Skip to main content

Postiadau blog diweddaraf

Croeso i garreg filltir Syniadau Mawr Cymru

Croeso i garreg filltir Syniadau Mawr Cymru

Postiwyd ar 31 Mai 2021 gan Peter Rawlinson

Mewn dim ond pum mlynedd, mae dros 300,000 o bobl ifanc ledled Cymru wedi cael eu hysbrydoli i ddilyn uchelgeisiau entrepreneuraidd trwy wasanaeth Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru. Ac yn hytrach na lleihau dyheadau, mae pandemig COVID-19 wedi ysbrydoli myfyrwyr i sefydlu mentrau. Yma, mae Rhys Pearce-Palmer, Rheolwr Menter, yn edrych ar y rhagolygon ar gyfer mentrau myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.   Gobeithio bod cael 300,000 yn cofrestru yn arwydd o'r pethau sydd i ddod. Rydym wedi gweithio'n agos ers blynyddoedd lawer gyda gwasanaeth entrepreneuriaeth ieuenctid Llywodraeth Cymru, sydd wedi cyrraedd y garreg filltir hynod hon trwy ei Rhwydwaith Model Rôl. O dan y cynllun, mae entrepreneuriaid ledled Cymru, wedi ymuno â rhwydwaith Model Rôl Syniadau Mawr Cymru i rannu eu profiad â darpar entrepreneuriaid trwy weithdai, gyda'r nod o agor meddyliau pobl ifanc i syniadau a chyfleoedd newydd sy'n bodoli a'u helpu i feddwl yn gadarnhaol am eu dyfodol eu hunain. Mae graddedigion Prifysgol Caerdydd yn cael eu cyfrif yn y ffigurau gwych hyn. Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau i fyfyrwyr fel y gallant ddechrau olrhain eu taith o'u blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol. Rydym yn codi ymwybyddiaeth o ddechrau cyfnod myfyriwr israddedig yng Nghaerdydd, gan helpu i wireddu syniadau gyda phecynnau cymorth cychwynnol a mentora wedi'u teilwra . Mae’r rhain yn cynnwys gweithdai ar ddechrau busnes a sgiliau cyflogadwyedd, desg i weithio yn rhad ac am ddim, ychydig o gyllid, profiadau busnes a'n Gwobrau i Fusnesau Newydd. Rydym yn hynod falch o'r cymorth i fusnesau newydd a'r ecosystem yn y brifysgol, yr ydym wedi'i gwella dros y blynyddoedd diwethaf gyda chefnogaeth gan Syniadau Mawr Cymru, Llywodraeth Cymru - ac mae ein myfyrwyr entrepreneuraidd yn parhau i'n hysbrydoli, ein herio a'n syfrdanu. Ers i Syniadau Mawr Cymru ddechrau ym mis Ionawr 2016, mae wedi cefnogi 402 o entrepreneuriaid ifanc i ddechrau eu busnes eu hunain ac wedi cyflwyno ym mhob ysgol uwchradd ledled Cymru. Mae o leiaf 90 o raddedigion Caerdydd wedi'u cynnwys yn y ffigurau trawiadol hyn. Mae mecanwaith cefnogi Cymru arall ar gyfer entrepreneuriaeth - […]

COVID-19 yn taflu goleuni newydd ar drais a sut i’w atal.

COVID-19 yn taflu goleuni newydd ar drais a sut i’w atal.

Postiwyd ar 21 Mai 2021 gan Peter Rawlinson

Yn ei astudiaethau PhD yn yr 1980au, parodd Jonathan Shepherd ddata'r heddlu â chofnodion adran achosion brys ysbytai o bobl a anafwyd mewn trais. Yn frawychus, ni chynrychiolwyd tri chwarter […]

Blog SIOE 2021 

Blog SIOE 2021 

Postiwyd ar 10 Mai 2021 gan Peter Rawlinson

Roedd yn bleser mawr croesawu ffrindiau hen a newydd i'r 34ain Gynhadledd Lled-ddargludyddion ac Opto-electroneg Integredig (SIOE), o 30 Mawrth i 1 Ebrill 2021.   Yn dilyn gorfod canslo SIOE yn 2021, […]

Cartref Arloesedd ôl-bandemig  

Cartref Arloesedd ôl-bandemig  

Postiwyd ar 4 Mai 2021 gan Peter Rawlinson

Bydd drysau'r cyfleuster arloesedd mwyaf o'i fath yng Nghymru yn agor yr hydref hwn. Mae Campws Arloesedd Caerdydd (CIC) wedi troi hen iard reilffordd yn Gartref Arloesedd, lle bydd meddylwyr yn cwrdd â chydweithredwyr a chyllidwyr i […]

Tywys gyrfaoedd y trydydd sector drwy Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs)

Tywys gyrfaoedd y trydydd sector drwy Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTPs)

Postiwyd ar 26 Ebrill 2021 gan Peter Rawlinson

Gall Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) ddwyn buddion i unrhyw sefydliad – nid busnesau yn unig, ond hefyd i fentrau cyhoeddus a mentrau’r trydydd sector. Nid yw elusennau’n eithriad. Arweiniodd Coralie […]

Gall Deallusrwydd Artiffisial (AI) fod yn fwy deallus nag ymosodiadau seiber  

Gall Deallusrwydd Artiffisial (AI) fod yn fwy deallus nag ymosodiadau seiber  

Postiwyd ar 19 Ebrill 2021 gan Peter Rawlinson

Bydd sylweddoli ar arwyddion cynnar ymosodiadau seiber - ac amddiffyn yn eu herbyn yn awtomatig - yn rhan o sail rhaglen ymchwil ac arloesedd newydd a ariennir rhwng Airbus a Phrifysgol Caerdydd. Mae'r ddau sefydliad wedi […]

Bancio teyrngarwch

Bancio teyrngarwch

Postiwyd ar 12 Ebrill 2021 gan Peter Rawlinson

Mae Zeet yn fusnes FinTech newydd a chyffrous sy’n tyfu’n gyflym lle gall cwsmeriaid gasglu pwyntiau teyrngarwch wrth ddefnyddio eu cardiau banc - gan roi diwedd ar gasglu llwyth o […]

Datblygiad proffesiynol wrth wraidd twf clwstwr Lled-Ddargludyddion yn y dyfodol.

Datblygiad proffesiynol wrth wraidd twf clwstwr Lled-Ddargludyddion yn y dyfodol.

Postiwyd ar 8 Ebrill 2021 gan Peter Rawlinson

Wrth i'r DU baratoi ar gyfer dod drwy’r pandemig yn raddol, mae tystiolaeth yn awgrymu y bydd technoleg yn parhau i ffynnu. Disgwylir i'r marchnadoedd byd-eang sy'n dod i'r amlwg […]

Clwstwr yn ail-ddychmygu Ymchwil a Datblygu ar gyfer y diwydiannau creadigol

Clwstwr yn ail-ddychmygu Ymchwil a Datblygu ar gyfer y diwydiannau creadigol

Postiwyd ar 29 Mawrth 2021 gan Peter Rawlinson

Mae Clwstwr yn rhaglen uchelgeisiol i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd i’r sgrîn a newyddion. Mae Clwstwr yn gosod arloesedd wrth galon cynhyrchu cyfryngol yn ne Cymru i symud […]

Torri ffiniau, adeiladu pontydd

Torri ffiniau, adeiladu pontydd

Postiwyd ar 22 Mawrth 2021 gan Peter Rawlinson

Mae 'bocs adnoddau' ar gyfer ymchwil ac arloesedd y gwyddorau cymdeithasol ar waith yng nghanol Caerdydd. Dros yr ychydig wythnosau nesaf, mae labordai newydd yn cael eu gosod y tu allan i […]