Skip to main content

Doctoral Academy team

Cwrdd â’r tîm!

7 February 2024

Rydym yn falch ein bod wedi recriwtio sawl aelod newydd o staff yn ystod y misoedd diwethaf, ac edrychwn ymlaen at y newidiadau a’r gwelliannau y byddwn yn gallu eu gwneud gyda’n tîm newydd.

Yn ein neges ddiweddaraf ar y blog, mae Bethany Fairhurst, y Swyddog Datblygu ac Ymgysylltu Cymunedol a Sophia Wigley, y Swyddog Dysgu a Datblygu, yn cyflwyno eu hunain ac yn dweud wrthym sut y maent yn gobeithio cyfrannu at yr Academi Ddoethurol ac at ein cymuned ymchwil ôl-raddedig.

Helo. Beth ydw i, a fi yw eich Swyddog Datblygu ac Ymgysylltu â’r Gymuned.
Fy swydd yw eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a phrofiadau y tu allan i’ch maes ymchwil unigol.

Cyn gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd, fe wnes i gwblhau fy PhD yn y gwyddorau cymdeithasol ym Mhrifysgol Huddersfield a gweithio yn Undeb Myfyrwyr Huddersfield gyda chynrychiolwyr myfyrwyr i wella profiadau myfyrwyr.

Byddwch chi’n fy ngweld o amgylch adeilad yr Academi Ddoethurol ym Maes yr Amgueddfa ac mewn sesiynau hyfforddi a digwyddiadau amrywiol yr AD. Rydw i’n edrych ymlaen at gwrdd â mwy o ymchwilwyr ôl-raddedig, clywed hanes eich ymchwil a datblygu ein cymuned ymchwil ôl-raddedig gyda’n gilydd!


Helo. Sophia ydw i, a fi yw Swyddog Dysgu a Datblygu’r Academi Ddoethurol. Yn fy swydd, rydw i’n hwyluso’r gwaith o wella a darparu amgylchedd dysgu a datblygu Prifysgol Caerdydd ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Mae hyn yn cynnwys nodi blaenoriaethau yn ogystal â chydgysylltu a chyflwyno cyfleoedd dysgu a datblygu. Rydw i hefyd yn helpu i adeiladu cymunedau ymarfer yn ogystal â chefnogi ceisiadau am ysgoloriaeth.

Dechreuais fy ngyrfa ym myd Addysg Uwch mewn Undebau Myfyrwyr yn gweithio ym maes Llais a Chynrychiolaeth y Myfyrwyr. Yna, symudais draw i Brifysgol Caerdydd lle mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar brofiad y myfyrwyr ac ymgysylltu â’r myfyrwyr. Rydw i wedi gweithio i’r Brifysgol ers dros 7 mlynedd. Mae gen i gymwysterau Prince2 mewn Rheoli Prosiectau ac rydw i wedi arwain a bod yn rhan o sawl prosiect sydd wedi canolbwyntio ar wella profiad y myfyrwyr.

Rydw i’n angerddol am newid a arweinir gan fyfyrwyr ac yn gobeithio cael eich mewnbwn ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud. Gallwch chi ddod o hyd i mi yn adeilad yr Academi Ddoethurol ym Maes yr Amgueddfa, ac rydw i’n edrych ymlaen at gwrdd â chi yn ein digwyddiadau.