Skip to main content

PGR JourneysResearchSocial Sciences

O’r diwrnod cyntaf i’ch adolygiad cychwynnol – pedwar awgrym defnyddiol er mwyn dechrau eich PhD ar y trywydd iawn!

19 March 2024

Luret Lar, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Yn dilyn y cyffro a’r teimlad o ryddhad wrth i mi orffen fy ngradd Meistr mewn Dulliau Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (Polisi Cymdeithasol), roeddwn i’n edrych ymlaen at seibiant hir! Serch hynny, fe wnes i ddechrau fy PhD tua mis ar ôl cyflwyno fy nhraethawd hir ar gyfer fy ngradd Meistr.

Roeddwn yn ansicr, ond roeddwn hefyd yn teimlo’n obeithiol ac yn angerddol am fy ymchwil. Rydw i wedi dysgu’r pum peth canlynol o’r ychydig fisoedd cyntaf o astudio ar gyfer fy PhD yr hoffwn eu rhannu gyda chi.

1) Ceisiwch osgoi llusgo eich traed – Ceisiwch wneud cymaint â phosibl pan fydd angen ei wneud. Mae gadael gwaith pwysig sydd i fod i gael ei gwblhau heddiw tan yfory yn beth peryglus, yn enwedig pan fydd y diffyg egni a’r ofn o ddechrau’r gwaith yn eich rhwystro. Mae amser yn hedfan! Aeth y cyfnod rhwng dechrau’r PhD ym mis Hydref ac 11 Rhagfyr, pan oedd yn rhaid i mi gyflwyno gwaith, heibio yn gyflym iawn. Mae hefyd yn bwysig i beidio â thanbrisio’r gwaith papur, nifer y dogfennau sydd i’w cyflwyno, neilltuo amser ar gyfer goruchwylio a’r gwyliau Nadolig. Felly, mae neilltuo amser penodol i ddarllen ac ysgrifennu yn orfodol.

2) Cymerwch berchnogaeth o’ch ymchwil ond cofiwch fanteisio ar brofiad eich goruchwylwyr – Er bod yn rhaid i chi gymryd perchnogaeth o’ch ymchwil, peidiwch ag anghofio bod goruchwylwyr yno bob amser i’ch cefnogi. Roeddwn i eisiau gwneud mwy nag oeddwn i’n gallu, ond diolch byth rhoddodd fy ngoruchwylwyr awgrymiadau a chwestiynau i mi a oedd yn fy nghadw i feddwl. Mae hyn o ganlyniad i’w profiad a’u harbenigedd. Am wythnosau lawer, mi wnes i feddwl ‘Sut alla i ddatblygu prosiect academaidd heb lawer o amser? Fodd bynnag, lle’r oeddwn yn amharod ac nad oedd gen i ddigon o hyder i wneud penderfyniadau beiddgar, helpodd y goruchwylwyr i’m tywys o fy nghynllun uchelgeisiol cychwynnol i gynllun ymchwil culach a mwy ymarferol y gallwn ei gyflawni o fewn yr amserlen PhD. Yn wir, mae cefnogaeth fy ngoruchwylwyr yn rhodd amhrisiadwy.

3) Defnyddiwch y cymorth sydd ar gael cyn gynted â phosibl – Mae’r Academi Ddoethurol yn adnodd cyfoethog iawn i ymgysylltu ag ef yn ystod y cyfnod hwn o’ch astudiaethau. Rwy’n cofio fy sesiwn Dechrau Arni ar-lein a’r teimladau cymysg a gefais wrth ddechrau. Fodd bynnag, roedd y sesiynau trafod yn bwysig er mwyn tawelu fy meddwl. Sylweddolais fod fy syniadau a’n teimladau yn debyg i rai fy nghyd-fyfyrwyr. Roedd pawb yn teimlo yr un mor nerfus ac ansicr. Wrth i mi chwilio am sesiynau hyfforddi a digwyddiadau i gofrestru ar eu cyfer, roeddwn i’n meddwl y byddai rhai yn rhy gynnar i mi, ond rwy’n falch fy mod wedi ymuno â nhw. Roeddwn i’n gallu llenwi fy nhempled dadansoddi anghenion hyfforddi ac fe wnes i adeiladu a chryfhau fy hyder a’m gallu, yn enwedig yn ysgrifenedig hefyd. Ar ben hynny, cwrddais â myfyrwyr PhD eraill, dysgais am eu hymchwil, cefais gyfle i rwydweithio, a chefais syniadau ar gyfer datblygu fy ngwaith trwy’r cysylltiadau hyn.

4) Mae’n bosibl, felly ewch amdani! – Er gwaethaf yr heriau, roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i mi gwblhau adolygiad cychwynnol boddhaol. Ar y dechrau, roedd yn ymddangos yn frawychus, yn peri ynysigrwydd ac yn teimlo’n amhosib. Fodd bynnag, trwy ddyfalbarhau a thrwy fy mhrofiad bywyd, ni roddais y gorau iddi, ac rwy’n hynod o falch fy mod wedi gwneud hynny. Felly, gallai fy mhrofiad fod yn wahanol i’ch un chi, ond gobeithio eich bod wedi dysgu rhywbeth o fy mhrofiad i a’ch bod chi’n gwybod y gallwch chi fynd amdani hefyd!