Skip to main content

PartneriaethauPobl

A ydych yn gyffrous am Spot-a-bee?

27 Gorffennaf 2020

Y tro nesaf y byddwch yn yr ardd, neu’n mynd â’r ci am dro, cadwch lygad am wenyn. Os byddwch yn cymryd llun ar eich ffôn o’r planhigion y maen nhw’n hedfan o’u cwmpas, ac yn eu rhannu ar Spot-a-bee, byddwch yn helpu gwyddonwyr wrth iddynt chwilio am wrthfiotigau newydd. Yma, mae’r Athro Les Baillie, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, yn esbonio sut y gall yr ap sbarduno arloesedd ym maes darganfod cyffuriau.

Athro Les Baillie

“Yn debyg i lwybr hedfan gwenan, mae lansio Spot-a-bee wedi bod yn daith droellog. Yn wreiddiol, dechreuodd ein gwaith #Pharmabees fel ymdrech i nodi cyfansoddion gwrthficrobaidd newydd a geir mewn mêl ac i weld a allwn eu defnyddio yn y frwydr yn erbyn archfygiau mewn ysbytai. Gwnaethom sgrinio fwy na 250 o samplau o fêl a gasglwyd fel rhan o arolwg cenedlaethol ar gyfer gweithgaredd yn erbyn archfygiau mewn ysbytai: yna gwnaethom nodi’r planhigion a oedd yn ffynhonnell y cyfansoddion gwrthficrobaidd yn y samplau unigol o fêl gan ddadansoddi’r paill a welwyd yn y mêl.

Y cam rhesymegol nesaf oedd dechrau tyfu’r planhigion peillio cywir mewn safleoedd ar draws Caerdydd fel rhan o ymdrech i gynhyrchu ein mêl gwrthficrobaidd ein hunain.

Er mwyn cyflawni’r nod hwn rydym wedi cyfuno’r planhigion gwrthfiotig sy’n denu gwenyn a nodwyd gan ein hymchwil gyda phlanhigion eraill sy’n denu peillwyr er mwyn datblygu hedyn blodyn gwyllt ‘uwch-gymysgedd’. Rydym wedi bod yn ei ddosbarthu yn rhad ac am ddim i ysgolion canol dinas, grwpiau cymunedol ac aelodau o’r cyhoedd ledled Caerdydd.

Yn ogystal â monitro twf y planhigion hyn, rydym yn gofyn i’r cyhoedd gofnodi’r peillwyr sy’n ymweld â nhw gan ddefnyddio ap newydd rydym wedi’i ddatblygu o’r enw Spot-a-bee – sy’n galluogi’r cyhoedd i fapio’r planhigion sy’n denu gwenyn yn eu hiardiau cefn, ym mharciau’r ddinas ac wrth ochr y ffordd.

Bydd casglu lluniau a gwybodaeth a anfonwyd i mewn gan y cyhoedd yn ein galluogi i ddilysu ein cymysgedd hadau blodau gwyllt a bydd yn cynhyrchu data sydd mawr eu hangen ar fioamrywiaeth y fflora a’r ffawna yng Nghaerdydd a thu hwnt wrth i ni geisio hyrwyddo bioamrywiaeth a datblygu gwrthfiotigau newydd.

Ers lansio’r ap – a oedd yn fenter ar y cyd â Dr Ria Dunkley o Ysgol Addysg Prifysgol Glasgow – mae mwy na 3,000 o bobl wedi lawrlwytho’r ap a mis Mai oedd brig y cyfnod cyflo – ac mae mwy na 4,000 o luniau o blanhigion a gwenyn a gymerwyd gan aelodau o’r cyhoeddi wedi cael eu lanlwytho i’r wefan. Rydym wedi cael pobl yn chwilio o ogledd yr Alban i Benzance yn ymuno â ni o gartref wrth iddynt gysylltu ag eraill sydd â diddordeb mewn gwenyn a natur o gwmpas y DU.

Ac er ein bod wedi cael tua 150 o gyflwyniadau gan Gaerdydd (fel mae’r cipluniau’n dangos), rydym wedi cael mwyn na 350 gan bobl o Fynwy – tref sydd ffracsiwn o’r maint.

Tra ei fod yn ddechreuad gwych, mae angen mwy o wybodaeth arnom yn enwedig gan bobl Caerdydd!

Mae’n amser gwych i gymryd rhan. Gallwch lawrlwytho’r ap Spot-a-bee o App Store Apple neu Google Play neu, os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy Twitter @ISpotABee, Instagram neu Facebook – ac ymunwch â ni gan chwilio am wrthfiotigau newydd mewn iardiau cefn!

Les Baillie, Athro Microbioleg, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol