Skip to main content

PartneriaethauPobl

Rhaid i’r byd ar ôl y pandemig fod yn fwy teg ac yn fwy cynaliadwy

3 Gorffennaf 2020

Mae COVID-19 wedi tanio gobeithion ac ofnau ar gyfer y byd ar ôl y pandemig. Gobeithion bod byd newydd yn bosibl; ofnau y bydd yr hen fyd yn ailgodi, er y bydd ynddo fwy o ddyled, diweithdra uwch a mwy o anghydraddoldeb. Yma, mae Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yn trafod sut y gallai ymagwedd radical newydd at economi’n seiliedig ar leoedd gyfrannu at ein hadferiad ar ôl y pandemig.   

Fel yr ysgrifennodd yr awdur Arundhati Roy yn ddiweddar: “Yn hanesyddol, mae pandemig wedi gorfodi pobl i dorri cysylltiad â’r gorffennol a dychmygu eu byd o’r newydd. Dyw hwn yn ddim gwahanol. Mae’n borth, yn ddrws rhwng un byd a’r nesaf.”  

Yn y DU, dywed Boris Johnson mai dyma’r amser i fod yn “uchelgeisiol” am ddyfodol y DU. Fel arweinwyr cenedlaethol eraill, mae’r Prif Weinidog yn dibynnu ar ysgogiad ariannol i ailgychwyn yr economi, “bargen newydd” werth £5bn i adeiladu cartrefi a seilwaith. 

Ond mae’n cymryd mwy nag arian parod ac ewyllys da i ail-ddychmygu’r byd. Mae angen cysyniadau newydd, fframiau newydd a gwerthoedd newydd. Daw’r tri gofyniad hyn at ei gilydd yng nghysyniad yr Economi Sylfaenol, ymagwedd radical newydd at ddatblygu’n seiliedig ar leoedd. 

Cyn i’r pandemig daro roedd llawer o wledydd yr OECD yn trafod y “polisi diwydiannol newydd” gyda’i ymagwedd at bolisi arloesi yn canolbwyntio ar genhadaeth, ac agwedd fwy ymgyrchol at ymyrraeth y wladwriaeth yn yr economi. Ond y broblem fwyaf yn y drafodaeth ar y polisi diwydiannol newydd yw nad yw’n ateb cwestiynau am ffawd y mwyafrif llethol o bobl a lleoedd nad ydynt yn rhan o fyd cul polisi arloesi sy’n canolbwyntio ar genhadaeth. 

Dyma’r gofod ble mae’r cysyniad o Economi Sylfaenol yn gwneud ei gyfraniad pwysicaf oherwydd, yn hytrach nag allgau’n gymdeithasol ac yn ofodol, mae yma rywbeth i’w gynnig i bawb ym mhob man, yn yr ystyr mai’r Economi Sylfaenol yw seilwaith bywyd bob dydd. 

Mae’r Economi Sylfaenol yn cyfeirio at ofynion sylfaenol bywyd gwâr i bob dinesydd beth bynnag eu hincwm a’u lleoliad. Mae’n cynnwys seilwaith materol – pibelli a cheblau a systemau dosbarthu gwasanaethau dŵr, trydan, bancio manwerthol – a gwasanaethau ffafriol – addysg, iechyd, darparu bwyd, gofal henoed gydag urddas a chynnal incwm. 

Mae dulliau confensiynol o ddamcaniaethu a mesur yr economi yn gwneud yr Economi Sylfaenol yn anweledig ac yn anwybyddu ei chyfraniad i ddatblygu. Mae’r meddylfryd uniongred yn canolbwyntio ar gyfraniad diwydiannau technoleg uchel gydag eiddo’n arwain yr adferiad i hybu cynnydd domestig gros. Ond nid yw twf mewn cynnyrch domestig gros yn trosi’n welliannau mewn safonau byw i lawer o gartrefi ac mae’n cynnig mynegai cul a dysychedig o gynnydd yn unig. 

Mae deall yr Economi Sylfaenol yn hanfodol wrth feddwl am fathau mwy cynhwysol o ddatblygu, am ei bod yn hanfodol o ran lles i’r rheini sydd â mynediad cyfyngedig at ddarpariaeth breifat; mae’n sail i gymeriant cartrefi; ac mae’n gyflogwr mawr mewn sectorau fel dŵr, ynni a gofal yr henoed, sydd yn nodweddiadol yn cael eu cysgodi rhag cystadleuaeth. Gyda rhai eithriadau, anaml y bydd trafodaethau cyfredol am strategaeth ddiwydiannol mewn gwledydd OECD yn crybwyll yr Economi Sylfaenol, er gwaetha’r ffaith fod cyflenwi’r gwasanaethau hyn yn hanfodol i godi safonau byw a llesiant cymdeithasol. 

Ond ni ddylid ystyried yr Economi Sylfaenol yn bolisi lles cymdeithasol yn unig. Ymhell o fod yn ferddwr technolegol, mae’r Economi Sylfaenol yn cynnwys sectorau sy’n defnyddio technoleg flaengar yn frwd. 

Mewn geiriau eraill, pan fyddwn ni’n gwerthfawrogi cysylltiadau rhyng-sectoraidd a goferiadau gwybodaeth, byddwn yn dechrau gweld y rhyng-ddibyniaeth ddynamig rhwng sectorau sy’n cynhyrchu technoleg, ac sy’n rheoli cysyniadau confensiynol o arloesi, a’r sectorau sy’n defnyddio technoleg yn yr Economi Sylfaenol, lle gellid dadlau bod arloesi cymdeithasol yn bwysicach nag arloesi technolegol. “Drwy feddwl am hanes y defnydd o dechnoleg”, dywed David Edgerton, “mae darlun o dechnoleg, ac yn wir o ddyfeisio ac arloesi sy’n radicalaidd wahanol yn bosibl.” 

Ceir cysylltiadau rhwng yr Economi Sylfaenol a chysyniadau newydd eraill am ddatblygu, gyda’r cyfan yn canolbwyntio’n bennaf ar yr hyn y gallem ei alw’n Economi Llesiant. Er enghraifft mae’r AS Llafur Prydain Rachel Reeves wedi ysgrifennu am yr Economi Bob Dydd; mae ymchwilwyr yng Ngholeg y Brifysgol Llundain yn galw am Wasanaethau Sylfaenol Cynhwysol; mae melinau trafod cymdeithas sifil yn y DU a’r UD wedi hyrwyddo Adeiladu Cyfoeth Cymunedol; ac mae’r ymchwilydd yn yr LSE Ian Gough yn galw gydag argyhoeddiad ar i foddhau anghenion dynol gael ei ystyried fel yr unig gwir fesur ar gyfer trafod y cyfaddawdu rhwng newid yn yr hinsawdd, cyfalafiaeth a llesiant dynol. 

Gan droi at bolisi ac ymarfer, Cymru oedd y genedl gyntaf yn y byd i gofleidio’r Economi Sylfaenol yn ffurfiol fel rhan o’i repertoire ar gyfer datblygu’n seiliedig ar leoedd. I brofi’r cysyniad, yn ddiweddar lansiodd Llywodraeth Cymru Gronfa Her yr Economi Sylfaenol i wahodd cynigion datblygu o bob rhan o’r wlad.  

Un o nodweddion penodol yr her oedd bod y cysyniad o “ddatblygu” yn agored – i’w ddiffinio gan y lleoedd eu hunain. Ond llywiwyd yr holl gynigion llwyddiannus gan werthoedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru, arloesedd cymdeithasol sydd wedi denu canmoliaeth eang ac sy’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo datblygu cynaliadwy. 

I hyrwyddo ei hagenda datblygu cynaliadwy, mae Cymru wedi ymuno â’r gynghrair Llywodraethau Economi Llesiant (WEGo) gyda’r Alban, Gwlad yr Iâ a Seland Newydd. Sail resymegol y gynghrair hon o wledydd bach yw rhoi Nodau Datblygu Cynaliadwy y CU ar waith a hyrwyddo’r syniad y dylid diffinio llwyddiant yn ôl ansawdd bywyd y dinasyddion yn hytrach na chyfradd twf cynnyrch domestig gros y wlad. 

Felly os bu amser erioed i’r Economi Sylfaenol a’i hagenda llesiant symud o’r ymylon i’r brif ffrwd, dyma’r amser hwnnw. 

Mae COVID-19 wedi arwain at gymaint o ddinistr cymdeithasol ac economaidd fel y tybir yn eang na allwn ddychwelyd at ein ffyrdd o weithio a byw cyn y pandemig. Ond rhybudd i chi: dywedwyd union yr un peth ar ôl argyfwng ariannol 2008, ond i’r gorffennol neo-ryddfrydol ei godi ei hun yn ôl yn rymus drwy flynyddoedd poenus llymder. 

Yr hyn sy’n fwyaf nodedig am yr argyfwng hwn fodd bynnag yw bod pob gwlad yn ymwybodol o’r hyn y gallem ei alw’n Ddatgysylltiad Cymdeithasol, lle mae’r rhestr o weithwyr allweddol – mewn iechyd, gofal cymdeithasol, addysg, darparu bwyd, trafnidiaeth ac ati – yn debyg iawn i’r rhestr o’r gweithwyr sy’n cael eu talu waethaf yn y gymdeithas. Mae’r datgysylltiad cymdeithasol yn datgelu paradocs cymdeithas lle mae’r gweithwyr sydd â’r statws isaf yn chwarae’r rhan bwysicaf i gadw cymdeithas yn ddiogel, yn saff ac yn wâr. 

Mewn geiriau eraill, mae’r pandemig yn dangos pwysigrwydd y sylfaenol, gan mai dyma’r rhan o’r economi na ellir ei chau. Ac mae’r rhestr o weithwyr allweddol ym mhob economi genedlaethol yn cynnig diffiniad synnwyr cyffredin ac ymarferol o’r hyn y gellir ei gyfrif yn sylfaenol. 

Er mwyn hyrwyddo’r Economi Sylfaenol mewn byd ar ôl y pandemig, rhaid wrth broses o arloesi cymdeithasol ar gyfer adnewyddu sylfaenol gyda dwy elfen hanfodol: dinasyddion a defnyddwyr sy’n parhau i ystyried a gwerthfawrogi gweithgaredd sydd â gwerth cymdeithasol; ac awdurdodau cenedlaethol ac uwch-genedlaethol yn cydweithio gyda dinasoedd a rhanbarthau mewn ysbryd o gyd-gynhyrchu yn hytrach na’r dull o’r brig i lawr a welwyd cyn y pandemig. 

Gan ddinasoedd, rhanbarthau a bwrdeistrefi y mae’r wybodaeth leol a’r agosrwydd at ddinasyddion lleol i’w galluogi i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus a strategaethau datblygu rhanbarthol ac mae angen meithrin a bwydo’r asedau sylfaenol hyn os yw’r pandemig am fod yn borth at well byd. 

Yr Athro Kevin Morgan  

Deon Ymgysylltu, Prifysgol Caerdydd 

(Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl hon yn Orkestra – Basque Institute of Competitiveness)