau Arloesedd ac Ymchwil y BrifysgolSero Net

Ôl-osod cartrefi i greu dyfodol sero net

27 Chwefror 2024

Mae ôl-osod cartrefi’r DU gan ddefnyddio technolegau sy’n effeithlon o ran ynni ac insiwleiddio yn gam hollbwysig tuag at ffrwyno allyriadau carbon a meithrin dyfodol cynaliadwy. Yn y blog hwn, mae Dr Shan Shan Hou a’r Athro Joanne Patterson o Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn trafod eu gwaith hanfodol yn y maes hwn.

Yn ôl yr adroddiad ‘UK housing:  Fit for the future?’ a gyhoeddwyd gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd yn 2019, roedd 29 miliwn o gartrefi yn y DU yn cyfrannu 14% o allyriadau carbon. Bydd pobl yn dal i fyw yn 90% o’r cartrefi hyn yn 2050.

Mae allyriadau carbon yn digwydd ym mhob cam o gylch bywyd cartref, bod yn gynhyrchu deunyddiau a chyfarpar, adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw, a dymchwel. Felly, mae’n bwysig lleihau’r allyriadau carbon o gartrefi presennol er mwyn cyrraedd targed sero net yn 2050. Ar wahân i allyriadau carbon, mae materion eraill yn gysylltiedig â stoc tai sy’n heneiddio gan gynnwys biliau ynni uchel a thlodi tanwydd pan fydd aelwyd yn gwario mwy na 10% o’i hincwm yn gwresogi eu cartref, yn ogystal ag amodau byw gwael megis lleithder a llwydni. Mae llwydni du mewn tai yn peri risgiau iechyd difrifol gan ei fod yn rhyddhau mycotocsinau a all arwain at broblemau anadlol, alergeddau a phroblemau iechyd eraill, a hwyrach y bydd goblygiadau dinistriol i deuluoedd os na chânt eu trin. Ni allwn fentro ailadrodd y drasiedi a ddigwyddodd yn 2020 pan fu farw bachgen dwyflwydd oed o ganlyniad i gyflwr anadlol difrifol a achoswyd ar ôl bod mewn cysylltiad â llwydni du am gyfnod hir yn ei gartref.

Ffigur 1: Prosiectau ôl-osod gan y Ganolfan Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru

Yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf, mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel, dan arweiniad yr Athro Joanne Patterson yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, wedi cydweithio ag awdurdodau lleol a chwmnïau tai cymdeithasol i gyflawni mwy na 30 o brosiectau ôl-osod sy’n seiliedig ar systemau ynni tŷ cyfan yn llwyddiannus yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar liniaru newid yn yr hinsawdd, darparu amgylchedd adeiledig o safon a lleihau effeithiau iechyd. Dewiswyd cartrefi o fathau ac oedran gwahanol i brofi perfformiad technolegau perthnasol. Ymhlith yr enghreifftiau o brosiectau ôl-osod mae chwe byngalo a adeiladwyd yn yr 1970au yn Abertawe (mewn cydweithrediad â Chyngor Abertawe), tri thŷ yng Nghastell-nedd Port Talbot (mewn cydweithrediad â Chyngor Castell-nedd Port Talbot), cartref arddangos yn Rhiw Cae Mawr (mewn cydweithrediad â Tai Wales and West), a’r prosiect Cartref Syniadau a gwblhawyd yn ddiweddar yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr a drawsnewidiodd dŷ’r hen Brifathro yn lle addysgu carbon isel (Ffigur 1). Yn sgil pob prosiect ôl-osod, roedd y cartref yn fwy effeithlon o ran ynni gan leihau allyriadau carbon a biliau ynni o leiaf 70-80%. Ar yr un pryd, roedd y cyfweliadau ôl-feddiannaeth a’r data a gafodd ei fonitro yn awgrymu bod yr amodau byw yn y cartrefi hyn wedi gwella’n sylweddol, boed yn ystafelloedd cynhesach yn y gaeaf, dileu llwydni a oedd yn tyfu neu well ansawdd yr aer.

Datblygwyd dull a ystyriwyd yn ofalus i gyfuno cyflenwad ynni adnewyddadwy, storio ynni a thechnolegau lleihau’r galw am ynni i greu amgylchedd adeiledig carbon isel y gellir ei ailadrodd, sy’n fforddiadwy ac yn briodol i’r cyd-destun. Mae’r dull hwn yn cynnwys pum cam, gan gynnwys cynllunio, dylunio, caffael, adeiladu, a chynnal a chadw a gweithredu (Ffigur 2).

Ffigur 2: Pum cam yn y dull gweithredu sy’n seiliedig ar systemau ynni tŷ cyfan

Cynllunio – cesglir gwybodaeth am y ffabrig yr adeilad, y gwasanaethau, y cysurdeb dan do, y cyflwr, sut mae trigolion yn gweithredu eu tai, yn ogystal ag amodau thermol ac ynni presennol drwy ddefnyddio offer arolygu a monitro.

Dylunio – caiff ystod o strategaethau ôl-osod priodol eu nodi a’u modelu i gymharu gostyngiadau allyriadau, arbedion biliau ynni a gostyngiadau ynni cyffredinol. Nodir y pecyn technolegau mwyaf addas gan ystyried a yw’n fforddiadwy, y gellir ei ailgynhyrchu a’i fod yn ddidrafferth o ran ei gynnal a’i gadw.

Caffael – datblygir dogfennau tendro manwl sy’n adlewyrchu’r safonau perfformiad a ddymunir ac ansawdd pob technoleg, yn ogystal â’r broses o werthuso’r technolegau mwyaf addas i wneud yn siŵr bod contractwyr cymwys yn rhan o’r gwaith o gyflwyno’r prosiect.

Gosod – pwysleisir cyfathrebu da rhwng rheolwr y prosiect, y contractwyr a’r trigolion, a hynny i wneud yn siŵr bod pob contractwr yn deall cwmpas cyffredinol y prosiect ac yn datblygu amserlen waith gan roi ar waith y dilyniant gosod mwyaf addas ar y safle. Mae’n ofynnol i bob system gael ei chomisiynu yn unol â’r dyluniad.

Cynnal a chadw a gweithredu – mae’r holl ddogfennau gwarant gosod a’r enwau cyswllt, yn ogystal â thaflen syml i helpu trigolion i ddeall sut i weithredu eu tai yn cael eu rhoi i’r trigolion. Mae’r cyflwr thermol ac ynni ôl-osod yn cael ei fonitro i wneud yn siŵr bod yr holl systemau’n gweithio’n unol â’r cynllun. Ystyrir cynnal a chadw at ddibenion lleihau costau i’r perchnogion.

Mae ystod eang o randdeiliaid yn ymwneud â’r prosiect ôl-osod ynni tŷ cyfan sy’n anelu at gyrraedd targedau sy’n agos at dargedau sero net, gan gynnwys y llywodraeth, awdurdodau lleol a chwmnïau tai cymdeithasol cofrestredig, gwneuthurwyr, gosodwyr, yswirwyr, dylunwyr, ymchwilwyr, a thrigolion. Yn sgil ein hymchwil, cydnabuwyd mai’r hyn sy’n allweddol i ôl-osod llwyddiannus yw cyfathrebu effeithiol â’r holl randdeiliaid drwy bob cam o’r broses er mwyn gallu mynd i’r afael â phryderon, ac ateb cwestiynau. Mae gwella ein stoc tai presennol yn hollbwysig ar gyfer dyfodol sero net. Bydd y manteision ychwanegol gan gynnwys gwell iechyd ac ansawdd bywyd yn ogystal â biliau ynni is a gostyngiad yn y defnydd o danwydd ffosil ond yn annog y newid sylweddol sydd ei angen ar gyfer cynnydd cyflymach yn y dyfodol.

Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gennym ddull amlddisgyblaethol sef cydweithio rhwng y gwyddorau cymdeithasol, y gwyddorau ffisegol, peirianneg a phensaernïaeth. Mae’r Sefydliad Arloesi Sero Net ymhlith y pum Sefydliad Arloesi ac Ymchwil mewn prifysgol a lansiwyd ym mis Mawrth 2023 yn y Sefydliad Brenhinol. Nod y sefydliad yw cyflwyno technoleg nad oes gennym hyd yn hyn ond sy’n ymgysylltu â’r gymdeithas, byd diwydiant a’r llywodraeth.