Skip to main content

Digital education

Croeso i LinkedIn Learning!

10 March 2021
College girl study for exam
College girl study for exam

Os ydych eisoes wedi clywed am LinkedIn Learning, byddwch yn gwybod mai platfform ar-lein yw, sy’n cynnwys miloedd o gyrsiau byr, ar-lein ynghylch sgiliau proffesiynol, technegol a chreadigol. Ychwanegir cynnwys newydd bob wythnos, a ph’un a ydych am wella eich sgiliau cyfweliad, eich sgiliau rheoli amser (neu bobl) neu ddysgu sut i droi’n artist trefol, mae rhywbeth at ddant pawb.

Fel arfer, mae tanysgrifiad unigol, blwyddyn o hyd, yn costio £200 ond rydym wrth ein boddau’n cyhoeddi bod gan yr holl fyfyrwyr a staff fynediad at LinkedIn Learning am y tair blynedd nesaf. Ond beth yw ystyr hyn? A sut gallwch chi ei ddefnyddio?

Gellir defnyddio cyrsiau LinkedIn Learning mewn sawl ffordd. Gallwch ategu ac ychwanegu at eich DPP a churadu eich ‘llwybr dysgu’ eich hun i wella’ch sgiliau personol, proffesiynol a chreadigol. Gallwch hefyd guradu cynnwys ar gyfer eich myfyrwyr ac ehangu nifer yr adnoddau ar-lein sydd wedi’u hymgorffori mewn dylunio rhaglenni a modiwlau. Gallwch hyd yn oed guradu cynnwys ar gyfer eich timau.

Yn hanfodol i fyfyrwyr, yn ogystal â manteisio ar brofiad ar-lein cyfoethocach drwy eu cyrsiau, bydd mynediad at LinkedIn Learning yn ffordd ddefnyddiol dros ben o feithrin sgiliau craidd ar gyfer dysgu a’r byd gwaith.

Os hoffech ddechrau gweld beth sydd gan LinkedIn Learning i’w gynnig, gallwch ddefnyddio’r wefan hon nawr trwy fynd i https://www.linkedin.com/learning/activate i gael cyfarwyddiadau cofrestru personol ac actifadu eich trwydded rad ac am ddim. Yr unig beth sydd ei angen arnoch yw eich cyfeiriad ebost Prifysgol Caerdydd.

Cynhaliwyd sesiynau ‘Croeso i LinkedIn Learning’ i staff a myfyrwyr yn ddiweddar. Gwyliwch y sesiwn i fyfyrwyr yma:

Os hoffech ddarganfod mwy am LinkedIn Learning, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag Arweinydd Cyflwyno Prosiectau CESI (Bex Ferriday) drwy ebostio: FerridayR@caerdydd.ac.uk