Skip to main content

PartneriaethauPobl

Symud o werthuso i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus

22 Gorffennaf 2020
Female Student Raising Hand To Ask Question In Classroom
Female Student Raising Hand To Ask Question In Classroom

Yn 2014, mewn adroddiad i Swyddfa Gabinet y DU, cyflwynodd Yr Athro Jonathan Shepherd gysyniad yr ecosystem dystiolaeth. Am y tro cyntaf, gwnaeth hyn integreiddio’r prosesau o gynhyrchu a chydblethu tystiolaeth, creu canllawiau o’r cydblethiad hyn, a gweithredu’r canllawiau hyn yn y gwasanaethau cyhoeddus. Yn y cyfnod ar ôl COVID pan mae coffrau a gwasanaethau cyhoeddus o dan fwy o straen nag erioed o’r blaen, mae’r sylfeini dibynadwy hyn o dystiolaeth a chamau diwygio cyflym yn hanfodol bwysig. Yma, saith mlynedd yn ddiweddarach, mae’n crynhoi ei adroddiad newydd ar iechyd yr ecosystem hon yn 2020.

“Mae ein diogelwch, iechyd, addysg a llawer mwy yn dibynnu ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau cyhoeddus. Heb ecosystem dystiolaeth sy’n cael ei chynnal yn gyson byddwn yn colli cyfleoedd i wella gwasanaethau a lleihau gwastraff, a bydd ymyriadau sy’n gwneud mwy o niwed nac o les yn parhau.

Mae effeithiau pandemig COVID-19 ar economïau cenedlaethol yn sylweddol. Yn y DU, mae Banc Lloegr yn rhagweld gostyngiad o 14%1 ac yn yr Unol Daleithiau, gan gymryd y bydd gweithgarwch economaidd yn ailddechrau yn haf neu hydref 2020, mae’r rhagolygon yn nodi y bydd rhwng 2.4% ac 8.7% o ddiffygion prosiect mewn GDP ar gyfer 2020 o’i gymharu â 2019.

Yn y cyd-destun hwn, mae defnyddio adnoddau cyhoeddus yn effeithlon yn bwysicach nag erioed. Fodd bynnag, yn ystod y pandemig, mae tystiolaeth wyddonol, cydblethiad y dystiolaeth hon, a chanllawiau gweinidogion y llywodraeth ac ymarferwyr yn seiliedig ar hyn wedi ennill eu plwyf fel sail gadarn ar gyfer penderfyniadau.

Mae’r cyhoedd a sefydliadau proffesiynol wedi craffu ar y broses hon yn barhaus, ac mae nid yn unig wedi goroesi ond mae llywodraethau cenedlaethol ac ymarferwyr rheng-flaen o’r farn ei bod yn hanfodol – er enghraifft mewn dosbarthiadau ysgol, y GIG, cartrefi gofal a lluoedd yr heddlu. Erbyn hyn, mae angen sicrhau bod y broses yn gadarn mewn cyd-destun gwasanaethau cyhoeddus.

Dros y degawd diwethaf, mae llawer mwy o dystiolaeth wedi cael ei chynhyrchu a’i chydblethu o “beth sy’n gweithio” a beth sy’n gost-effeithiol. Mae seilwaith i gefnogi, er enghraifft Rhwydwaith What Works newydd a hyfyw y DU, gyda’i ganolfannau What Works sy’n benodol i’r sector a’r Cyngor What Works Cydlynol, hefyd wedi’u hadeiladu.

Ond mae problemau wedi bod yn gysylltiedig â’r twf cyflym hwn. Mae llwyth o dystiolaeth heb ei rheoleiddio nad yw’n safonol ac adolygiadau tystiolaeth o gannoedd, miloedd efallai o grwpiau â diddordeb, cyrff proffesiynol a sefydliadau eraill wedi llethu’r maes creu polisïau. Nododd gweinidog y llywodraeth yn ddiweddar ei fod yn “boddi mewn tystiolaeth”, a dywedodd ymgynghorydd arbennig ei fod yn “eithaf sinigaidd ynghylch tystiolaeth a gyflwynir i mi gan fod gan bawb ‘dystiolaeth’ i gefnogi eu buddiannau eu hunain.”

Hyd yn oed yn y Rhwydwaith What Works, gyda’i brif egwyddorion pwysig, nododd cyfranogwr arweiniol “mae gan bob Canolfan safonau tystiolaeth gwahanol. Byddai’n afresymol disgwyl i lunwyr polisïau fynd i’r afael â’r holl dystiolaeth.”

Mae’n eithaf tebyg i flynyddoedd cynnar y chwyldro diwydiannol, pan achosodd cynnyrch newydd, hynny ydy hanfodion cyfnod newydd, gymhlethdod dyrys a dechreuodd atal y cynnydd. I helpu i ddatrys y broblem hon, gwnaeth Syr Joseph Whitworth edau sgriwiau a mesuriadau peiriannau yn safonol fel bod modd eu manwerthu a’u defnyddio yn yr un modd yn Lerpwl, Efrog Newydd a Madrid, gan wella effeithlonrwydd, arloesedd a chynhyrchiant yn sylweddol.

Mae argymhellion fy adolygiad 2020 am yr ecosystem dystiolaeth yn ceisio addasu’r wers hanesyddol hon i fodloni heriau cyfredol. Mae’r safonau rhyngwladol hanfodol eisoes yn bodoli. Mae angen eu defnyddio.

  • Dylid gosod safonau ar gyfer creu a chydblethu tystiolaeth a chreu canllawiau ar draws Rhwydwaith What Works a’u hymgorffori yn egwyddorion IMPACT y Rhwydwaith. Dylai safonau MHRA, CONSORT, Cochrane/Campbell, ac AGREE fod yn fan cychwyn mewn dull systemig i hyn.
  • Dylai sefydliadau sy’n cynnal adolygiadau systematig o dystiolaeth o effeithiolrwydd ymyrraeth a budd costau, drwy gael cydnabyddiaeth drwy broses achredu, allu dangos eu bod yn bodloni safonau adolygiadau Cochrane/Campbell.
  • Dylai rhaglen achrediad NICE ar gyfer cynhyrchwyr canllawiau gael ei hail-agor i ymgeiswyr newydd yn y sectorau iechyd a gofal a’i haddasu a’i hymestyn mewn canolfannau What Works eraill a’i hysbysebu’n helaeth yn y sectorau y maent yn gweithio ynddynt.
  • Dylai canolfannau What Works eraill ddefnyddio gwerthusiadau technoleg, fel y rhai a gynhaliwyd gan NICE, i asesu technolegau a ddatblygwyd yn eu sectorau, a dylid rhoi grym statudol i’r canfyddiadau, yn yr un modd â chanfyddiadau gwerthusiadau thechnoleg NICE yn y GIG.
  • Dylid addasu’r Fframwaith Asesu Ymchwil mewn addysg uwch i hwyluso asesiad effaith y Canolfannau What Works.
  • Dylid defnyddio dulliau i wella diogelwch mewn gofal iechyd i sicrhau bod tystiolaeth fanwl a’r canllawiau sy’n deillio ohoni’n hybu newid cyflym yn y sector cyhoeddus.
  • Er mwyn cynyddu ymatebion i ganllawiau ag awdurdod, dylai canolfannau What Works ddatblygu cysylltiadau ffurfiol gyda rheoleiddwyr gwasanaethau a chyrff proffesiynol yn eu sectorau.

Sylweddolodd Whitworth y byddai safoni yn trawsffurfio peirianneg. Mae modd trawsffurfio gwasanaethau cyhoeddus yn yr un modd os yw’r un ddisgyblaeth yn berthnasol i’r ecosystem dystiolaeth.

Yr Athro Jonathan Shepherd, Sefydliad Ymchwil Trosedd a Diogelwch, Prifysgol Caerdydd ShepherdJP@caerdydd.ac.uk