Skip to main content

PartneriaethauPobl

Caerdydd yn cydweithio i wneud ‘miliwn o fasgiau y dydd’

29 Mai 2020
Pharmacist wears protective mask at work gives prescription medicine
Pharmacist wears protective mask at work gives prescription medicine

Y Brifysgol yn cydweithio â Hard Shell

Mae Prifysgol Caerdydd yn ymuno â Hard Shell, sef gwneuthurwr cyfarpar diogelu byd-eang i gynhyrchu hyd at filiwn o fasgiau atal hylif y dydd yn ystod y frwydr yn erbyn COVID-19.

Gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, mae peiriannau arbenigol wedi dod o dramor er mwyn helpu i ddatblygu a chynhyrchu masgiau yn ffatri Caerdydd.

Mae’r masgiau’n cael eu cynhyrchu ar gyfer gweithwyr iechyd, gofal cymdeithasol a gweithwyr allweddol eraill yng Nghymru a gweddill y DU.

Professor Jean-Yves Maillard

Dywedodd yr Athro Jean-Yves Maillard, yr Athro Microbioleg Fferyllol yn Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn cynllunio rhywfaint o waith cydweithredol ac arloesol ar fasg N99 newydd Hard Shell, ac ein nod yw helpu i’r cwmni ddatblygu cynnyrch sy’n rhoi manteision sylweddol i amddiffyn staff y GIG rhag COVID-19.”

Wrth siarad am y bartneriaeth a gwaith cyfredol Hard Shell i gynyddu’r cynhyrchiant dywedodd Anil Kant, y Prif Weithredwr: “Rydym yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd a mentrau rhanbarthol eraill ar ein cynhyrchion presennol a’n rhai ar gyfer y genhedlaeth nesaf a byddwn yn gweithio’n ddiflino dros yr wythnosau nesaf i gynyddu cynhyrchiant a chreu rhwng 250,000 a miliwn o fasgiau y dydd.”

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wrth siarad am yr angen am fusnes er mwyn helpu i guro’r Coronafeirws: “Mae cyfraniad sylweddol cwmnïau Cymru a’u hawydd a’u hegni i ymateb i’r galw wedi bod yn wirioneddol wych a hoffwn ddiolch i bob un cwmni am bopeth y maent yn ei wneud.”