Skip to main content

PartneriaethauPobl

Cyffrous ar gyfer yr agenda arloesedd yng Nghymru.

21 Mehefin 2021

Mae’n gyfnod cyffrous ar gyfer yr agenda arloesedd yng Nghymru. Mae’r Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymgymryd ag ymchwil yn ddiweddar ochr yn ochr â llywodraeth Cymru gan ystyried safbwyntiau mwy na 50 o randdeiliaid ar bolisi arloesedd presennol a lle hoffen nhw gael datblygiad pellach yn y dyfodol.

Siaradodd Business News Wales â’r Athro Rick Delbridge, Athro dadansoddiad sefydliadol yn Ysgol Busnes Caerdydd ym Mhrifysgol Caerdydd, a Chyd-gynullydd y Ganolfan Ymchwil Polisi Arloesedd.

Siaradodd yr Athro Delbridge am adnewyddu’r fframwaith ar strategaeth ymchwil a datblygu a gwaith Buddsoddi Ymchwil a Datblygu’r DU – a beth mae’r datblygiadau hyn yn ei olygu i Gymru, wrth i awydd am agenda arloesedd mwy uchelgeisiol a chynhwysol gael ei ddatgelu.

Yn ôl yr Athro Delbridge, mae angen dealltwriaeth ddyfnach o arloesedd sy’n ein cymryd y tu hwnt i safbwynt sy’n canolbwyntio ar wyddoniaeth neu’r gwaith o gynhyrchu technoleg newydd yn unig. Er bod y rhain yn feysydd gwerthfawr i barhau i ganolbwyntio arnynt, mae’n bwysig bod y term Arloesedd yn cael ei ystyried mewn ystyr llawer ehangach- Un sy’n arddangos gwerth sy’n gymdeithasol o ran natur, ac nid economaidd yn unig.

Mae datblygiad sbarc yn cyd-fynd â’r safbwynt hwn y gellir ystyried maes arloesedd yng Nghymru fel rhywle y gellir dibynnu arno ar gyfer meddwl sy’n seiliedig ar genadaethau, gan ei fod yn cynnig ei hun fel rhywle i brofi a threialu syniadau.

Mae sbarc yn barod yn gweithio ar feysydd megis cynllunio a chyflwyno cronfa her, mewn partneriaeth â’r Lab a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, er mwyn helpu i ddarparu cymorth ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus sy’n ceisio mynd i’r afael â materion cymdeithasol, ac mae’r Athro Delbridge yn rhoi manylion am yr effaith y gall parc ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ei chreu o ran incwm a lles economaidd yng Nghymru.

Cliciwch isod i glywed y cyfweliad llawn gyda’r Athro Rick Delbridge ar botensial gweithgaredd a arweinir gan arloesedd a’r hyn y mae angen i Gymru ei wneud er mwyn mynd i’r afael â chyfleoedd sydd i ddod a manteisio arnynt.