
Ynys Môn fydd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, rhwng 5 a 12 Awst. Drwy gydol yr wythnos, bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau dan ein thema ar gyfer 2017, Cysylltu Caerdydd – sut mae Prifysgol Caerdydd a’i myfyrwyr, ei staff a’i chyn-fyfyrwyr wedi eu cysylltu â Chymru a thu hwnt.
Fel rhan o’r Eisteddfod, hoffem eich gwahodd i ymuno â ni a hen ffrindiau a chyd-fyfyrwyr am sgwrs anffurfiol dros gaws a gwin. Dyma’r cyfle perffaith i gael y newyddion diweddaraf am Brifysgol Caerdydd, clywed am y cyfleoedd sydd ar gael i’n cynfyfyrwyr, a rhannu eich hoff atgofion o fod yn y Brifysgol ar ein “coeden negeseuon”.
Manylion y Digwyddiad:
Dyddiad: Dydd Gwener 11 Awst
Lleoliad: Pabell Prifysgol Caerdydd
Amser: 15.00-17.00
Digwyddiad rhad ac am ddim yw hwn, ac nid oes angen cadw lle. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn yr Eisteddfod.
Rhaglen lawn digwyddiadau Prifysgol Caerdydd yn yr Eisteddfod |