Skip to main content

Postiadau blog diweddaraf

Ysgogi Arloesedd

Ysgogi Arloesedd

Postiwyd ar 25 Ionawr 2021 gan Peter Rawlinson

Wythfed gynhadledd flynyddol prif symposiwm Sefydliad Catalysis Caerdydd ar-lein yn parhau i ddenu siaradwyr gorau y byd academaidd a diwydiannol. Cyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Duncan Wass, yn amlinellu llwyddiant y digwyddiad diweddar.  “Mae wedi bod yn uchafbwynt calendr Sefydliad Catalysis Caerdydd ers amser maith. Mae Cynhadledd Flynyddol CCI yn denu arbenigwyr o bob cwr o'r byd. Rydyn ni'n cwrdd fel arfer am ddeuddydd, ac yn mwynhau darlithoedd, cinio a chyflwyniadau gan ymchwilwyr ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, ynghyd â chinio penodol i ddiolch i'n cydweithwyr am eu cefnogaeth barhaus.  “Er gwaethaf heriau’r pandemig, parhaodd ein digwyddiad yn 2021 i gyfuno arbenigedd academaidd a chymwysiadau diwydiannol. Fe wnaeth tua 120 o westeion fewngofnodi i'n sesiynau ar-lein dros ddau hanner diwrnod.   Ymhlith ein siaradwyr o fri roedd yr Athro Ben Davies FRS, Prifysgol Rhydychen. Amlinellodd ffocws ei grŵp ymchwil ar ddealltwriaeth gemegol a datblygu swyddogaeth biomoleciwlaidd, gyda phwyslais ar garbohydradau a phroteinau.  Ac roedd yn hyfryd croesawu’r Athro Nora de Leeuw yn ôl i Gaerdydd, er yn rhithiol. Yn arbenigwr mewn cemeg gyfrifiadurol, bu Nora yn Rhag Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop yng Nghaerdydd, cyn ymuno â Phrifysgol Leeds fel Deon Gweithredol cyntaf y Gyfadran Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg.  Rhannodd yr Athro Regius John Bower, Prifysgol Lerpwl, fewnwelediadau ei grŵp ymchwil i gatalysis synthesis organig, tra rhoddodd Dr Alfred Hass gipolwg hynod ddiddorol i ni ar waith HTE - cwmni o'r Almaen sy'n arbenigo mewn arbrofi trwybwn uchel.   Gellir crynhoi'r neges gyffredinol, drawiadol, a mwyaf pleserus o ddigwyddiad eleni mewn un gair: cynnydd. Yn ystod y cyfnod anodd yma, mae gwyddonwyr catalytig yn parhau i wneud cynnydd ac yn awyddus i rannu eu canlyniadau. Rwy'n credu bod hyn yn dangos gwytnwch ymchwilwyr yn y CCI ac yn ehangach, hyd yn oed o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol.  Rydyn ni wrth ein bodd bod cymaint o arbenigwyr wedi dewis ymuno â ni ar-lein eleni: mae'n dystiolaeth glir nid yn unig o'n statws fel canolfan ryngwladol flaenllaw ar gyfer gwyddoniaeth catalyddu, ond hefyd o ysbryd y diwydiannau a'r sefydliadau academaidd rydyn ni'n gweithio gyda nhw .  Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd wyneb yn wyneb, ysgwyd llaw a rhannu pryd o fwyd yn 2022. Wrth i ni symud i mewn i Hwb Ymchwil Drosiadol pwrpasol ar Gampws Arloesedd Caerdydd, ynghyd â labordai o'r radd flaenaf, uned microsgopeg a chyfres o swyddfeydd newydd, gobeithiwn y bydd yn flwyddyn nodedig i'r Sefydliad.    O'r Cartref Arloesedd hwn, bydd CCI yn chwarae rhan allweddol yn ein hadferiad trwy ddatblygu technolegau newydd sydd eu hangen i gyflawni nodau sero net […]

Bancio ar arloesi

Bancio ar arloesi

Postiwyd ar 18 Ionawr 2021 gan Peter Rawlinson

Mae Banc Datblygu Cymru yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i droi ymchwil yn gynhyrchion a phrosesau sy'n gyrru ffyniant. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n rhannu gwybodaeth i feithrin busnesau cartref. Yma, […]

Ymateb cadarnhaol i fodiwlau DPP newydd

Ymateb cadarnhaol i fodiwlau DPP newydd

Postiwyd ar 14 Ionawr 2021 gan Peter Rawlinson

Mae gweithwyr y sector cyhoeddus wedi canmol manteision y modiwlau DPP o'r MSc newydd mewn Dadansoddeg Data i'r Llywodraeth (MDataGov). Darperir yr MSc drwy'r bartneriaeth strategol rhwng y Swyddfa Ystadegau […]

Ydych chi’n un o Arweinwyr AI a Roboteg y Dyfodol?

Ydych chi’n un o Arweinwyr AI a Roboteg y Dyfodol?

Postiwyd ar 11 Ionawr 2021 gan Peter Rawlinson

Pobl a Robotiaid, AI tebyg i bobl, AI Moesegol ac Esboniadwy, Technolegau a Chymdeithas sy'n Canolbwyntio ar bobl ...dyna ambell thema ddyfodolaidd a fydd yn cael eu trafod ymysg eraill […]

Y dyfodol ar gyfer bwyd cynaliadwy

Y dyfodol ar gyfer bwyd cynaliadwy

Postiwyd ar 6 Ionawr 2021 gan Peter Rawlinson

Mae arbenigwyr o Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy (PLACE), Prifysgol Caerdydd yn dweud bod systemau bwyd cynaliadwy a chyfiawn yn bwysicach nag erioed yn ystod pandemig COVID-19. Ymunodd academyddion o'r Sefydliad […]

Ymateb i her 2020

Postiwyd ar 16 Rhagfyr 2020 gan Peter Rawlinson

https://youtu.be/3OZ_gb2qC3E Er gwaethaf treialon llwm 2020, parhaodd arloesedd yng Nghaerdydd. Ffynnodd partneriaethau, llwyddodd pobl dalentog i sicrhau cyllid ac roedd lleoedd arloesi yn y dyfodol yn anelu'n syth at gael eu cwblhau.   Darparodd Cronfa Arloesedd Ymchwil Cymru HEFCW adnoddau ychwanegol i'w croesawu i gefnogi ein hecosystem piblinell a menter deillio, wedi'i halinio â strategaeth wedi'i hadnewyddu, Y Ffordd Ymlaen - canllaw i helpu'r Brifysgol i chwarae rhan weithredol yn adnewyddiad Cymru ar ôl COVID-19.  Gwnaeth mwy o fyfyrwyr nag erioed o'r blaen ymholiadau am fentora busnes un-i-un yn 2020. Casglodd SPARK - Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithas - fomentwm drwy enillion cyllid a rennir a phrosiectau ymchwil cymdeithasol COVID ar y cyd ar draws grwpiau o aelodau.   Nododd Sefydliad Catalysis Caerdydd a'r Sefydliad ar gyfer Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – a fydd yn gwneud eu cartref ar ein campws arloesi yn y dyfodol – lwyddiannau nodedig hefyd.   Yma, rydym yn amlinellu rhai o lwyddiannau arloesedd Caerdydd yn 2020:  Ionawr Y 'grisiau oculus' o ddylunio i realiti Mae Prifysgol Caerdydd yn cymryd cyfran o £18.5 miliwn mewn cyllid ar gyfer hyfforddiant ymchwil ôl-raddedig mewn biowyddorau gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) ar gyfer Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol (DTP).   Mae'r set olaf o 'risiau ocwlws' wedi'i gosod yn adeilad sbarc I spark – Cartref Arloesedd Caerdydd yn y dyfodol, lle mae ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol, myfyrwyr mentrus, sefydliadau allanol ac entrepreneuriaid yn cysylltu, cydweithredu a chreu.   Mae ymchwilwyr Caerdydd yn nodi cysylltiad genynnol newydd â sgitsoffrenia – mae'r astudiaeth fwyaf o'i math yn taflu rhagor o oleuni ar achosion sylfaenol. Mae'r darganfyddiad o gell T newydd yn cynyddu’r gobeithion o therapi canser ‘cyffredinol’.   Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd yn cynnal ei chynhadledd flynyddol, gan gyflwyno gweledigaeth ar gyfer twf glân. Ac mae DECIPHer yn datgelu graddfa camddefnyddio sylweddau ymhlith pobl ifanc mewn gofal preswyl.   Chwefror  Caerdydd yn […]

Gyrru gyrfaoedd graddedig llwyddiannus

Gyrru gyrfaoedd graddedig llwyddiannus

Postiwyd ar 10 Rhagfyr 2020 gan Peter Rawlinson

Hyd yn oed cyn 2020, roedd ansicrwydd cynyddol ynghylch rhagolygon gyrfa pobl ifanc. Cyflymodd y pandemig COVID-19 y pryder hwnnw - a sbardunodd yr ymchwil am atebion. Yn y blog […]

Llywio Lleoedd: AGWEDD newydd ar CAUKIN

Llywio Lleoedd: AGWEDD newydd ar CAUKIN

Postiwyd ar 2 Rhagfyr 2020 gan Peter Rawlinson

Mae cwmni graddedig o Brifysgol Caerdydd CAUKIN Studio wedi bod yn creu effaith drwy bensaernïaeth ers pum mlynedd. Gan weithio gyda chymunedau, cyrff anllywodraethol, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol, mae CAUKIN […]

Hyrwyddo Arloesedd Myfyrwyr

Hyrwyddo Arloesedd Myfyrwyr

Postiwyd ar 25 Tachwedd 2020 gan Peter Rawlinson

Ydych chi’n fyfyriwr ac oes syniad mawr gyda chi? Mae tîm Menter a Dechrau Busnes Prifysgol Caerdydd yn arwain dau brosiect i hyrwyddo arloesedd myfyrwyr a phrosiectau entrepreneuriaeth ar draws […]

Partneriaeth ar gyfer polisi cyhoeddus gwell

Partneriaeth ar gyfer polisi cyhoeddus gwell

Postiwyd ar 20 Tachwedd 2020 gan Peter Rawlinson

Caiff arloesi mewn polisi cyhoeddus ei seilio ar ymddiriedaeth dros amser. Ar ôl blynyddoedd o weithio ar y cyd, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) a Phrifysgol Caerdydd wedi creu partneriaeth […]